Tachwedd 13, 2005

Gary Slaymaker yn rhoi pryd o dafod i S4C

Yn ystod y sesiwn holi ac ateb ar gyfer 'Caerdydd' ddoe, gwnaeth Gary Slaymaker, compere y sesiwn (a chompere Pictiwrs yn y Pyb yn y Cwps y mis hwn) yn siwr ei fod yn cael dweud ei ddweud wrth yr haid oedd wedi ymgynnull o S4C, y sianel a fydd yn darlledu cyfres newydd Ed Thomas. Yng nghanol y trafod, cofiodd ddiolch yn sarcastig i'r holl bobl na ddaeth i ddangosiad Y Lleill am "eich cefnogaeth i'r unig ffilm Gymraeg yn yr Wyl. Da iawn chi".

Afraid yw dweud mai tawedog oedd y gynulleidfa yn dilyn y sylw pigog.

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Tachwedd 13, 2005 04:08 yh
Sylwadau

Faint o bobol oedd yna? Oedd hi'n dipyn llawnach na'r Lleill? Mae hynny'n warthus os mae'n wir.

Sut fath o neges mae hyn yn ei roi i wneuthurwyr ffilm Cymraeg eu iaith? Mae ffilmiau fel Y Lleill, sydd yn fy marn i yn ffilm dda er ddim yn berffaith, angen holl bwysau S4C tu ol iddyn nhw. Nhw sydd wedi ei ariannu, nhw ddylia sicrhau ei bod yn cael chwarae teg, a'i bod yn cael ei gweld gan gynulleidfa eang. Mae hi'n bownd o fod yn fwy sinematig o beth wmbrath na "Caerdydd" ac yn datblygu talent gwneuthura ffilmiau newydd ac actorion ifanc i feddwl am gynhyrchu ffilmiau (NID teledu, yn Gymraeg). Ble roedd y three line whip i sdaff S4C nos Iau dwetha ta?

Nid y sinema yw'r lle i ddangos rhaglenni teledu, yn arbennig rhan o gyfres, ac yn arbennig er mwyn cuddio'r ffaith taw dim ond un ffilm nodwedd mae S4C wedi ei chynhyrchu eleni, a honno ar gyllideb isel iawn. Gobeithio y caiff "Y Lleill" ei darlledu cyn bo hir (ac nid mewn slot mynwent ar S4C Digidol), mae'n haeddu hynny, er chwarae teg iddo, nid dyna oedd amcan y cyfarwyddwr Emyr Glyn Williams.

Wyddoch chi hefyd fod Dal/Yma:Nawr dal/heb:ddarllediad?

Anghygoel!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Tachwedd 14, 2005 11:16 yb

Tipyn llawnach na'r Lleill. Roedd diodydd am ddim ar gael.

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Tachwedd 14, 2005 11:29 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?