
Premeiere Byd Eang - Chapter 10.11.05
Ymdrech cyntaf Emyr Glyn Williams i sgwennu, cyfarwyddo a chynhyrchu drama wreiddiol Cymraeg. Mae sefydlydd label Ankst ar dir cyffredin fodd bynnag, wrth ymhél a bywydau chwech o gerddorion ifanc, a’u perthynas bregus wrth i’w band, Y Lleill, nesáu at anterth eu hymosodiad byr ar y Sîn Roc Gymraeg.
Y peth cyntaf i’ch taro am Y Lleill yw pa mor gredadwy yw’r byd a’i cyflwynir. Drwy gastio mwyafrif o wynebau newydd, mae Williams yn sicrhau realiti ei fyd; byd sydd, gyda llaw, yn dra gwahanol i honno sy’n cael ei chyfleu ar sgrinau gwlad y gân fel arfer. Oes, mae ‘na ambell i actor adnabyddus yma, ond ar y cyfan mae hi’n gast ‘ffres’ - efallai bod hyn yn peri i’r actio fod braidd yn “rhaffaidd” (a-hem) yma ac acw, ond rhywsut, ychwanega hynny at swyn y cyfanwaith.
Yr ail beth i’ch taro am Y Lleill yw’r iaith (nid sylw Piwritanaidd yn damnio’r rhegi, rhyw a’r roc a rôl mo hynny cyn i chi fynd i banic) ond ffilm ‘ddwyieithog’ yw hon yn ôl y sôn. Efallai bod modd i’r cysyniad yna weithio, ond dwy ddim yn credu i’r Lleill lwyddo cyrraedd y nod. Yn hytrach na chyfleu byd Cerddorol Cymraeg fel y mae - lle mae mwngrals yn datblygu ‘Wenglish’ eu hun - mae Cymry Y Lleill fel pe tai nhw’n siarad brawddeg Gymraeg, and then a sentence in English, am yn ail. Mae’n taro nodyn annaturiol, oedd braidd yn rhwystredig i’r gwyliwr yma o leia.
O ran stori, mae’r cyfan yn eitha elfennol - band Cymraeg yw Y Lleill, ac fel mae pawb yn gwybod (ys y dywed eithafwr hynod ystrydebol o drefnwr gigiau, yn y ffilm) ‘mae hi’n benderfyniad gwleidyddol i ganu yn y Gymraeg’. Ond, fel y gwelodd yr SRG gyda’r Super Furries a’n fwy diweddar Texas Radio Band a Zabrinski, does gan aelodau Y Lleill fawr o ddiddordeb mewn gosod baich achub yr iaith Gymraeg ar eu cerddoriaeth. Mae’n fantol fregus i’r band rhwng angerdd cymeriad Rhian Green i wthio ffiniau tu hwnt i Gymru, a chynigion llond dwrn o eithafwyr adref o arian a chyhoeddusrwydd hawdd ar sail yr iaith Gymraeg. Wedi ei gymysgu â’r cawl yna, cawn olygfeydd o bartia a chyffura a rhyw gwyllt blith draphlith - sy’n hwyl. Ar ôl ymddangos ar deledu Cymraeg am y tro cyntaf, mae’r band yn chwarae gig fawreddog i ddilyn rali iaith yn ‘Nhrefawr’, ac yn cael ymateb anhygoel i’w caneuon egniol ffres - ond unwaith iddynt droi at y Saesneg am y gân olaf, maen nhw’n cael eu herlid o’r llwyfan heb eu talu. Mae’r band yn troi ar ei gitarydd uchelgeisiol (Green) gan chwalu’r band, ac unrhyw obaith o ddianc llwydni'r realiti oedd eu cerddoriaeth yn arfer ei drechu.
Cryfder Y Lleill, yn sicr, yw gonestrwydd y golygfeydd cerddorol lle gwelwn gyfaredd cryniadau cyrff ifanc wrth iddynt ddarganfod dihangfa mewn cân. Mae 'na egni i’r ffilm yma sy’n chwa go adfywiol o awyr iach o gymharu â rhelyw dramâu cerddorol Cymru. Mae’n gychwyn diddorol i yrfa ddramatig Emyr Williams hefyd, a bydd hi’n ddiddorol i weld p’unai fydd y cyfarwyddwr yn gwyro o’r trywydd cyfarwydd cerddorol yn ei ffilm nesa’. I grynhoi felly, mae Y Lleill yn awr a hanner o ddrama gredadwy ac egniol sy’n newid difyr o’r arfer ffilmig Gymraeg - ewch i’w gweld hi, ond peidiwch a disgwyl chwyldro.
Postiwyd gan Mair Thomas ar Tachwedd 14, 2005 09:38 ybAdolygiad teg fi'n credu.
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Tachwedd 14, 2005 02:02 yh...gan adolygydd teg? G'won Criddle - dere a rhagor o gompliments i fi.
Postiwyd gan: Mair, Tachwedd 14, 2005 02:42 yhGan adolygydd deallus, doeth, dilychwin... (parhad ar dudalen 94)
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Tachwedd 14, 2005 03:43 yh