Neithiwr, bues i'n hobnobio (wel yn cwato yn y cefn) yn nangosiad swyddogol cyntaf o gyfres ddrama newydd S4C, 'Caerdydd'. Syniad y gyfres yw creu delwedd newydd, gyfoes o'n prifddinas, un sydd yn adlewyrchu'r newid yn ein cymdeithas, mewn modd y bu 'Dinas' yn gwneud gynt.
Mae'n amlwg mai un o amcanion y gyfres yw codi ambell ael. O fewn dwy funud gyntaf y rhaglen, mae yna olgyfa ryw, a chawn y trais, cyffuriaui a rhyw sydd yn nodweddiadol i unrhyw un sy'n gyfarwydd â'r Caerdydd go iawn, ond sydd ddim yn aml yn cael ei ffordd i sgrin y Sianel Gymraeg. Megis cyflwyno mae'r bennod gyntaf, fel y byddai rhywun yn disgwyl, ond mae'r ddeialog yn eithaf siarp a bachog. Ar adegau, byddai'n well petai'r sinematograffeg yn well, gan mai delweddau eithaf ystrydebol sydd o Gaerdydd, a Chaerdydd sydd hefyd ddim yn ymestyn y tu hwnt i'r Bae a Heol Eglwys Fair.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu yn ei chyfanrwydd o fis Ionawr ymlaen.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Tachwedd 13, 2005 04:03 yh