Mawrth 10, 2006

Gwyl Ffilmiau WOW! (Aber, 10-16 Mawrth)

Mae'r Wyl ffilmiau deithiol WOW! wedi cyrraedd Aber a dwi'n edrych mlaen yn eiddgar i weld y ffilmiau tramor sydd ganddyn nhw. Mae'r wyl yn adnabyddus am ddangos ystod o ffilmiau tramor sydd byth fel arfer yn cyrraedd sgriniau pellafion Cymru.

Dyma blyrb Cymraeg y Ganolfan Gelfyddydau [gan nad oes gair o Gymraeg ar wefan yr wyl ei hun...]:

"Croesawn Wyl Ffilmiau WOW! Cymru a'r Byd yn Un gyda dewis ardderchog o ffilmiau o bedwar ban byd. Cawn fwynhau'r dangosiad cyntaf ym Mhrydain o ddwy ffilm - o Afghanistan 'Earth & Ashes' ac o Tsieina 'Night & Day', enillydd y brif wobr yng Ngwyl y Tri Chyfandir yn Naoned y llynedd! O America Ladin, cawn gomedi o'r enw 'Sex With Love', a disgwyliwn ffilm ddogfen arbennig o Giwba sy'n dapestri gweledol o ddelweddau hudolus o ddinas Havana. Gweler wefan y gwyl www.wowfilmfestival.org, neu cliciwch ar y doleni am fanylion pellach ac i archebu ar-lein, neu cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau ar 01970 623232."

Mae'n bur debyg felly fod holl bosteri a deunydd marchnata yn uniaith Saesneg hefyd. Pam fod hyn yn cael digwydd? Mae na reolau iaith gyda arian cyhoeddus shwrli? Mynd bach yn erbyn yr holl ethos yr wyl peth fymryn yndi ddim? Gawn ni ddangos holl amrywiaeth gwych y byd a'u ieithoedd egsotig gwych...ond sna'm lle i'r Gymraeg.

Ta waeth, geith y ffilmiau siarad drostynt eu hunain - dwi'n mynd i weld yr ennillydd Oscar am ffilm dramor orau hen - Tsotsi.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mawrth 10, 2006 12:46 yh
Sylwadau

Just nodyn i weud bydd gwyl WOW yn cyrraedd Caerdydd dydd Gwener yma (17eg) a'n aros tan y 26ain. Manylion ar wefan Chapter, lle mae'n nhw'n cynnig dêl wych 3 tocyn am bris 2! Wy'n edrych 'mlaen at 'Cave of the Yellow Dog', 'Strawberry and Chocolate' a 'Crossing the Bridge: the Sound of Istanbul'.

Postiwyd gan: Mair, Mawrth 15, 2006 09:56 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?