
Hyd yn oed os ydy noson yr Oscars yn gneud chi fyhafio fel Oscar the Grouch (dwi'n gwbod taw dyna ma'n gneud i fi...) ellir mo'u hanwybyddu. Bydd y sinemau yn llawn eto a'r ffilmiau a lwyddodd i ennill bri a chlod aelodau'r academi ffilm Americanaidd - bwnsh o bobol sentimental ar y diawl gan fwya sydd yn dueddol o ganolbwyntio ar berfformiadau a "drama" dwys ar draul gwreiddioldeb a dyfeisgarwch.
Nid sefyllfa anhebygol gan fod canran fawr o'r pleidleiswyr yn actorion (jest dan 20%). Felly mae'r gwobrau yn debygol iawn o fynd i'r perfformiadau a'r pathos mwya gan ddilyn y traddodiad thespaidd. Rhaid mynd lawr lon y lyfi os am fachu Oscar o'ma. Mae hyn hefyd yn dueddol o fod yr un peth ar gyfer gwobr y ffilm orau hefyd.
A toedd hi ddim gwahanol y tro hwn, gyda Million Dollar Baby yn gleuo hi am draw at barti Vanity Fair gyda llond goody-bag o ddynion bach melyn (os oes lle ynddo gyda'r holl goodies eraill gafoch chi am ddim...).
Roedd y ffilm wedi bod yn codi dipyn o stwr yn arwain fyny at y seremoni, gan daro'r adolygwyr Americanaidd ar y droed ol a sleifio i'r sinemau yn ddi-ffwdan ond gan beri i bawb gymryd golwg go agos arni. Yr Aviator oedd gobaith fawr Scorsese (a gobaith bron i bawb arall a dweud y gwir gan iddo beidio cael unrhyw glod gan yr Academi sy'n hawlio i gynrychioli diwydiant ffilm America!) ond pleidlais o gydymdeimlad fuasai honno, a chyda thriawd o actorion fel Eastwood, Swank a Freeman yn rhoi popeth ynddi roedd hi'n mynd i fod yn annodd i'r bywgraff-lun (bio-pic) o Howard Hughes ddod i'r brig.
Ffilm arall a gododd dipyn o stwr wrth arwain at y noson oedd Sideways gan Alexander Payne (gyda llaw...ble mae'r adolygiad Mr Richards? Hmm? Hmm? ;-)...). Ffilm bach hyfryd hamddenol gyda blas chwaneg go iawn arni (wnai ddim mynd a'r cymhariaethau Epiciwreaidd yn bellach na hynny...dwi di cael digon o hynna ym mhob erthygl dwi di ddarllen am y ffilm: Vintage Payne...bla bla blwmin bla) ac yn gwbl haeddianol o'i gwobr am y Sgript Addiasiedig orau. Chwarae teg hefyd i Charlie Kaufman am daro'r nod eto, wel, efallai taro'r nod yn well ond nid yn berffaith (mi ddaw, mi ddaw...), am fynd a'r wobr am y Sgript Wreiddiol orau gyda Eternal Sunshine Of The Spotless Mind - ffilm a gynnodd fy nychymyg ac a brofodd yn donic i nghalon sydd, fel arfer, yn hollol allergic i gaws sentimento-ramantaidd ac yn ennyn lled-gyfog ar y manylyn lleiaf camembertaidd (cam-amher?). Nid oedd moment o banig nac ychwaith frys estyn am fy moddion gwrth-glaptrap, dim ond ffilm fach yn dangos amherffeithrwydd perthynas mewn ffordd hynod wreiddiol ond eto mewn ffordd oedd allai doddi unrhyw galon a galedwyd gan ddeiet o ffilmiau Zombie, Slasher a Sci-fi.
Felly, di-nod ydoedd ar y diwedd, gyda mymryn o o gysur yn y ffaith fod ffilmiau "bychan" (ar safonau'r Oscars...) wedi mynd a'r dydd. Fuaswn i ddim yn meddwl fod hyn yn arwyddocaol o unrhyw dro ar fyd yn y ffilmiau bydd Hollywodd eisiau eu cynhyrchu o hyn ymlaen, mae'r risg o fuddsoddi mewn ffilmiau bach yn ormod i'r stwidios mawr allu ei stumogi os nad oes blocbystyr yn cysgodi y ffaeleddau box-office posibl, jest fod y crop o ffilmiau 'mawr' eleni wedi bod mor israddol (Troy, Alexander ayyb) o'u cymharu a blynyddoedd eraill fod yn rhaid mynd nol at y sylfeini - sdori dda yn hytrach na bombast. Ac mae hynny'n newyddion da i'r gynulleidfa sinema sy'n cael eu boddi gan gynnyrch Americanaidd gwael wedi'w bwmpio'n llawn steroids yr ymgyrch hysbysebu a chyda geiriau gweigion coach "hype" yn byddaru o ochor y ring.
(Wel, nes i ddim deud na faswn i'n rhoi cymhariaethau bocsio gwael naddo!)
Dolenni:
Mae Alejandro Amenábar wedi hudo ei gynulleidfaoedd yn y gorffennol drwy gyfrwng ffilmiau clyfar ac arloesol fel Abres los Ojos (a ail-grewyd ar gyfer cynulleidfaoedd Hollywood fel Vanilla Sky gyda Tom Cruise) a hefyd The Others, stori arswyd yn arddull Henry James gyda Nicole Kidman. Yn anffodus, nid yw ei ffilm newydd, Mar Adentro, yn cyrraedd yr uchelfannau hynny. Er gwaethaf y ffaith fod y ffilm wedi’i henwebu ar gyfer yr Oscar am y ffilm dramor orau, nid yw’r ffilm yn llwyddo i fynd i’r afael yn wirioneddol â thestun dyrys y ffilm.
Mae Mar Adentro yn seiliedig ar stori wir Ramón Sampedro, dyn â pharlys pedwar aelod a ymgyrchodd yn Sbaen am yr hawl i ddod â’i fywyd i ben. Perfformiad Javier Bardem fel Sampedro, cyn fecanydd ar long a dorrodd ei wddf mewn damwain wrth blymio i’r môr yw un o uchafbwyntiau’r ffilm. Mae ei actio yn gynnil ac yn deimladwy, sy’n fwy nag y gellir ei ddweud am weddill y ffilm, Yn sgil damwain Ramón, mae ei frawd José (Celso Bugallo) a’i deulu wedi bod yn gofalu amdano am 30 mlynedd wrth iddo barhau â’i achos cyfreithiol.
Daw cyffro a thrybini i fywyd Ramón ar ffurf dwy fenyw: y gyfreithwraig Julia (Belén Rueda) sydd â’i rhesymau ei hun dros gefnogi ei achos, a Rosa (Lola Dueñas) mam sengl sy’n rhwystredig am ei bywyd sy’n cwympo mewn cariad gyda Ramón ac sy’n ceisio ei ddarbwyllo i fwynhau bywyd. Fodd bynnag, mae rôl y ddwy fenyw yn ddryslyd, gyda’r ddwy yn dod i mewn ac allan o’i fywyd heb unrhyw fath o gydlyniad. O ganlyniad, allwn ni ddim uniaethu gyda’r berthynas rhwng y naill neu’r llall gyda Ramón – mae eu perthnasoedd yn ymddangos yn arwynebol, er eu mwyn nhw’n unig.
Yr unig dro y mae Amenábar yn llwyddo i fynd i’r afael â phynciau llosg y ffilm yw cyfarfyddiad anarferol Ramón ag offeiriad o’r eglwys Babyddol. Ceir dadlau tanllyd rhwng y ddau, gyda’r offeiriad ar y naill law yn ymbilio yn Ramón i ddeall nad ef sy’n berchen ar ei fywyd ac mai lladd ei hun y mae Ramón yn ceisio’i wneud, a Ramón ar y llaw arall yn argyhoeddedig mai ef sy’n berchen ar ei fywyd a’i fod yn ormod o fwrn iddo barhau fel y mae.
Heblaw am hynny, erbyn y diwedd, roeddwn i wedi hen ddiflasu. Mae’r ffilm yn edrych yn hyfryd, ond mae’n ceisio eich gorfodi i deimlo emosiynau, yn hytrach nag yn gadael i lif yr emosiynau ddigwydd yn naturiol. Perfformiad siomedig gan gyfarwyddwr rhagorol.
Dwi newydd gychwyn cwrs "Cyflwyniad i Sgriptio" neithiwr yn Chapter, Caerdydd. Cwrs deuddeg wythnos ydi o, wedi'i ddatblygu gan Gyngor Ffilm y DG a Phil Parker, sy'n eich arwain o'r camau cyntaf o gael syniadau drwodd i sgwennu sgript ffilm 10-munud o hyd ar ei ddiwedd.
Mi aeth hi'n gret a deud y gwir. Roedd 9 person yno, oll o gefndiroedd hollol wahanol. Roedd rhai yn hen law ar sgriptio, rhai yn feirdd, rhai yn animeiddwyr eisiau datblygu crefft ffilmiau hirach a rhai - fel fi - yn gyfarwydd a'r broses wneuthura ond heb roi cynnig difrifol ar sgwennu.
Fe daflodd y tiwtor, Wyndham Price, ni'n syth mewn iddi gan roi inni gerdyn post yr un a gofyn i ni sgwennu premise ffilm o'r ddelwedd o'n blaenau. Son am exposing, ond mi sgwennais rwbeth, a wedi edrych arno eilwaith doedd o ddim yn rhy ddrwg. Fe ofynnwyd i ni wneud yr un peth eto ond gyda delwedd wahanol a bum yn bur aflwyddiannus y tro honno, gan fethu meddwl am ddim arall ond syniad sci-fi oedd yn gymysgedd o Brazil a Blade Runner. Rwtsh. Ond roedd y wers yn un ddefnyddiol - gallwch ffeindio ysbrydoliaeth yn unrhywle os canolbwyntiwch ac y peth pwysig i'w wneud yw trwytho'r gwaith gyda gwirionedd emosiynol fel bod cyswllt rhyngddo a'r gynulleidfa. Y 'grefft' wedyn yw ffitio ffurf y sgript ffilm.
Felly, dwi'n edrych mlaen at y sesiwn nesaf (er mod i'n gorfod methu wythnos gan fy mod ar wyliau) fe wnai adrodd ar yr hanes bryd hynny.
Dyma chydig o ddolenni difyr yn ymwneud a sgriptio:
The Screenwriter's Thirteen Commandments gan Jack Dickson
Film Noir Ain't Dead, Dude: You Could Be Writing One gan Robert Piluso
Occult Horror gan Nic Ransome (o wefan Scriptwriter Magazine)
Road Movies With a Map gan Lucy Scher (cyfarwyddwr y Script Factory)
Mae Ed (sydd wedi rhoi ei sylwadau isod) wedi arwain fi at wefan Filmbus, sef menter ganddo a Sara Fletcher sy'n ceisio arddangos ffilmiau a chelf mewn ymateb i'r lleoliadau y maent yn ymweld a hwy gan ddefnyddio bws i brojectio arno, ac ohono.
Mi ddangoson nhw sawl ffilm yn Awst 2004 yng Nghaerdydd, ond lywes i ddim am hon, a buasai hi wedi bod yn braf mynychu.
Oes son am noson arall debyg?
Mae'r lein-yp ar gyfer Gwyl y Gelli newydd gael ei gyhoeddi, ac mae'n nhw wedi cynnwys ffilm yno'r flwyddyn hon gyda ymweliadau gan Jane Fonda, Goldie Hawn, a...witsiwch amdano...Spike Lee!
Swnio fel bod angen i fi fentro yno am y tro cyntaf...
(IMDb)

Wrth dyrchu yn selar y swyddfa’n ddiweddar ddes i ar draws sawl tap fideo o ffilmiau nodwedd Cymreig a wnaed o tua ‘85 ymlaen. Heno oedd tro Gadael Lenin am blast o’r fidio vault...
Mae’r ffilm yn troi o amgylch taith ysgol i St.Petersburg yn fuan wedi i’r llen haearn ddisgyn. Wrth deithio o Foscow i St.Petersburg mae’r tren yn gwahanu yn ddau gyda’r 7 plentyn (wel plant yn eu arddegau...7 arddegyn?!) yn mynd at St.Petesburg a’r athrawon yn ffeindio’u hunain ar drac arall i ganol cefn gwlad. Mae’r plant wrth gwrs yn cymryd mantais o’u rhyddid gan feddwi a gwneud fel a fynnont. Yno mae Spike (Steffan Trefor) yn cwrdd a chyd-artist o’r enw Sasha (Ivan Shvedoff) ac yn dysgu i fod yn driw i’w hun, ei gelf a’i rywioldeb.
Tra mae hyn yn digwydd gorfodir yr athrawon i aros dros yn nhy rhyw ddynes ddiarth mewn pentref (am ddim rywsut?!) ac yn bore mae Eileen (Sharon Morgan) yn sleifio ffwrdd gan ddal lifft gan ddynes o’r un anian a hi a gadael y gŵyr tu ôl i gecru. Mae’r ddau ddyn wedyn yn gorfod ffeindio’u ffordd eu hunain i’r ddinas a hynny heb fawr ddim o arian. Wrth fynd yn fwyfwy despret mae Mostyn (Wyn Bowen Harries) yndod i sylwleddoli nad oedd y ddelwedd o Rwsia yr oedd yn ei gofio‘n cyfateb a realiti a’i. Dangosir dymchweliad y ddelfryd drwy iddo gael ei orfodi i ymuno a’r bobol leol ar y stryd a gwerthu eu eiddo ar y farchnad rydd er mwyn cyrraedd nol i’w fywyd cyfforddus a'i dren adref.
Teimlo o’n i wedi ei gwylio y gallai hi wedi bod yn ffilm llawer gwell. Mae’r syniad sy’n sail i’r ffilm yn apelio atai ac fe allai weld pam y dewiswyd honno gan fod cymaint o sgôp iddi o ran straeon y cymeriadau, ond efallai dyw’r sdori ddim cweit yn plethu mewn modd digon boddhaol i allu codi’r ffilm i fod yn gyfanswm cytbwys.
Mae yno driongl cariad o fath rhwng y tri athro, a hogyn yn ceisio dygymod a’i rywioldeb ac mae’r ddwy edefyn stori hyn yn ddigon difyr ynddynt eu hunain, ond eto roedd yna deimlad fod y plot cyrraedd nol i St.Petersburg yn ceisio cystadlu gyda’r straeon personol hyn a chywasgu unrhyw le iddynt anadlu. Roedd yna lawer gormod o gyfeiriant llawdrwm tuag at gelf a thrafodaethau am gelf, gan roi'r teimlad eu bod yn annaturiol. Enghraifft o hyn oedd yn gwneud i fi wingo yn fy set oedd yr olygfa lle’r aiff Eileen a’r plant o amgylch yr amgueddfa gelf ac yna heb unrhyw rybudd mae’r plant yn troi mewn i critics celf fasa ddim allan o le ar raglen y Turner Prize! Son am drawsnewidiad!
Mae’r golygfeydd rhwng Merv (Ifan Huw Dafydd) a Mostyn (neu Lenin fel mae’r plant yn ei alw) unwaith i Eileen eu gadael (gadael Lenin...) yn wych ac yn rhoi ffenest ar beth allai’r ffilm fod. Mae’r deialog rhwng y ddau yn gwreichioni ac mae’r golygfeydd ohonyn nhw’n stryffaglu i gyrraedd y ddinas wedi eu saethu mewn ffordd araf deg gan neidio o siotiau tynn i rai a chydig o bellter am yn ail oedd yn fy atgoffa i o sawl ffilm ffordd Ewropeaidd. Piti a deud y gwir na allai sdori baralel y plant wedi gallu bod o’r un safon.
Roedd yna hefyd sawl twll plot oedd yn gwrthod esmwytho fel rinclau styfnig mewn crys. Pam na allai’r ddau athro ffonio’r gwesty yn St.Petersburg i gael cymorth? Roedd gan Mostyn grap weddol dda ar Rwsieg. A pham nad oed Eileen yn gofidio am y ddau ddyn wrth iddi jolihoetian o amgylch y ddinas yn eilun Rwsieg i’w disgyblion (mae’r rendition o gan “Eileen” Dexy's Midnght Runners ar y cwch fel rhyw eilun addoli yn ddigon i droi stumog unrhywun). Ddwedodd hi ddim byd hyd yn oed wrth eu gweld nhw eto yn yr orsaf drenau jest cyn gadael nôl am Gymru! Ewadd, ffydd fel santes ganddi myn uffar i!
Ta waeth, cyfle colledig braidd i wneud ffilm Gymraeg â theimlad wirioneddol arthouse Ewropeaidd arni. Mae na sawl rhan ohoni sydd yn cyrraedd y nod yna a braf iawn oedd gweld y rheiny ond mae’r darnau lle mae’n mynd ffwrdd ar tangent gwers-gelf yn rhy hunan-ymwybodol ac yn torri ar draws unrhyw naws a adeiladwyd.
Dolenni:
Bywgraffiad Endaf Emlyn ar wefan y BFI
Tudalen ar hanes ffilm a gwneuthurwyr ffilm Cymru ar wefan Screenonline y Bfi.
Sdwff difyr iawn ond da chi ddim yn gallu gwylio'r clipiau ffilm yn anffodus, os nad ydach chi mewn ysgol neu lyfrgell hynny yw.
Mae yno hefyd adran ar Deledu Cymru
Bydd Gŵyl Ffilmiau Wow yn cael ei chynnal y mis nesaf a mis Ebrill, gŵyl sy'n cysylltu Cymru (a rhai lleoliadau yn Lloegr) â ffilmiau 'byd', ychydig y tu hwnt i'r cyffredin. Bydd yr ŵyl, a noddir gan Sgrin a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn rhedeg o 4 Mawrth hyd 20 Ebrill yn Abersytwyth, Caerdydd, Yr Wyddgrug, San Dunwyd, Glannau Gwy, Henffordd, Abertawe, Aberteifi, Llwydlo, Pontardawe, Casnewydd, Presteigne a Bangor. Gweler y wefan am fanylion y ffilmiau.

Y newyddion heddiw ydi fod fforwm Filmwales.net, oedd yn fan cyfarfod i wneuthurwyr ffilm Cymreig dros y flwyddyn diwethaf, am ddirwyn i ben ar ddiwedd mis Chwefror...ond na phoener...mae fforwm arall yn dod yn ei le, gyda sgop ehangach sef Filmshed.
Mae'r fforwm newydd yn llawer taclusach rhaid cyfaddef, a chyda'r ychwanegiad o erthyglau cyson am wneuthurwyr a gwneuthura, mae'n edrych fel y bydd yn well lle i fynychu ar y cyfan.
Dwi ddim cweit yn siwr os ydi hi'n werth taflu'r syniad o gael gwefan i Gymru yn gyfangwbl allan o'r ffenest. Dwi'n meddwl ei bod hi'n beth da fod cymuned glos yn ffurfio o amgylch y fasiwn lefydd, a pham lai cael un yn arbennig i Gymru. Efallai os daw gormod o bobol i ymuno a Filmshed, y daw yn rhywbeth gwahanol, astrus (ew, gair da!). Ble fydd hyn yn gadael gwneuthurwyr newydd Cymreig sydd yn edrych i wneud sdwff yn agosach i gartref. Agwedd fewnblyg? Efallai. Ond, mae'n gwneud synnwyr o leia fel man cychwyn.
Dwi'n sicr yn meddwl fod lle i gael fforwm newydd i wneuthura ffilmiau Cymraeg i geisio sbarduno pethau. Sa rhywun iso helpu fi setio un fyny?
(IMDb) (Gwefan Swyddogol)

Os da chi ddim yn ffan o’r genre sleisiwr/slasher, waeth i chi sdopio darllen rwan, rhoi eich slipars mlaen a mynd nol at eich horlicks poeth. Os ydach chi, wel, ma na rwbath o ddiddordeb fan hyn gan ffilm sydd ddim rili wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd.
Mae Kate (Franka Potente) yn Almaenes rywiol ffasiynol blond (wrth gwrs!) sydd yn fflitio o barti i barti yn Llundain yn ceisio tynnu dynion cyfoethog. Yn un o'r partis o-mor-trendi 'ma, mae hi’n dweud wrth ei ffrindia ei bod am adael i fynd i barti arall i drio tynnu George Clooney (ie, nesh inna wneud dybl take hefyd! ta waeth 'mlaen a ni...). Wrth ddisgwyl am y tiwb ola i’r rhan yna o dre, mae hi’n disgyn i gysgu. Wedi iddi ddihuno, mae hi’n sylwi ei bod hi wedi methu'r tren ola ac wedi ei chloi yn yr orsaf tiwb, heb son am unrhyw gard yn unman. Eek! Daw tren arall i’r stesion ond arno daw twat o yuppie o’r parti ati gan geisio ei threisio, ond yn sydyn llusgir y treisiwr oddi arni ac o dan y tren gan sgrechian yn erchyll. Daw hi’n glir fod rhywbeth yn byw yn system danddaearol sydd, wrth gwrs, a'i fryd ar ladd cymaint o bobol ac sydd bosib yn y ffordd mwyaf erchyll posib ac fod rhaid i Kate ffeindio’i ffordd allan cyn iddo’i lladd hi.
Rhaid cyfadda i mi fwynhau hon, mi esh i mewn i’r sinema heb lawer o ragfarn, ac wrth i’r sdori fynd yn ei blaen (ac i mi ddod dros y ffaith fod Franka druan yn edrych bach yn sili mewn sgert fflimsi ac yn methu’n lan a cherdded mewn high heels!) mae’r tensiwn yn cael ei crancio fyny yn ddigon effeithiol. Mae’r syniad o gael eich cloi mewn yn rhywle fel yna’n ddigon dychrynllyd, heb i chi gael eich caethiwo mewn vat o siwrej a’ch erlid gan greadur sy’n weddill o ryw arbrawf ymbelydreddol mewn ysbyty cudd tanddaearol o adeg yr ail ryfel byd (neu rwbath fel'na - dydi'r ffilm dim yn esbonio rhyw lawar).
Mae’r hanner cyntaf yn rhoi digon o siociau, gan adael i’r dychymyg, cysgodion a sain lunio ffurf y bwystfil ond wrth i ni ei weld mae’n amlwg taw mwtant ydyw (trawsgyweiryn mae'r Geiriadur Mawr yn dweud!), a chwarae teg mae’r gwaith prosthetics yn dda iawn. Mae’r creadur yn lladd allan o ryw atgof pell o beth ddigwyddodd iddo fo a’r plant eraill a arbrofwyd arnynt flynyddoedd maith yn ol – ac arddangosir hyn mewn ffordd filain iawn pan mae’n strapio cardotyn o'r orsaf i fwrdd llawdrinaieth a mynd ati efo llif mawr rhydlyd. Ac os dyw hynny ddim yn ddigon mae’r ffaith fod yr holl system danddaeaerol yn llawn cachu, condoms a llygod mawr yn rhoi naws afiach i’r lle, gan droi eich stumog yn ddi baid fel peiriant golchi llawn offal.
Mae’r ymgais i wneud unrhyw sylwadau cymdeithasol ynglyn a’r hogan posh yn cael ei thaflu mewn efo’r is-ddosbarth yn ddigon ysgafn, a da hynny hefyd, sdim isio mynd dros ben llestri efo ffilm fel hyn – a dydi o ddim yn esgus bod yn ddim byd arall, felly mae popeth yn iawn.
Dyw hon ddim yn ffilm or-wreiddiol, ac wedi darllen rhywfaint yn fwy amdani mae'n edrych fel y gwnaed rhywbeth tebyg gyda'r ffilm Death Line (1972), ond mae hi’n llwyddo i darparu ei siociau ac i roi ias lawr eich cefn mewn ffordd nasti ac effeithiol iawn. Os oes gennych chi 85 munud sbar ac yn hoff o’r math yma o ffilm allwn i feddwl am ffordd waeth o dreulio’r amser.
Mae criw o artistiaid yn cynnal noson ffilmiau Super-8 (ffuglen a hen ffilmiau cartref) ar y 25-26 Chwefror 2005. Bydd y ddwy noson yn man arddangos G39 sydd wedi'i leoli ar Heol Y Felin, Caerdydd.
Biti fod eu gwefan yn uniaith Saesneg ynde...ma'n siwr fod hyn yn hollol groes i ganllawiau Cyngor Celfyddydau Cymru.
Olrhain hanes Chow (Tony Leung Chiu Wai) a wna'r ffilm hon, newyddiadurwr ac awdur yn Hong Kong yn y 60au. Mae'r ffilm yn hudol ond yn peri penbleth, yn denu ac yn drysu mewn un symudiad. Ond mae hi hefyd yn ffilm sy'n llwyddo i ddirnad y cyflwr dynol o eisiau dal gafael ar ein gorffennol, ac o alaru wrth symud ymlaen.
Mae'r ffilm yn eithaf annisgwyl o ystyried cynnyrch diweddar y Dwyrain Pell. Os ydych chi'n disgwyl Crouching Tiger, Hidden Dragon neu House of Flying Daggers (er, mae Zhang Ziyi a oedd yn y ddwy ffilm honno yn perfformio'n rhagorol fel Bai Ling), fe gewch chi'ch siomi. Yn hytrach ffilm yw hon sydd wedi'i lleoli ar 24 Rhagfyr rhwng 1965 ac 1969, yn adrodd gorffennol, presennol a dyfodol dychmygol Chow. Cymeriad weddol oeraidd yw Chow. Er gwaethaf ei loddesta gyda menywod, mae'n eu trin nhw'n wael, Bai Ling yn enwedig, ac ymddengys ei fod yn byw yn y gorffennol. Cawn gipolwg ar hyn, ei garwriaethau gyda Su Lizhen a Lulu yn y gorffennol, yn ffenest ar ryw adeg yr oedd e'n tybio'i fod yn hapus.
Yn asgwrn cefn i hyn, ac fel ffordd iddo waredu ar y teimladau sy'n ei blagio, mae Chow yn creu byd 2046, amser yn y dyfodol lle gall pobl deithio iddo lle nad yw eu hatgofion yn pylu ac mae popeth yn aros yn berffaith. Ond mae un teithiwr (sef Chow ei hun, efallai) wedi penderfynu dychwelyd. Neges ganolog y ffilm yw mai ffwlbri yw meddwl fel hyn, ac na all yr atgofion aros fel ag y maen nhw am byth, y byddant yn cael eu suro gan syniadau a digwyddiadau'r presennol. Gwelwn hyn droeon drwy berthnasau Chow gyda Jing Wen, Bai Ling a Su Lizhen. Mae'n fantra y mae Chow yn ei ddweud wrth bawb ond yn methu â chydnabod ei hun, sef y rheswm dros ei anhapusrwydd ei hun.
Mae gwerthoedd rhagorol yn perthyn i'r ffilm, gyda'r golygfeydd yn y 60au yn llawn hiraeth sepia, a'r golygfeydd dyfodolaidd yn adlewyrchu'n berffaith yr ymdeimlad o unigrwydd sy'n trwytho'r ffilm. Roedd y stori ar adegau'n dueddol o neidio'n afrosgo ar hyd y llinell gronolegol, ond weithiau roedd hynny'n gymorth i ddangos sut roedd atgofion Chow ei hun yn gallu newid a gwyrdroi'n rhywbeth cwbl wahanol i'r gwir. Llwyddir i gyfleu'r tensiwn amlwg sy'n bodoli o fewn Chow drwy glawstroffobia'r ffilm, gydag amser yn ymdoddi o fewn ei hun yn ei ystafell fach yn y gwesty, a phob dim yn digwydd o fewn yr un ennyd.
Mae yna gwrs griptio ffilm ar fin cychwyn ei ail rediad yn Chapter y Mis Chwefror hwn. Cwrs 12 wythnos ydi o lle byddwch yn dysgu sawl agwedd o sgriptio dan hyfforddiant Wyndham Price.
Cynllunwyd y cwrs gan Phil Parker (dyma erthygl ganddo ar ddatblygu sgriptiau), sydd wedi bod yn rhedeg y cwrs MA Sgriptio yng Ngholeg Argraffu Llundain, ac sydd mae'n debyg y cwrs gorau a geir ym Mhrydain. Byddwch yn datblygu eich syniadau fel bod gennych sgript ddeng munud ar ddiwedd y cwrs.
£150 yn unig yw pris y cwrs. Rhad iawn yn fy marn i.
Dwi ddim yn union siwr pryd mae'n cychwyn, tua'r 15fed Chwefror dwi'n meddwl - ar nosweithiau Mercher, ond ffoniwch Wyndham am ragor o fanylion.
Mae manylion llawn y cwrs a redwyd Hydref 2004-Ionawr 2005 a manylion cyswllt Wyndham ar gael fan hyn.
Ydych chi isio gwneud ffilm?
Fel arfer y ffordd ymlaen yw i un ai:
1. Mynd ar gyrsiau byr/prifysgol drud iawn
2. Prynu sdacs o lyfrau ac astudio'r pwnc ei hun - hefyd yn ddrud iawn
3. Treulio oriau ar y we yn edrych ym mhob twll a chornel i geisio cael gronynnau o wybodaeth - hefyd yn ddrud o ran amser ac annodd dod o hyd
On nawr, mae'r chwyldro Wicipedia (gwyddoniadur rhydd) wedi dal y byd ffilm yn ei grafangau gwybodus. Dyma chi gyflwyno Llyfr Wici ar Wneuthura Ffilmiau
Ymgais yw hon i gronni gwybodaeth gwneuthurwyr mewn un man fel y gall bobol ffeindio ateb i'r cwestiynau syd ganddyn nhw, a hynny mewn ffordd lle mae'r cofnodion yn cael eu diweddaru'n gyson - cam pwysig iawn pan ddaw hi at dechnoleg digidol a'r offer newydd sy'n dod allan yn gyflymach nac all unrhyw lyfr gadw diweddaredd.
Mae yno graidd o chwe gwneuthurwr yn cyfrannu a golygu ar y foment ond gyda chydig gyhoeddusrwydd bydd hyn yn codi a bydd yn datblygu i fod yn adnodd wych i wneuthurwyr ffilm newydd.
Mae'r cyngor yn ymestyn o ffilmiau byr i rai hyd llawn; cwestiynau technegol i gwestiynau mwy creadigol. Dwi'n edrych mlaen i weld sut y bydd hwn yn datblygu.
[o gylchlythyr Shooting People]