Addasiad o ddrama lwyddiannus Patrick Marber o'r 90au yw Closer, a addaswyd gan Marber (neu Peter O'Hanrahahanrahan, fel rwy'n hoff o'i adnabod) ei hun. Mae'r ffilm yn ymdrin â thensiynau ac obsesiynau rhywiol pedwar person yn Llundain a'r ffordd y mae eu bywydau yn cydblethu.
Dechrau'n eithaf araf wna'r ffilm, gyda chyfarfyddiad Daniel (Jude Law) ac Alice (Natalie Portman). Mae'r ddau ohonynt yn cwympo mewn cariad, ac yn dilyn cyfnod o rai misoedd, rydym yn dychwelyd i weld y ddau yn byw gyda'i gilydd. Mae'n amlwg bod y berthynas yn fuddiol i'r ddau ohonynt, oherwydd mae Daniel, a oedd yn ysgrifennu ysgrifau coffa ar ddechrau'r ffilm, bellach wedi ysgrifennu'r nofel yr oedd e wastad eisiau ei sgrifennu, yn seiliedig ar fywyd Alice.
Fodd bynnag, mae Daniel yn dechrau diflasu ar y berthynas am fod Alice ei angen e yn asgwrn cefn i'w bywyd bregus blaenorol, ac mae e'n cwympo mewn cariad gyda Anna (Julia Roberts) am nad yw hi ei angen e, ac yn ei wthio i ffwrdd. Mae Daniel (sy'n cael ei actio'n weddol fedrus gan Law) yn gymeriad sy'n amlwg yn hoff o chwarae gyda phobl a chyda geiriau, rhywbeth sy'n dod ag Anna a Larry (Clive Owen) at ei gilydd mewn episod ragorol yn y ffilm.
Drwy gyflwyno cymeriad Larry y mae'r ffilm yn gwirioneddol gynnau, yn dilyn rhyngchwarae go ddiflas ar ddechrau'r ffilm. Yma, gwelwn y gwir ddeinameg rhwng cymeriadau Daniel, Alice, Larry ac Anna yn datblygu, wrth i'w hobsesiynau a'u pryderon ddod i'r wyneb, ac wrth i'r frwydr seicolegol rhwng Daniel a Larry boethi. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ffilm, pwy a ŵyr pwy sy'n fuddugol yn y frwydr rhwng y cymeriadau? Yr hyn a welwn mor fedrus gan Marber yw'r ffordd y mae pobl yn benderfynol o ennill a chael y teimlad o fod yn drech ar fywyd a'u hamgylchiadau, ni waeth a ydynt yn hapus ai peidio.
Mae triniaeth Mike Nichols o'r testun yn un weddol gonfensiynol. Nid yw wedi mynd i'r afael â'r ffordd arloesol y llwyfannodd Marber y ddrama'n wreiddiol, ond anodd fyddai gwneud hynny o ystyried mai drama lwyfan yw hon yn y bôn, ac mae hyn yn trwytho'r ffilm drwyddi draw. Defnyddia'r cyfarwyddwr y tro yng nghynffon y ffilm yn fedrus, fodd bynnag, sy'n dwyn i gof ddiweddglo The Usual Suspects rhyw ychydig. Mae perfformiadau ei gast hefyd yn tynnu'r ffilm ar ei thraed, a bydd y ffilm hon yn sicr o ddal ei gafael ynoch nes bod yr obesiwn olaf wedi'i chwydu allan o'r sgrin arian.
Ffilm ddigon diddorol, sy'n olrhain hanes y band arloesol The Ramones yw hon, gyda sylwadau gan aelodau'r band ac eraill oedd yn gysylltiedig â nhw, gan gynnwys eu teulu a'u rheolwyr. Ond, er bod yr hanes yn un digon difyr, cefais i'r teimlad bod angen bod yn ffan o'r band i werthfawrogi'r ffilm o ddifrif.
Mae'r cyd-destun hanesyddol yn un diddorol, ac ar ddechreuad y ffilm, clywn sut roedd Johnny, Joey a Dee Dee Ramone, er gwaethaf unrhyw wahaniaethau oedd rhyngddyn nhw'n bersonol, yn cymdeithasu â'i gilydd am mai nhw oedd yr unig rai yn y gymdogaeth oedd yn hoff o The Stooges. Mae'r tri ohonyn nhw yn methu â ffitio mewn am wahanol resymau, felly dymau'r ffordd nhw mâs. Ymysg diflastod hipiaidd canol y Saithdegau, mae'r tri ohonyn nhw yn taro ar gynllun i ffurfio band, band a fydd yn symud o gerddoriaeth 'self-indulgent' ELP a'u math, ac yn rhoi rhywfaint o gyffro i'r byd cerddoriaeth.
Wedi hyn, rydym ni'n dilyn y band wrth iddyn nhw ddechrau ennill ffans, mynd ar nerfau llawer mwy o bobl, colli drymiwr ond ennill cynhyrchydd, yfed gormod, cymryd gormod o gyffuriau, yr hen rigmarol roc a rol. Mae'r hanes am y ffrae a gododd rhwng Joey a Johnny yn eithaf diddorol (cwympodd Linda, cariad Joey, a Johnny mewn cariad ac maen nhw'n briod hyd heddiw), ac mae'r gwrthgyferbyniad rhwng y ddau yn eithaf trawiadol. Gwelwn Joey mewn rali yn erbyn Bush yr hynaf, tra bod Johnny, wrth i'r band gael eu derbyn yn y 'Rock 'n' Roll Hall of Fame', yn gofyn i Dduw fendithio George W. Bush.
Yn y bôn felly, roedd ambell i uchafbwynt, ac roedd hi'n dda cael clywed y gerddoriaeth. Peidiwch â mynd, fodd bynnag, os ydych chi'n disgwyl campwaith sinematig. 'Fast 'n' furious' yw'r ffilm, fel y band.
Gwaeddwch o'r toeau!
Ma noson ffilmiau byr Cymraeg "Pictiwrs Yn Y Pyb" wedi cyrraedd.
Mae criw pictiwrs.com wedi bod yn ddiwyd chwilio a thyrchu wedyn ymdrabaeddu mewn ffilmiau byrion i ffeindio perlau bach cryno i'ch dileit ac at eich dant.
Wele boster hyfryd isod (diolch mawr fel cawr i Sara am hyn), a gobeithio y gallwch chi ddod aton ni am beint a sgwrs.
Plis pasiwch hyn ymlaen i bobol fuasai falle efo diddordeb, ac os ydych chi neu unrhyw un da chi'n nabod yn gwneud ffilmiau ac eisiau rhywle i'w dangos yna cysylltwch a ni. Dwi ar nwdls [at] wwfmdpc [dot] com os ydych chi eisiau rhagor o fanylion neu ffoniwch 02920 312986.
Bydd Gary Slaymaker yn dod i gyflwyno'r noson, a byddwn yn dangos 7 ffilm ar offer o'r safon ucha - felly ma pethe'n argoeli'n dda.
Diolch yn fawr hefyd i Keri Collins o Disco Mbobu/POV a Neil Wagstaff o Those People Productions am fod mor hael efo'u amser a'u offer.
Welai chi'n pictiwrs.

(IMDb)

Ffilm ffordd ("Road Movie"!) gan y BFi sydd wedi cael print newydd ac sydd ar daith o amglych Prydain. O ia, ac mae Sue Jones-Davies o Aberystwyth ynddi 'fyd!
Mae’r ffilm yn cychwyn gyda siot hir yn edrych rownd fflat anhysbys, ac wedi be sy’n teimlo fel oes, down ar draws gorff yn y bath. Draw yn Llundain mae Robert B (David Beames) yn DJ’io cerddoriaeth new-wave mewn ffordd ar hap i ffatri enfawr gyda gweithwyr sy’n becso dam am y cerddoriaeth sy’n dod allan o’r sbicars. Wedi iddo ddychwelyd adref mae’n agor ei bost, yn yr amlen mae tri tap Kraftwerk wedi’w arwyddo “Happy Birthday, Brother”. Yn fuan wedyn caiff Robert alwad gan ei fam yn dweud fod ei frawd wedi marw yn ei fflat yn Bryste. Mae’n mynd i’w gar ac yn anelu am Bryste i weld os oes angen sortio unrhywbeth allan. Ar y ffordd draw mae’n cwrdd a sawl cymeriad: soldiwr volatile sydd ar fin dychwelyd i Iwerddon gyda chreithiau meddyliol y ‘troubles’ yn dod i’r arwyneb a thasgu fel gwreichion, gweithiwr Garej diog sydd yn gymaint o ffan o Eddie Cochrane (ei fod yn byw ac yn gweithio ger lle y bu farw mewn damwain car (Sting, yn un o olygfeydd ysgafnach y ffilm), pync ifanc pynclyd ym Mryste, dwy hogan Almaeneg (un yn casau dynion a’r llall yn edrych am ei merch a adawodd i’w gwr pan yn ifanc) a lojar ei brawd. Wrth archwilio stafell ei frawd marw mae’n darganfod cyfrinach na ddylsai efallai fod wedi gweld ac...ac...wel dim byd rili...mae Robert yn mynd ar grwydr pellach...
Mae hon yn ffilm od sy’n hanner plesio, hanner pechu. Mae hi’n araf, araf iawn heb fawr o ddeialog a hyd yn oed llai o ymadweithiau emosiynol gan y prif gymeriad. Mae’n mynd a chi ar siwrnai “existential” gyda Robert ac yn codi syniadau gwahanol yn eich pen wrth i chi gwrdd a’r misfits amrywiol – ond heb roi unrhyw atebion. Rydych yn sylwi eu bod hwythau hefyd yn nofio yn y tywyllwch, heb syniad sut i gysylltu a’r byd o’u cwmpas. Ond yn y diwedd mae’r siwrnai yn un ddibwynt i Robert ac, yn elfennol i’r ffilm, i ni’r gynulleidfa hefyd. Nid pwynt y siwrnai yw’r “pwynt”, ond y siwrnai ei hun. Ffeindiais hyn yn boen braidd gan fod y llinyn teneuaf o naratif oedd yno, yn diflannu i ddim, gan fy ngadael i’n nofio braidd yn ddiamydferth yn y tywyllwch hefyd. Ond ella mond fi oedd yn chwilio am y switsh! Mae hi’n ffilm synfyfriol, ac mae rheiny yn gallu bod yn hyfryd o bethau, ond mae hon fel ei bod wedi bod yn synfyfyrio mor hir fod mwsog a ffwngau yn dechrua tyfu arni (ond mwsog a ffwngau prydferth iawn!).
Mae’r gerddoriaeth yn elfen hollbwysig o’r ffilm (fel yr awgryma’r teitl) ac mae’r rhan fwyaf yn dod o amgylchfyd y ffilm ei hun ac yn arbennig o’r radio ac o’r dec casetiau (oedd ma siwr yn swanc iawn yn ei ddydd). Roedd y gwaith gan Kraftwerk yn plesio’n arbennig (Radioactivity ac Ohm, Sweet Ohm) ac yn cyfateb i stad feddyliol ac emosiynol y cymeriadau – robotiadd, ar auto-pilot rywsut yn eu amcanion. Yn ogystal, mae caneuon gan David Bowie, Ian Dury a Wreckles Eric yn cyfoethogi’r ffilm ac yn asio yn berffaith a’r lluniau, ac mae’n sicr yn un i fynd i’w gweld os ydach chi’n ffan o fiwsig y “new-wave”.
Mae’r sinematograffi drwyddi draw yn wych, gyda phrint du a gwyn (newydd sbon) crisp a rhyw olwg llwm, glawiog iawn o Brydain dan orchudd tywyll gaeaf. Mi gadwodd hyn fi’n mynd drwyddi, ond rhaid cyfaddef ei bod hi’n rhy drwchus o ran dealltwriaeth i fi allu gael blas arni’n iawn. Un ar gyfer yr academyddion ffilm efallai, gan nad oeddwn i’n teimlo iddi gysylltu a fi ar unrhyw lefel heblaw yn episodaidd ac arwynebol. Lle mae’r DVD “Hellboy” na ‘dwch?
Dolenni:
Gwefan y BFi
- mae dolenni yno i adolygiadau diweddar - mae'r gwerthusiad yma gan John Patterson yn y Guardian yn un trwyadl.
Un long dimanche de fiançailles yw'r ffilm ddiweddaraf gan Jean-Pierre Jeneut, y cyfarwyddwr a oedd yn gyfrifol am Delicatessen, Alien Resurrection (wir yr), ac yn fwy diweddar, y ffilm hynod boblogaidd Le Fabuleux destin d'Amélie Poulain, neu Amélie i chi a fi. Ond mae stori'r ffilm yn llawer llai dymunol a diniwed nag yn Amélie.
Yn y ffilm hon, mae Jeneut wedi symud ymlaen gryn dipyn o fyd Amélie i rywle llawer mwy aeddfed, er bod llawer o'r themâu canolog yn parhau o'r ffilm honno. Addasiad o nofel y diweddar Sébastien Japrisot a geir yma, yn adrodd hanes merch ifanc o'r enw Mathilde, sy'n argyhoeddedig, er gwaethaf pob arwydd i'r gwrthwyneb, nad yw ei dyweddi Manech wedi marw yn 'no man's land' yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Felly, er gwaethaf yr ystrywiau bach sinematig, gwelwn hefyd ddinistr, lladd a thrais.
Stori gymhleth iawn yw hi hefyd, gyda Mathilde (Audrey Tautou) yn gorfod chwilio'n ddiddiwedd, fe ymddengys am ei chariad, a anafodd ei hun yn fwriadol er mwyn dychwelyd ati hi. Yn gosb, cafodd ef a phedwar arall a wnaeth yr un peth, eu gwthio allan i 'no man's land' rhwng yr Almaenwyr a'r Ffrancod i gael eu lladd yn y pen draw yn yr ymladd rhwng y ddwy ochr. Mae Jeneut yn gwneud y gwahaniaeth rhwng y ddau fyd, rhwng byd dymunol de Llydaw ac erchylltra’r Ffrynt Gorllewinol, yn dra amlwg. Mae e wedi ceisio gwneud y ffrynt mor realistig â phosibl, y gwaed, y bomiau, y llaid, y glaw, yr anobaith – ar un adeg yn y ffilm mae un o’r carcharorion, cyn iddo anafu ei hun, yn pasio dynion yn palu y tu ôl i’r llinell, ac yn darganfod mai eu beddi nhw fydd y rhain.
Yn araf bach, dadlennir hanes y 'Bingo Crepuscule', enw'r ffos lle cafodd y pum cymeriad eu gwthio allan, drwy safbwyntiau gwahanol bobl o’r hyn a ddigwyddodd, p’un a oeddent yno ai peidio. Oherwydd y cymhlethdod sy’n perthyn i’r ffilm, roedd hi’n anodd ar adegau i ddilyn y digwyddiadau a’r holl gymeriadau oedd yn cael eu cyflwyno iddi (mae’r nofel yn hynod boblogaidd yn Ffrainc yn ôl y sôn, ac felly nid oedd angen i Jeneut roi cymaint o gyflwyniad i’w gynulleidfa wreiddiol). Ond yr hyn sydd yn cynnal ein ffydd yn y ffilm yw ffydd ddiguro Mathilde y bydd hi’n dod o hyd i Manech yn y pen draw, hyd yn oed os yw hynny’n aml yn eithaf plentynnaidd, yn meddwl ei fod yn dal yn fyw os bydd y trên yn mynd i mewn i’r twnnel o fewn chwe eiliad.
Er gwaethaf unrhyw wendid plot, felly, mae hon yn ffilm sy’n ennyn ac yn cynnal y diddordeb drwyddi draw. Ni all neb beidio â chael eu hudo’n llwyr gan y sinematograffeg a ddefnyddir ynddi, gyda phob golygfa’n edrych fel ei bod wedi’i chreu gan Renoir ac yn bywiogi ar gynfas y ffilm. Mae tuedd iddi fod yn dameidiog mewn mannau – er enghraifft gellid fod wedi gwneud ffilm gyfan o stori Bastoche (Jérôme Kircher) ac Elodie Gordes (Jodie Foster), a rhaid yw ei gadael – ond mae Jeneut yn rhoi digon ar ein plât mewn mannau eraill i roi gwledd sy’n aros yn y cof.
Dyma ffilm ddiweddaraf Trey Parker a Matt Stone, Team America: World Police, y ddau a oedd yn gyfrifol am 'South Park', a ffilm South Park a ddaeth wedi hynny, ac mae'n amlwg o hyn nad yw eu sgiliau dychanu na'u sgiliau comedi wedi gwanhau o gwbl. Os nad ydych chi'n ymwybodol o'i bodolaeth eisoes, mae'r ffilm yn ddychan ar bawb a phopeth yn y 'War on Terror' newydd, a does neb yn osgoi hiwmor treiddgar Parker a Stone.
Dechreua'r ffilm ym Mharis (sydd, yn ôl yr isdeitl, dros 3000 o filltiroedd i'r dwyrain o America), lle mae terfysgwyr wrthi'n taro bargen i brynu arfau dinistriol. Ond yn sydyn POW! dyma Team America yn cyrraedd i atal y terfysgwyr, ac mae brwydr yn dechrau rhyngddynt a'r terfysgwyr. Yng nghanol hyn i gyd, llwydda'r tîm i ddinistrio Tðr Eiffel, yr Arc de Triomphe a'r Louvre. Wrth gwrs, wedi iddynt drechu'r terfysgwyr, mae Team America yn annerch y dorf anniddig, gan dderbyn eu diolchiadau. Yn yr un modd, maent yn llwyddo i ddinistrio'r pyramidiau a'r Sffincs, gan dderbyn eu 'diolchiadau', heb sylweddoli eu dinistr.
Ond, er bod Parker a Stone yn dychanu agwedd gung-ho America yn rhagorol (yn enwedig drwy brif gân y ffilm - "America! Fuck yeah!"), maent yn cadw dogn go helaeth o'u dychanu i Hollywood a'r protestwyr gwrthryfel amlwg, Tim Robbins, Susan Sarandon a'r criw. Yn y ffilm, cânt eu portreadu fel pypedau (ie, rwy'n sylweddoli'r eironi) i gynllwyn dieflig Kim Jong-Il, arweinydd Gogledd Corea, cynllwyn i ddinistrio gwareiddiad, i ddychwelyd pawb i'r un lefel er mwyn dechrau o'r dechrau, rhyw syniad gwyrdroëdig ar gyfer tegwch a chydraddoldeb. Drwy eu mudiad, y Film Actors' Guild (FAG, un o jôcs gwaethaf y ffilm yn fy marn i), maent yn darbwyllo'r byd i ymuno â 'Chynhadledd Heddwch' Kim Jong-Il, cynllwyn i gael holl arweinwyr y byd mewn un lle, ac yna dinistrio eu gwledydd, fel na allant ymateb yn filwrol ar unwaith. Ond, wrth gwrs, yng ngwir draddodiad Jerry Bruckheimer, mae'r bobl dda yn achub y dydd yn y diwedd, gydag araith 'piss-your-pants' o ddoniol gan Gary Johnston, yr actor a ddewiswyd gan Team America i'w helpu, yn darbwyllo'r gynulleidfa i droi'n erbyn Kim Jong-Il.
Mae rhai momentau anhygoel o ddoniol yn perthyn i'r ffilm hon, er enghraifft yr olygfa garu rhwng Gary a Lisa, 'contract ymddiriedaeth' Spottswoode a Johnston, a'r 'teclyn hunanladdiad' mae Spottswoode yn ei roi i Johnston petai'n cael ei ddal gan y terfysgwyr. Fodd bynnag, ar adegau, roedd hiwmor y ffilm yn dibynnu'n ormodol ar y ffaith mai pypedau oedd yn actio yn hytrach na phobl iawn. Roedd gweld y cymeriadau'n cerdded yn eu ffordd 'hyblyg' a gwirion yn ddoniol am yr hanner awr gyntaf, ond roedd disgwyl i'r gynulleidfa fod yn chwerthin ar yr un jôc awr a hanner i mewn i'r ffilm yn gofyn gormod. Weithiau, roedd hi'n teimlo mai ffilm Jerry Bruckheimer oedd hon, yn hytrach na dychan ar ei ffilmiau.
Disgrifiad y Guardian o'r ffilm oedd 'a right-wing Spitting Image', ac mae'n bosibl fod hynny'n agos ati. Er gwaethaf y ffaith i gymeriadau 'yr ochr draw' gael eu dangos, ble oedd pypedau George W. Bush, Donald Rumsfeld a Colin Powell? Er gwaethaf pob dychan, yr ochr gung ho sy'n ennill y dydd ac yn cael ei phortreadu fel yr ochr effeithiol, o gymharu ag agwedd bathetig Matt Damon a Susan Sarandon. Ond nid ffilm sydd yn cymryd ochr wleidyddol ar yr arwyneb yw hon, felly mae digon o hiwmor i'w gael y tu hwnt i hynny. Ac o leiaf ei bod hi'n well na 'Pearl Harbour'.
Adolygiadau amgen (aparyntli) gan bobol sy'n dweud eu bod nhw'n gwybod eu hanes ffilm yn yr Alternative Film Guide.
AC
Os da chi'n lecio Coldcut/2 Many DJ's/The Avalanches ayyb, fyddwch chi wrth eich bodd efo Concrete TV, sef y fersiwn gyfatebol ond efo fideo a cerddoriaeth yn lle jest cerddoriaeth (er fod Coldcut wedi gwneud hyn yn effeithiol iawn efo'r gan "Timber" yn barod). Mae'r mash-yp lo-fi VHS yma yn wledd wallgo.
[y ddau yma hefyd o cinemaminima.com]
Rhywbeth bach i dorri'r sychder...
Os oes gennoch chi b'nawn sbar a digon o led ar eich band, dyma gofnod wych yn rhestru ffilmiau byr a virals gorau'r we am 2004.
[o Cinema Minima]
Dwi'n addo bydd adolygiad neu ddwy fyny cyn hir (Radio On, House Of Flying Daggers ac ella The Seventh Seal) a sawl dolen wedi'w sdorio yn gwaith...onest gyf!
Dw i ddim yn cofio gweld unrhyw datganiad ynglyn â hyn, ond mae S4C wedi rhyddhau ffilm wych Marc Evans ar DVD. Fe brynais i fe i'm cariad i Dolig, ond dim ond noson o'r blaen cawson ni'r amser i'w wylio.
Nid yn unig ydyw'r ffilm mor dda ag o'n i'n cofio o'i weld yn y sinema, ond mae pethau ychwanegol yn cadw'r safonau'n uchel hefyd. Mae disg ychwanegol ar wahan, sy'n cynnwys cyfweliadau â phob un o'r beirdd byw (mae detholiad o'r cyfweliadau yma yn cael eu defnyddio yn y ffilm ei hun, ond mae'n dda gweld y cyfweliadau eu hunain) ac un cyfweliad hir â Marc Evans. Wedyn mae darllediadau gan Tudur Dylan, Mererid Hopwood ac un bardd arall (Rhys Davies?) o lawer o'r cerddi sy yn y ffilm, a llawer mwy eto - er enghraifft, mae Gerallt Lloyd Owen yn sôn am gerdd W.J.Griffith I Dlodion y Byd yn ei gyfweliad, a dyma Tudur Dylan yn ei darllen. Mae'r rhai o'r cerddi 'ma eisioes ar gael yma, os dych chi'n gallu defnyddio Windows Media Player, ych pych.
Da iawn wir. Dw i'n mynd ati ar hyn o bryd i ripo pethau oddi ar y DVD i MP3, a bydda i'n postio pethau ar Pop Peth yn y man, gan ddechrau gyda fersiwn John Cale o Ar Lan y Môr a'r gerdd Dave Datblygu, Pererin Nid Wyf.
Yr unig peth dw i ddim yn ei ddeall am y DVD 'ma yw pam dydy e ddim yn cael ei hyrwyddo yn fwy? Dyw e ddim ar gael ar Amazon, na Gwales am wn i, does dim sôn amdano ar wefan y ffilm, naci ar wefannau (uniaith Saesneg, da iawn bois) Fiction Factory a Tinopolis, y ddau gwmni a oedd yn gyfrifol am y ffilm. Taswn i ddim wedi digwydd ei weld yn siop Awen Teifi jyst cyn y Dolig, fyddwn i ddim yn gwybod ei fod e ar gael, er mod i wedi bod yn aros amdano ers mis Mawrth. Oedd 'na unrhywbeth yn y wasg amdano?
Mae Napoleon Dynamite, yn ffilm gynnil a chraff, ond yn hyn o beth, dyna'i gwendid hefyd. Er ei bod yn gofyn i ni uniaethu (neu gydymdeimlo o leiaf) â'r prif gymeriad, Napoleon, ni welwn ddigon o emosiwn neu pathos efallai i ni allu gwneud hyn.
Stori graidd y ffilm yw fod Napoleon Dynamite (Jon Heder) yn gorfod dioddef. Mae'n dioddef yn yr ysgol lle mae'n cael ei fwlio a'i wawdio gan amryw bobl, ac mae'n dioddef adref, gyda'i frawd a'i wncwl Rico, sy'n edrych ar eu hôl tra fod eu mamgu yn yr ysbyty (dydyn ni byth yn clywed beth sydd wedi digwydd i'w rhieni), mewn teulu 'dysfunctional'. Ond ymddengys fod Napoleon yn ddigon bodlon heb orfod 'ffitio mewn'. Mae'n bodloni ei hun ar ei ddychymyg, sy'n llawn uncyrn a 'litigers' (cymysgedd o deigr a llew), a'r syniad ohono'i hun fel rhyfelwr ("One of the gangs wanted me to join cos of my skills with the bowstaff").
Daw tro ar fyd wrth i Pedro ymuno â'r ysgol ac iddo gwrdd â Debs, dau sy'n debyg iddo fe, yn misfits llwyr, sydd yn ddigon bodlon yn 'ffitio mewn' gyda'i gilydd. Mae'r tri ohonynt yn uno i ethol Pedro'n llywydd y myfyrwyr, yn erbyn Summer, y ferch boblogaidd, blonde ystrydebol. Yr hyn a gawn hyd y ffilm yw datblygiad graddol Napoleon, o ran ei statws cymdeithasol a'i berthynas gyda Debs, er gwaethaf ymyrraeth ei wncwl Rico. Yn y pen draw, cawn foment ddadlennol, wrth i Napoleon ddangos i'r byd yr hyn y gall ef ei wneud, ac mae'r diweddglo yn un hapus, wrth gwrs (nodyn: MTV sy'n rhannol gyfrifol am i ffilm...)
Prif wendidau'r ffilm yw'r ffaith nad yw Napoleon yn gymeriad arbennig o hoffus, ac nad ydym ni'n gweld digon o'i ochr fregus, emosiynol i ni allu uniaethu ag ef. Ni chawn unrhyw olwg ar ei gymhelliant neu ei deimladau, ac felly'r oll a welwn yw cymeriad lletchwith, di-emosiwn. Heb gyfle i fynd i'r afael â'r emosiynau cyffredin i bawb, mae'r ffilm yn teimlo fel triniaeth oeraidd o fywyd un person - y mae ei weithredoedd a'i fywyd yn ymddangos yn ddinod a dibwys i'r gwyliwr. Trueni yw bod y ffilm wedi'i gwneud ar gyfer y genhedlaeth MTV - ffilm 'just for laughs' yw hi, sy'n colli cyfle da i gyfuno'r jôcs gyda rhywbeth ehangach, oesol. Ffilm dda os ydych chi am ymgolli mewn dinodedd, ond peidiwch â disgwyl tân gwyllt.