Dwi wedi ffendio ffilm fach ar wefan ffilmiau byr Atom Film, o'r enw "The Funeral Of the Last Gypsy King" gan Jane Rogoyska. Mae oll wedi ei ffilmio yn Borth ger Aber. Mae'n ol-reit.
Mae’n flwyddyn newydd ac felly, wrth gwrs, rhaid cael ffilm newydd gan Woody Allen. Y diweddaraf yn y gadwyn hir sy’n ymestyn nôl i’r 60au yw Melinda and Melinda, hanner comedi hanner trasiedi am un person, Melinda (Radha Mitchell), mewn dwy sefyllfa gwbl wahanol. Ac eto, yng nghwrs y ffilm, roedd rhywun yn dechrau meddwl, p’un yw’r comedi a ph’un yw’r trasiedi?
Mae’r ffilm yn dechrau mewn ffordd Allenaidd iawn, yn debyg i un o olygfeydd agoriadol clasur Allen, Manhattan, gyda grðp o bobl o amgylch bwrdd mewn bwyty, yn trafod hanfod comedi a thrasiedi. Y cwestiwn mawr ar eu gwefusau yw pa un sy’n cyfleu bywyd orau? Ar un ochr, ceir awdur ffilmiau comedi ac ar y llall, awdur dramâu trasig ar gyfer y llwyfan. Dwy ochr i gymeriad Allen drwy ddau gymeriad. O’r drafodaeth hon, cawn ddeunydd y ffilm, wrth i un arall o’r cyfeillion yn y grðp adrodd golygfa agoriadol Melinda, sydd mewn un llinyn yn cyrraedd yn annisgwyl yn nhþ ei chwaer (trasiedi) ac yn y llinyn arall ar ôl llyncu nifer o dabledi cysgu (comedi). Byddwn yn dychwelyd at y bwrdd bwyd ar wahanol adegau yn ystod y ffilm, ond yn bennaf yr hyn sy’n dilyn yw’r ddau linyn yn cael eu hactio ar y sgrin.
Yn y bôn, does yr un o’r cymeriadau yn y ffilm yn caru ei gilydd. Ar yr ochr drasig, mae priodas Laurel (Chloë Sevigny) a Lee (Jonny Lee Miller) wedi suro, sy’n arwain at garwriaethau rhyngddynt â phobl eraill ac sydd, yn y pen draw, yn arwain at y gwymp drasig olaf, pan mae Laurel yn dwyn cariad newydd Melinda, Ellis (Chiwetel Ejiofor). Yn y llall, cawn hefyd briodas sydd wedi suro, gyda’r cymeriad Allenaidd, Hobie (Will Ferrell) yn syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gyda Melinda yn dilyn methiant ei briodas gyda Susan (Amanda Peet). At beth ydyn ni fod i chwerthin? Mae’r cymeriadau’n rhai trist ac unig, ac mae Allen yn ceisio’i orau glas i gael jôcs allan ohonyn nhw, heb fod unrhyw gomedi’n perthyn i sefyllfaoedd y ffilm.
Efallai bod y ffilm yn gweld eisiau Allen ei hun. Y gðr sydd â’r dasg o lenwi ei sgidiau’r tro hwn yw Will Ferrell, un sydd yn ddigon doniol ynddo’i hun, ond sy’n methu ag ennyn yr un ymdeimlad a thosturi ag y bydd Allen wrth chwarae fe’i hun. Cawn ambell fflach o ysbrydoliaeth yn y sgript, gyda’r jôcs Woody Allen arferol, ond dydyn nhw ddim yn cael eu traethu yn ffordd sych, ddigymar Allen, ac felly mae’n teimlo bron fod y geiriau wedi cael eu gorfodi i eiriau’r actorion. Efallai’n wir mai dyma ffilm orau Allen ers dros ddegawd (meddai ‘nhw’, wrth gwrs), ond mae’r diweddglo amwys, pen agored yn awgrymu bod angen i Allen eistedd nôl ac ystyried un ffilm fawr a chlyfar i orffen ei yrfa, nid dau chwarter ffilm sy’n creu un hanner.
Mae'r cyfnodolyn ffilm Cymreig bach hwn wedi dod dros y glwyd gyntaf ac newydd gyhoeddi eu ail rifyn. Llongyfarchiadau i'r bobol sydd wedi gweithio mor galed i ddod a'r peth at eu gilydd. Camp a hanner bois.
Mae'n cynnwys llwythi o erthyglau difyr o sefyllfa'r diwydiant ffilm cynhenid (neu ddiffyg un...) i gyfweliad gyda Justin Kerrigan am ei broject newydd "I Know You Know" a llawer mwy.
Ar y wefan gallwch ddarllen rhan 1 o erthygl "The Long Hard Road" gan y cyfarwyddwr Ashvin Kumar (doeddwn i ddim wedi sylwi fod hon yn y cyfnodolyn felly falla fod hi'n egsgliwsif ar y we!).
Ewch fan hyn i archebu eich copi neu i danysgrifio.
Mae'n braf cael gweld pobol yn siarad yn onest am y sefyllfa yma ac yn ceisio rhoi lle i bobol fynegi eu barn yn rhydd. Darllen angenrheidiol i unrhywun sydd a diddordeb yn ffilm yng Nghymru ac amdan Gymru.
Os oes unrhywun a diddordeb sgwennu erthygl i'r cyfnodolyn yna anfonwch ebost at Geoff Court, golygydd POV2, geoff [at] thosepeople [dot] co [dot] uk Dwi'n siwr y buasai'n falch o gael trafodaeth o ffilm o safbwynt yr iaith Gymraeg.
Dyma'r cynnwys:
Editorial The Mitchell and Kenyon Collection Unearthed! Welsh film expert Dave Berry delves into a dusty milk churn to find the lost films of cinematic pioneers Mitchell and Keynon.Reader Submission #1: The All Wales Filmmaker’s Challenge
In the first of our forum submissions, ‘Challenge’ organiser Stuart Griffith looks back at 2004’s inaugural and inspirational competition.Show Me The Money! The Creative Industries Review: An Update
Film producer Neil Wagstaff chases down the snail that is progress within the Creative Industries Review.The Celts are Coming Home!
James Nee, festival assistant at Sgrîn, prepares for the homecoming of the Celtic Film and Television Festival in the year of the Capital’s centenary.Spring Has Sprung: Green Bay ‘Says it With FLOWERS’
Geoff Court profiles the recent lottery short Say it With Flowers, produced by Richard Staniforth of Green Bay Media and directed by Wyn Mason.Submission #2: The Horse Lords of Llanberis
The second of our reader submissions, this four-legged friend inspired article opens up the world of equine equity, or, horses that can ACT - silencing neigh-sayers, they’re gallops ahead!The Director’s Journey
This issue, Justin Kerrigan ‘Knows We Know’ about his first film since Human Traffic. A feature conversation with fellow filmmaker and HT collaborator Jason King.How Long Does it Take to Hatch a Dragon?
Katy Woodhouse investigates Dragon International and asks whether the Welsh film industry really needs a national studio.Tips of the Trade – Courage Wins the Day
Writer and Director Wyndham Price discusses about the art of screenwriting and finding the confidence to succeed in this most competitive of industries.Featured Company Profile
Cardiff-based Those People Productions.Reviews
In a triple-bill, our readers review Amma Asante’s A Way of Life and deliver their verdict. Plus, Media Law for Producer’s from Elsevier.Positive-Negative: Technological Preview
POV² takes an advance look at the new Arri D-20 HD camera.Submission #3: The Role of the Runner
Jonathan Browning, production assistant on Glamorgan-based CF1’s recent shoot Heidi, discusses the role of the unsung aspiring heroes of filmmaking – the Runners!Essentials
Jason King presents his top choices for filmmaking resources on the net.
Mae'r trefniadau ar gyfer ail noson Pictiwrs yn y Pyb eisoes yn mynd rhagddynt. Yn dilyn llwyddiant y noson gyntaf lle cafwyd dros 50 o bobl, gallwn gadarnhau y bydd y noson nesaf yn cael ei chynnal ddiwedd mis nesaf. Fodd bynnag, mae angen deunydd wastad arnom ni...
Felly, os oes gennych chi ffilmiau sy'n hel llwch mewn bocs, yn cael eu ffilmio ar hyn o bryd, neu ar y gweill, peidiwch ag oedi rhagor! Rydym yn fodlon derbyn unrhyw ffilm o unrhyw genre, cyhyd â bod y deunydd yn Gymraeg. Cysylltwch â ni felly, naill ai drwy ffilm AT pictiwrs DOT com, nwdls AT wwfmdpc DOT com neu geraint_criddle AT hotmail DOT com. Byddwn yn gwylio'r deunydd, yn gadael i chi wybod a fyddwn i'n ei ddangos, ac wrth gwrs yn rhoi gwahoddiad i chi ddod i'r noson Pictiwrs yn y Pyb lle bydd eich ffilm yn cael ei dangos.
(IMDb)
"Mae un farwolaeth yn drychineb. Mae can mil yn ystadegyn." Josef Stalin
Mae'r ffilm bwerus, emosiynol hon yn dilyn hanes y gyflafan a ddigwyddodd mewn 100 niwrnod yn Rwanda ym 1994, lle cafodd bron miliwn o bobl Tusti eu dienyddio a'u llofruddio gan y mwyafrif Hutu am feiddio bodoli yn eu gwlad. Canlyniad oedd hyn i fodolaeth Rwanda fel gwlad dan reolaeth Gwlad Belg, a gwelwn yn y gwesty, Gwesty Mille Collines, weddillion y rheolaeth wladychol hon. Ond buan y sylweddola Paul Rusesabagina (Don Cheadle), rheolwr y Mille Collines, wrth i'r llofruddio fynd rhagddo, mai gwas bach i'r Gorllewin ydyw, a dim mwy.
Mae'r ffilm yn dechrau mewn ffordd gynnil, gyda llais oeraidd dros y radio, arf peryclaf yr Hutus yn eu rhyfel aflan yn erbyn y Tutsis. Ar unwaith, llwydda Terry George, y cyfarwyddwr, i osod y naws o densiwn sy'n ymdreiddio drwy'r ffilm gyfan. Rydym yn cwrdd â Paul, rheolwr y gwesty mwyaf moethus yn Kigali, gŵr sydd yn amlwg yn ymfalchïo yn eu swydd a'r manteision sydd ynghlwm â hynny. Gwelwn ef yn cyfeillachu â chynrychiolydd y Cenhedloedd Unedig (Nick Nolte), sydd yno ar gyfer y cytundeb heddwch rhwng arlywydd y wlad a'r gwrthryfelwyr Tutsi, ac ag un o arweinwyr y gyflafan waedlyd a fydd yn dilyn, y Cadfridog Augustin Bizimungo (Fana Mokoena).
Fodd bynnag, mae'r arwyddion bach o straen a gwrthdaro a welwn yma a thraw ar y dechrau'n troi yn drais ar raddfa eang, wrth i'r Hutus ymateb yn dreisgar i lofruddiaeth honedig eu harlywydd gan y gwrthryfelwyr Tutsi drwy fynd ati â hil-laddiad yn eu herbyn. Yma, rhaid i Rusesabagina benderfynu mynd yn erbyn ei hil ac amddiffyn ei deulu hanner Tutsi, hanner Hutu a llawer mwy rhag bod yn rhan o ystadegau hanes.
Mae'r ffilm hon yn gyflawniad aruthrol i'r cyfarwyddwr. Mae'n llwyddo i gadw'r trais bob amser dan orchudd, y tu hwnt i'n golwg, fel yr oedd pethau i gynulleidfaoedd y Gorllewin ar y pryd. Gwelwn rwsytredigaeth amlwg Cyrnol Oliver (Nolte) a'r dyn camera Jack (Joaquin Phoenix) sy'n gallu gweld popeth sy'n digwydd, ond sy'n gorfod sefyll yno'n ddiymadferth, heb yr awdurdod na'r grym i ymyrryd a newid y sefyllfa. Mae abswrdaeth ac erchylltra'r sefyllfa yn dod i'r wyneb yn aml, er enghraifft, pan mae cymeriad Phoenix yn gofyn i ddwy ferch eithaf tebyg yr olwg beth yw eu statws hiliol. Mae un yn Hutu a'r llall yn Tutsi, ond ni allwn ni fel Gorllewinwyr gydnabod hyn nac amgyffred yr ôl sydd wedi'i adael ar y wlad yn yr oes ôl-goloneiddio. Daw'r erchylltra i'r wyneb mewn golygfa deimladwy ac arswydus, lle mae Paul a Gregoire, y bradwr yn y gwesty yn gyrru yn syth i ganol mynwent enfawr, heb ei chladdu. Unwaith eto, mae'n anodd amgyffred y fath beth
Afraid yw dweud gormod am y ffilm, oherwydd bod gormod i drafod yn ei chylch. Rhaid mynd i'w gweld â'ch holl syniadau am y natur ddynol, am y cymhellion sy'n gwneud i rai pobl ladd ac i rai pobl achub, a theimlo a cheisio deall.
Ddiwedd yr haf yn 2004 cynhaliwyd cystadleuaeth yr "All Wales Filmmakers Challenge". Roedd hon yn gystadleuaeth a drefnwyd gan bobol Filmwales.net (nawr yn Filmshed) i greu ffilm fer annibynnol, dim cyllideb o fewn mis.
Gallwch lwytho'r 5 ffilm i'w gwylio ar eich cyfrifiadur fan hyn. Dwi wedi gwylio yr ennillydd - "What Treasure?" gan Zoo_Buffalo o Aberystwyth: mae'n amrwd iawn o ran animeiddio ond yn reit ddoniol mewn ffordd benchwiban serch hynny.
Dyma glip o gychwyn ffilm fer newydd gan Matthew Walters a Tom Betts o'r enw "The Welsh League Of Superheroes" - rhaid dweud ma'n edrych fel laff, ac wedi'i wneud gyda sdeil.
Mae ffilm gynharach Tom, "Jump/cut", hefyd yno i'w lwytho.
Mae pethau'n bywiogi yn Shed Ffilm gyda chystadleuaeth Super-8 newydd sbon danlli ac erthygl ar ein ffrindiau hael, Those People Productions, fuodd garediced a benthyca eu hoffer taflunio ar gyfer ein annwyl "Pictiwrs Yn Y Pyb".
Mae'r gystadleuaeth Super-Duper-8 yn agored i unrhywun a'r sialens yw i greu ffilm super-8 ar un rîl heb unrhyw olygu. Yr unig dorriadau fydd ynddo fydd pan da chi'n gwasgu'r trigger i ddechrau a stopio'r camera. Yr unig ychwanegiad y cewch wneud i'r ffilm yw i roi soundtrack i chwarae yr un pryd ar CD i ychwanegu naws, ond chaiff hwn ddim ei synch-io yn iawn chwaith.
Swnio'n annodd ddiawledig dydi, ond gyda chamerau Super-8 yn mynd am cyn lleied a £20, a rol o sdoc am tua £17, be sgynnoch chi i'w golli?
Mae'r cyfweliad gyda Neil Wagstaff a Jason King o gwmni ffilm Those People yn un sy'n edrych nol ar eu hanes fel cwmni ac yn rhoi rhyw flas ar y sefyllfa sy'n gwynebu cwmniau bach annibynnol yng Nghymru'n bresennol. Dyfodol du iawn yn ol y ddau hyn, ond maent yn parhau i fod yn fythol-frwdfrydig dros ffilm, ac yn arbennig ffilm a gwneuthurwyr ffilm Cymreig. Daliwch ati bois a pheidiwch colli'r ffydd 'na, neu 'da ni gyd yn ffycd.
Mae'r ffilm "Why We Fight?" (Eugene Jarecki, 2004) a ennillodd y categori ffilmiau dogfen yn Sundance eleni yn cael dangosiad ar BBC4 ar nos Fercher y 23ain Mawrth am 10yh a 2.10yb. Ffilm yw hi sy'n archwilio polisi tramor rhyfelgar yr UDA gan gwestiynu os yw'r polisiau hynyn seiliedig ar oruchafiaeth milwrol yn hytrach na phlismona rhyngwladol a 'brwydro' terfysgwyr.
Cewch esboniad gwell drwy ddarllen y cyfweliadau a Jarecki fan hyn a fan hyn...swnio'n ddifyr.
Felly, lwyddes i fynd draw i’r cwrs (er mod i wedi cael cnoc go hegar ar fy mhen dros y penwythnos) ac roedd hi’n werth chweil eto, gyda ymaflyd gyda chydig o sgwennu creadigol eto.
Cychwynnodd y noson gan siarad am ddeialog o safbwynt actorion ac yna mymryn o drafod cyfarwyddo actorion (tip: ceisiwch gyfarwyddo actorion gyda un gair 'gweithredol' wedi'w ddewis yn ofalus, bydd yn llawer mwy effeithiol na cheisio esbonio ac yn rhoi lle iddynt adeiladu o’i gwmpas) – pwynt hyn oedd fod angen weithiau i sgwennwr sgwennu deialog gyda’r actor yn ei feddwl.
Wedi’r chydig o gefndir gofynnwyd i ni sgwennu tamaid o ddeialog ar gyfer sefyllfa yn cynnwys dau berson. Yn yr olygfa rhaid fod yno is-destun sydd ddim yn amlwg yn yr hyn sy’n cael ei ddweud – ond rhaid i’r darllennydd/gynulleidfa fod yn ymwybodol o’r is-destun hyn wrth ddarllen/clywed y ddeialog. Hynny yw – deialog sydd ddim yn expositional.
Felly, o fewn deg munud roedd rhaid sgwennu hyn...doeddwn i ddim yn hollol lwyddiannus ond dyna ni, lle i "drio --> methu --> dysgu" drosodd a throsodd ydi dosbarth ‘de. A roeddwn i’n reit hapus gyda’r deialog os nad efo fy llwyddiant yn cyfleu yr is-destun roeddwn i wedi ei fwriadu. Dwi’n meddwl y daw hyn gyda amser a deud y gwir, ac os galli do sbotio fo wrth ddarllen ddylia ti allu ei sbotio fo wedi i ti ei sgwennu.
Aethon ni wedyn ymlaen i drafod straeon (hynn yw, stori yn yr ystyr ei fod yn perthyn yn unigryw i gymeriad penodol) ymhellach ac ymlaen at themâu ac yn fanylach, dadansoddiad y gwrw sgriptiau, Phil Parker, o’r teipiau gwahanol sydd yn bodoli sydd gan amlaf yn cyfateb i thema eich ffilm.
Yr wyth a restrwyd oedd:
1. Yr angen am gyfiawnder2. Chwilio am gariad
3. Moesoldeb unigolion (e.e. rhaid i’r cymeriad wneud penderfyniad rhwng da a drwg)
4. Yr angen am drefn
5. Dilyniant pleser (e.e. natur pleser a’i gost i’r unigolyn; canlyniadau obsesiwn â rhywbeth)
6. Ofn marwolaeth
7. Ofn yr anhysbys neu’r annealladwy
8. Yr angen am ddilysiad personol (validation)
Yn amlwg mae’r ffiniau am fod yn niwlog ac yn sicr gall thema ffilm amgyffred sawl un o’r uchod, hyd yn oed gael themau gwahanol i gymeriadau a rhannau gwahanol o’r fffilm. Ond, y nod gyda deall eich thema yw deall craidd eich sgript, crisialu beth mae’r ffilm yn ei ddweud er mwyn sicrhau fod hyn yn treiddio drwy bob agweddd o’r ffilm i greu cyfanrwydd sy’n mynd ymhellach ne dim ond ‘gweithio’.
Mi es mlaen i feddwl ar y ffordd adref am driniaeth dwi wedi sgwennu, ac nad oedd thema o gwbl gen i, neu o leia dim un roeddwn wedi meddwl yn galed amdani, ac fod hyn yn cyfrannu at fy rhwystredigaeth wrth geisio creu diweddglo boddhaol a deialog credadwy. Gobeithio y bydd o gymorth ynte...
![]()
(IMDb) (Gwefan Swyddogol)
Y ‘Man on Fire’ dan sylw yn ffilm Tony Scott yw John Creasy (Denzel Washington) – cyn ‘assassin’ i’r CIA sy'n cael cynnig ar fywyd newydd fel gwarchodwr Pita (Dakota Fanning), unig ferch teulu cefnog yn Ninas Mecsico.
Daw’n amlwg fod gan Creasy broblemau personol yn deillio o’i gefndir ond gydag amser mae yn llwyddo i’w goresgyn diolch yn bennaf i’w gyfeillgarwch gyda Pita. Ond pan mae’r herwgipio anochel yn digwydd, mae Creasy yn cychwyn ar daith o drais a dinistr i ddial ar bawb a phopeth.
Un o brif wendidau ‘Man on Fire’ yw’r stori. Am yr awr gyntaf, mae’r naratif yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng Creasy a Pita gan ddefnyddio ras nofio i fapio eu taith o fod yn ‘gysylltiedig oherwydd eu sefyllfa’n unig’ i fod yn ffrindiau pennaf. Yna mae’r ffilm yn newid cywair yn llwyr. Wedi’r herwgipiad, mae Creasy yn cymryd awr a hanner i fynd o ddyn drwg i ddyn drwg fel Lee Marvin yn ‘Point Blank’ - gyda phob achos yn cyflwyno dulliau newydd o arteithio ac o ladd.
Mae ail hanner y ffilm yn teimlo fel casgliad o ‘set-pieces’ ac mae’n ddigon hawdd dyfalu pwy fydd yn ei ‘chael hi’ nesa. Dyw hyd yn oed y tro yng nghynffon y stori ddim yn ddigon i achub y plot – roedd honno hefyd yn un digon hawdd i’w darogan.
Fel pe bai’n ceisio cuddio’r gwendidau yma, mae Tony Scott wedi mynd a’i steil weledol i uchelfannau newydd yn ‘Man on Fire’. O’r dechrau i’r diwedd, mae pob elfen - y ‘crash zooms’, y ‘freeze-frames’, y gerddoriaeth uchel - yn cyfuno i ymosod ar synhwyrau’r gynnulleidfa. Ar brydiau mae hyn yn effeithiol. Mae’r steil anghonfensiynol o ddefnyddio is-deitlau er enghraifft yn drawiadol iawn ac yn llwyddo i ychwanegu at y tensiwn mewn ambell i olygfa. Ond gyda’r triciau’n cynyddu mewn nifer wrth i’r ffilm ddynesu tua’i therfyn, roedd yr arddull yn dueddol o dynnu oddiwrth yr hyn oedd yn digwydd yn y stori. Falla mai dyma oedd y bwriad!
Does dim digon o gig ar gymeriad Creasy i Washington wir arddangos ei ddoniau ond mae’n berfformiad sydd yn achub rhyw fymryn ar y ffilm. Serch hynny, dyw gorchestion yr actor yn unig ddim yn ddigon i sicrhau cydymdeimlad y gynnulleidfa tuag at Creasy. Gyda natur yr hyn sydd yn ei boeni o’i orffennol yn cael ei gadw’n amwys – mae’r ffaith ei fod yn dychwelyd at ei hen ffordd dreisgar o fyw i chwilio am iachawdwriaeth yn codi’r cwestiwn: pam ei fod o mor anhapus gyda’i gefndir yn y lle cyntaf?
Er fod ymdrechion y sgript i roi llinellau cofiadwy iddo yn methu (‘Creasy’s art is death. He’s about to paint his masterpiece.’) – mae Christopher Walken yn gwneud ei orau o rôl reit ymylol fel cyfaill Creasy, ac mae’n siom na chafodd cyfreithiwr Mickey Rourke ei ddefnyddio’n fwy.
Fe gafodd ‘Man on Fire’ ei ddisgrifio fel ‘one of Tony Scott’s best pictures’ gan neb llai na Quentin Tarantino. Yn hytrach, dwi’n awgrymu eich bod yn gwylio ‘True Romance’.
(IMDb)

(Gallwch brynu'r poster uchod fan hyn)
Ffilmiwyd hon nol yn nyddiau plentyndod S4C, pan oedd y rhagolygon ar gyfer dyfodol ffilm a theledu yng Nghymru yn, wel, roslyd iawn ac mae hynny'n adlewyrchu yn y cynhyrchiad sydd yn llawer mwy ffilmaidd na llawer o'r cynhyrchiadau diweddar i ddod o S4C.
Mae Trev (Dafydd Hywel) yn daflunwr yn sinema y REX yn y cymoedd (Theatr Y Coliseum, Trecynon), ac wedi bod ers 30 mlynedd, ond wedi i'r sinema gau gorfodir Trev i ffeindio gwaith amgen. Yn aflwyddiannus yn ei ymgeision i gael gwaith taflunio gerllaw, gorfodir ef i dderbyn gwaith fel gofalwr y sinema wag. Mae'r cwm yn drwm dan dlodi a diweithdra oherwydd diwedd diwydiant mawr, a phan ddaw ei gyn-wraig ato'n dweud ei bod yn methu talu ei morgais mae Trev yn benthyg arian gan gyn relowr y sinema er mwyn ei helpu. Ond arian a arbedodd Eli Davies (W.J.Phillips) ar gyfer ei angladd ydoedd, a chyn i Trev gael cyfle i'w dalu nôl mae Eli yn disgyn yn ddifrifol wael, gan orfodi Trev i feddwl am gynllun codi arian beiddgar sy'n dod a bywyd nol i'r hen sinema a'r gymuned, er ond am ennyd fach.
Mae'r ffilm yn cychwyn gyda montage chwerw felys o hen sinemau prydferth art-deco ar hyd a lled cymoedd De Cymru, un ai ar werth neu'n adfeilio. Mae hwn yn gosod tôn a themâu y ffilm yn gryno a buan iawn gan ddangos ar un llaw diweithdra a dirwasgedd y cyfnod a hefyd tranc y sinema leol a fu mor boblogaidd drwy'r degawdau gynt.
Mae Trev yn gymeriad hoffus, dyn syml ond dyn triw, sydd wedi gweithio'n dawel a diwyd drwy gydol ei oes yn rhoi pleser i bobol eraill drwy ei grefft fel taflunydd. Trwy ei berfformiad tawel benderfynnol Hywel yn ennyn empathi'r gwyliwr a phan mae yntau a Mona (wedi'i chwarae'n hyfryd o bositif a heulwenog gan Iola Gregory) ar y sgrin mae'n berthynas sy'n bleser i'w gwylio.
Mae hi'n ffilm fach ddigon difyr wedi'w chrefftu ym mowld y Gomedi Ealing, hynny yw ffilm gomedi ddrama weddol ysgafn gyda agweddau 'caper' wedi'u thanlinellu gyda dos o realiti cymdeithasol. Mae hi'n sicr yn ymosod ar sawl agwedd o gymdeithas y cyfnod, gan amlygu diweithdra a phroblemau teuluoedd y cymoedd oedd yn deillio o hynny, ond hefyd yn dangos gallu pobol i anghofio am eu sefyllfa a chreu hapusrwydd o beth sydd ganddynt - oll mewn ffordd sydd ymhell o fod yn nawddodglyd. Enghraifft hyfryd o hyn yw perthynas Trev gyda chymeriad Dave (Ifan Huw Dafydd) sydd wedi priodi ei gyn wraig, gan fod y ddau ddyn hyn yn mynd yn erbyn teip ac yn ceisio dod mlaen gyda'u gilydd orau posib. Does dim o'r drwgdeimlad arferol a welir yn y math yma o driongl cariad, dim ond cydymdeimlad dynol ac ymgais wirioneddol i wneud y gorau dros eu gilydd a'u plant dan amgylchaidau annodd, sydd yn ei dro yn ennyn eich cydymdeimlad chi fel gwyliwr yn llwyr.
Mae yno sawl golygfa hudolus hefyd, yn arbennig yr olygfa lle daw Mona, a oedd yn usherette yno, i'r sinema at Trev i'w helpu i lanhau cyn i'r darpar brynwyr gyrraedd. Wrth iddi hi lanhau'r llwyfan, mae Trev yn rhoi'r gan "Coming Up Roses" (o'r musical "Gypsy")ar yr uchelseinydd a fflachio'r golau sbot arni a hithau'n ymuno yn yr hwyl gan feimio a dawnsio i'r gan yr oeddent ill dau mor gyfarwydd a hi ond gan danio perthynas nad oedd yr un o'r ddau wedi rhagweld.
Mae ganddi hi ei phroblemau, mae 'na actio gwael gan sawl cymeriad (Eli a'r drymiwr) a chydig gormod o sylw i'r is-blot dwl braidd am dyfu madarch er mwyn codi pres, ond dydyn nhw ddim yn pylu'r argraff sy'n aros ar y diwedd.
Mae'r darnau sydd yn rhamantu am ddyddiau euraid y sinema a fu yn disgleirio ac mae rhywun yn dod o'r ffilm gyda'r teimlad eu bod nhw wedi gweld ffilm fach Gymreig ddigon dymunol sydd yn sicr a phinsiad bach o hud y sinema mae hi'n ei chlodfori yn ei bywiogi.
Chwarae teg, mae gwefan ffilm BBC Cymru'r Byd wedi rhoi syrpreis bach braf i fi heddiw drwy roi adolygiad o ddangosiad "Shorts In Colour" a drefnwyd ym mis Chwefror gan y Black Welsh Film Festival.
Mae'n rhoi adolygiad bach cryno o 6 ffilm fer a ddangoswyd yno fel arddnagosiad o waith gan ac amdan leiafrifoedd ethnig yng Nghymru (dangoswyd un ohonynt, Dwr Dwfn, yn noson "Pictiwrs Yn Y Pyb" yn nechrau Chwefror).
Mae yno hefyd erthygl dda iawn gan Caron Wyn Edwards, yn adrodd nol ar Wyl Ffilm Dulyn a gynhaliwyd rhwng yr 11eg a 20fed Chwefror, gyda sylwadau synhwyrol ar ddiwedd yr erthygl yn cymharu'r wyl a beth sy'n digwydd yng Nghaerdydd.
Mi fydd hi'n ddifyr hefyd cymharu a'u adolygiad hwy o'r ffilm anibynnol Gymreig Powerless, sydd yn eistedd ar fy silff yn aros i gael ei gwylio ers wythnosau bellach.
Mae hi'n dda gweld ehangiad o'r fformiwa gynt o adolygu ffilmiau prif ffrwd ar y wefan ac ymestyn at wyliau ffilm, ffilmiau byr a rhagor o ffilmiau Cymreig ond os oes gen i feirniadaeth, gallai fod y darnau ychydig yn fwy dolennog gan eu bod nhw'n cael eu cyhoeddi ar y we- nid job annodd yw chwilio amdanynt a gwneud y profiad o ddarllen ychydig yn fwy pleserus. O ia, jest un peth bach arall, dydyn nhw dal ddim wedi rhoi dolen i pictiwrs.com fel yr addawon nhw. Asgob! ;-)
Yn America’r 1940au, llwyddodd Alfred Kinsey i droi rhyw o fod yn bwnc nad oedd sÔn amdano byth i fod yn bwnc academaidd drwy ei frwdfrydedd gwyddonol. Llwydda’r ffilm ddiweddaraf Bill Condon, Kinsey, drwy’r dull cynnil o ddilyn holiadur rhyw Kinsey fel cefnen i’r ffilm, i adrodd stori Kinsey mewn ffordd ddifyr a chlyfar. Yn yr un modd ag y bu Alfred Kinsey’n gyfrifol am ddatgelu cyfrinachau ac arferion yr America gudd, felly y mae Condon yn datgelu cyfrinachau bywyd Kinsey, ei gymhellion a’i angerdd.
Mae Liam Neeson yn rhagori yn rÔl Kinsey. Ef yw prif arbenigwr y byd ar y wenynen y derw, yn ymhyfrydu yn y ffaith eu bod, fel pobl, bob un yn wahanol i’w gilydd. Ar Ôl iddo briodi Mack (Laura Linney) a phrofi problemau rhywiol i ddechrau nad ydynt yn cael atebion iawn ar eu cyfer, mae’n penderfynu mynd ati gyda’r un brwdfrydedd â chyda’i waith gyda’r gwenyn I ddod o hyd I atebion y problemau rhywiol sy’n rhemp yng nghymdeithas America’r 40au.
Yn gefndir I’r brwdfrydedd newydd hwn, mae hanes hynod Biwritanaidd Kinsey a’i berthynas gymhleth gyda’i dad (John Lithgow). Mae’r holl egni y mae Albert wedi’i roi i’w astudiaethau gwyddonol, y mae ei dad wedi’i roi i Dduw a cheisio bod yn Gristion da, ond rhagrithiol. Gellir gweld tebygrwydd rhyngddynt – beth y mae Kinsey yn creu I’w hun ond rhyw fath o sect crefyddol newydd drwy ei dîm ymchwil? Ond yn y bôn, mae casineb ac anfodlonrwydd ei dad yn sbardun i Kinsey barhau â’I ymchwil a gwybod mwy am y testun.
Fel orgasm da, mae’r ffilm yn ffrwydro wrth i lyfr Kinsey, ‘Sexual Behavior in the Human Male’, gael ei gyhoeddi. Er gwaethaf clod a gaiff Kinsey, dyma ddechrau eu drafferthion. Yn araf bach, mae grymoedd ceidwadaeth yn lladd ar ei waith, gan arwain at ostyngiadau yn ei nawdd ac ymosodiadau personol arno yn y wasg a chan y cyhoedd. Mae ei dîm hefyd yn dioddef, wrth i’r rhyddfrydaeth rhywiol a fu’n rhan anatod o waith Kinsey ddechrau cael straen ar y berthynas rhwng y gwahanol aelodau. Fel y dywed Clyde Martin (Peter Sarsgaard), “Sex is a risky game, because if you're not careful, it will cut you wide open.”
Ceir ambell wendid wrth gwrs (fel y datguddiad sydyn, blasé braidd, fod Kinsey’n gaeth i gyffuriau barbiturate), ond llwydda’r ffilm i orffen â thinc o obaith ac o gariad. Cawn gadarnhâd mewn moment o dynerwch rhyngddo a menyw oedd wedi sylweddoli iddi gwympo mewn cariad â menyw arall fod ei waith wedi bod o fudd i bobl, a gwyddwn, er gwaethaf yr holl chwarae rhywiol o fewn perthynas Prok (Kinsey) a Mack, fod y cariad rhyngddynt o hyd yn gryf, rhywbeth y mae anheuaeth amdano mewn byd lle dywedir “love is the answer, isn't it? But, sex raises a lot of very interesting questions...” Mae Condon yma’n llwyddo i gyfleu heb fod yn feirniadol, ac yn talu teyrnged haeddiannol i ŵr arloesol, digyfaddawd.
Neithiwr oedd ail noson y cwrs sgriptio ffilm newydd. Wel y drydedd sesiwn oedd hi mewn gwirionedd gan i mi fethu'r ail am fy mod ar wyliau ym Mhrag.
Roedwn i wedi paratoi dwy 'premise' ar gyfer y noson fel rhan o'r gwaith cartref. Roedd rhaid i ni feddwl am un yn seiliedig ar bennawd papur newydd ac un arall yn seiliedig ar ddarn o gerddoriaeth.
Y pennawd ddewisiais i oedd "Dead Wrong", jest am y ffaith ei fod yn swnio fel teitl ffilm i gychwyn. Sdori am foi sy'n edrych ar ol mynwent anifieliaid ond sydd wir yn eu palu allan yn y nos er mwyn eu sdwffio a'u casglu yn ei seler. Wedi 30 mlynedd o hyn mae ei seler yn llawn o'r anifeiliaid druan ac yn cyrraedd at y to. Mae Tecwyn yn mynd fwyfwy paranoid amdanynt yn edrych arno ac un noson mae ei hunllef waethaf yn dod yn wir ac mae ysbrydion yr anifieiliad yn dod nol i ddial arno!
Sdori fach sili, ond o'n i'n lecio'r ddelwedd o lot o anifeiliad wedi stwffio, bendramwnagl mewn selar a'r posibiadau o ddychryn y crap allan o'r gynulleidfa gyda phethau weid stwffio'n dod yn fyw eto.
Roedd yr ail syniad am foi 13 oed sydd mewn galar dwfn wedi i'w dad farw chwe mis ynghynt. Daw CD yn annisgwyl drwy'r post gan ei gefnder sydd yn arwain, drwy ffawd neu gyd-ddigwyddiad at sawl peth i ddigwydd (cyfarfod merch o'r dref nesaf ar fws, arwain i drafferth gyda bois lleol...) sy'n ei alluogi i ffeindio rhyddhad o'i dristwch a rhoi cic-start i'w fywyd unwaith eto a chael mymryn o hapusrwydd nol yn ei fywyd.
Chydig yn sylfaenol fel mae hi ac yn debyg iawn i Morvern Callar wedi meddwl ond dyna ni, mi ges i ddelwedd dda ohoni - un o'r hogyn yn mynd lawr staer i nol y post gan sifftio drwyddyn nhw, oll dal wedi eu cyfeirio at ei Dad chwe mis wedi ei farwolaeth, heblaw yr un ola, a dydi o byth yn derbyn post...
Lady Day and John Coltrane oedd y gan gyda llaw.
Ta waeth, nesh i hefyd ddarllen sgript ffilm Get Carter, oedd yn fyr iawn, ond hefyd yn dda iawn. Roedd yn cyfleu naws yn ffilm yn wych a sylwes i faint mor grefftus oedd y sgwennwr wedi ffurfio'r cymeriadau yn fy mhen o fewn y 10 tudalen gyntaf, jest drwy weithredoedd bach idiosyncratic. Sgwennu'n economaidd, dyna yw'r grail mae'n debyg ynde.
Y tro hwn roedd hi'n sesiwn ar strwythr a 'teipiau sdori'. Euthum drwy'r strwythr tair act a'r fersiynau gwahanol o hynny mae pobol wedi eu rhoi fel canllaw i sgriptwyr (Syd Field, Robert McKee, Ray Frensham). Esboniwyd sut y gall y strwythurau hyn fod yn ddefnyddiol iawn i edrych am broblemau yn eich sgript a sut y bu i Aristotle ddamcaniaethu am hyn 2000 o flynyddoedd yn ol yn ei lyfr "Poetics" - eat that Robert McKee! (gallwch ddarllen cyfieithiad S.H.Butcher fan hyn ac mae esboniad iddo fan hyn, ond awgrymir darllen un Heath, er mae'n siwr y cewch chi'r gist)
Soniwyd hefyd am strwythr naratif: boed yn linellol (e.e Speed), yn bennodaidd (e.e. Short Cuts, Magnolia), yn associational (e.e. Koyaanisqaatsi) neu yn gylchol. Soniwyd hefyd am y mathau gwahanol o amser sydd o fewn sgriptiau ffilm: Amser Real, Amser y Ffilm, Amser Emosiynol ac Amser Naratif a sut y gall yr hoth bethau hyn eich helpu i sgwennu yn dda a'ch helpu i fod yn gritigol o'ch gwaith mewn ffordd adeiladol.
Beth bynnag, y gwaith am yr wythnos hon fydd gwylio ffilm a nodi ynddi pryd mae'r elfennau o'r strwythr tair act yn digwydd. Lle mae'r stori'n cael ei sefydlu, lle mae'r inciting incident, diwedd act 1, y cymhlethdod cyntaf, lle mae'r pwynt canol, yr ail gymhlethdod, y cleimacs, a'r resolution (Cyf: datrysiad?) ar y diwedd.
Dwi'n barod yn teimlo'n llawer mwy hyderus am ffurfio syniadau, a gobeithio daw'r hyder o ran eu datblygu cyn hir hefyd.
The Life Aquatic with Steve Zissou yw’r drydedd ffilm sy’n gydweithrediad rhwng doniau actio Bill Murray a doniau cyfarwyddo Wes Anderson, yn dilyn y ffilm gomedi Rushmore a rhan fechan Murray yn The Royal Tenenbaums. Gellir dweud fod Anderson wedi gwneud cryn dipyn i ailddatblygu gyrfa Murray. Mae’r hiwmor yno o hyd yn ei waith, ond mae chwerwder a chynildeb newydd yn perthyn i’w waith, a dyw The Life Aquatic yn ddim gwahanol.
Yn y ffilm, Murray sy’n chwarae rhan Steve Zissou, cymeriad Jacques Cousteauaidd sy’n mynd ar anturiaethau ac yn eu ffilmio. Gwelwn yma yr oes ddiniwed a fu drwy gyfrwng ei ffilmiau llachar a rhyfedd, ac mae Anderson yn gwneud tipyn i amlygu hyn drwy greu creaduriaid anhygoel a lliwgar wedi’u hanimeiddio. Nod newydd Zissou a’i dîm rhyfedd o gydforwyr yw gwneud yn iawn am farwolaeth Esteban, a oedd bron yn frawd i Zissou, a gafodd ei ladd gan siarc jaguar yn ystod yr antur ddiwethaf, a thestun ei ffilm flaenorol. Mae’n achosi sioc yn y byd gwyddonol drwy gyhoeddi mai ei ffordd o ‘wneud yn iawn’ am farwolaeth Esteban fydd drwy ladd y siarc.
Mae’r hen gapten a’i ‘deulu’ (sy’n cynnwys Klaus (Willem Dafoe), ei wraig Eleanor (Anjelica Houston) a’i fab coll Ned (Owen Wilson)) yn byw mewn byd rhyfedd, hen ffasiwn, wedi’u rhewi am byth yn y byd Costeau o’r 1960au. Caiff hyn ei wrthgyferbynnu gan dîm ‘Operation Hennessey’, dan arweiniad gelyn pennaf Zissou, Alistair Hennessey (Jeff Goldblum), sy’n meddu ar y dechnoleg ddiweddaraf ac offer arloesol ar gyfer arsylwi bywyd y môr. Fodd bynnag, mae Zissou yn benderfynol o barhau â’i ymgyrch, ac yn ffodus iddo, mae’r bobl o’i amgylch yn dal i gredu ynddo, gan gynnwys Klaus, Ned a’r newyddiadurwraig Seisnig a fydd yn adrodd stori’r daith ar gyfer cylchgrawn gwyddonol, Jane Winslett-Richardson (Cate Blanchett). Er hynny, daw’n fwyfwy amlwg nad yw Zissou o reidrwydd yn credu ynddo’i hun bellach.
Caiff digwyddiadau rhyfedd y ffilm (Zissou yn dwyn offer Hennessey, morladron yn ceisio cipio’r llong) eu hadlewyrchu yn y ffordd ryfedd y mae’r ffilm yn edrych. Mae’r ffordd y mae pob dim wedi’i ddylunio, o’r ffordd ‘clapboard’ mae’r llong yn ymddangos o’n blaenau wrth i Zissou roi taith i ni o’i hamgylch i’r olygfa lle gwelwn y siarc jaguar o’r diwedd, yn amlygu hynodrwydd ac aruthr y byd hudolus y mae Zissou yn byw ynddo bob dydd. Amlygir hyn hefyd gan gymeriad Ned, lle dysgwn iddo fod yn aelod o glwb Zissou ers iddo fod yn fachgen bach. Mae’r diniweidrwydd hwn a’r awydd i ddarganfod a rhyfeddu at bethau newydd yn treiddio drwy’r ffilm gyfan.
Trueni, felly, nad yw’r ffilm ychydig yn fwy doniol. Mae ffilm Anderson yn dioddef rhyw ychydig drwy’r gwrthrychedd gwyddonol sy’n perthyn i’r ffilm. Drwy gael elfen o wrthrychedd gwyddonol, drwy droi’r ffilm ar adegau yn ffilm ddogfen am greu ffilm ddogfen, rydym yn colli rhywfaint o gynhesrwydd y cymeriadau, ac yn colli cyfle i uniaethu â nhw’n llwyr. Nid yw’r cymeriadau byth wir yn gwireddu eu bywydau eu hunain; yn hytrach, ceir y teimlad yn aml eu bod yn gymeriadau animeiddio, pypedaidd, yn rhy debyg efallai i’r pysgod hynod yn y môr oddi tanynt. Ond mân gwynion yw’r rhain. Mae The Life Aquatic yn gomedi da ynddo’i hun, yn hwylio am byth ym môr hud a lledrith plentyndod a rhyfeddod.

Mae ffilm gan gyfarwyddwr o Gasnewydd yn cael ei premiere Prydeinig nos Wener 11eg Mawrth ar sianel 5.
"Silent Cry" yw enw'r ffilm, a'r cyfarwyddwr yw Julian Richards. Y llynedd cipiodd ei ffilm "The Last Horror Movie" y wobr am fod y Ffilm Nodwedd Brydeinig Orau yng Ngwyl Ffilmiau Raindancea dyma gyfweliad da gyda Richards am ei waith.
Mae Emily Woof yn actio yn y brif ran yn "Silent Cry" - ac mae'r cyfle i'w gweld hi eto yn un difyr gan nad ydi'n cael digon o sylw a chan taw hi oedd y peth gorau (yr unig beth da?) yn y ffilm Wondrous Oblivion (Paul Morrisson, 2003). Sy'n dod a chyswllt Cymreig arall, gan taw Morrisson a gyfarwyddodd Solomon a Gaenor (1999).
Beth bynnag, dyma grynodeb y ffilm:
"A newborn baby dies in a hospital. His mother is convinced he is not dead, but has been stolen. "Silent Cry" is a thriller about her desperate search for the truth - and her baby."