
Felly, mae'r Wyl Sgrin ar gychwyn: 10 diwrnod o wledda ar ddelwedda, ac eleni bydd Pictiwrs.com yn adrodd i chi bob dydd o'r Wyl gyda adolygiad cyflawn o o leia un ffilm y diwrnod, a digon o dameidiau blasus eraill o newyddion a chlecs ochr yn ochr â hyn.
Neithiwr oedd y noson agoriadol, gyda byddigions (a digon o an-fyddigions hefyd) wedi dod i weld ffilm DM Davies eleni a Proof (gweler isod). Cynhaliwyd y parti wedyn yn Stadiwm y Mileniwm, gyda llwyth o ddawnswyr ac artistiaid perfformio yn rhoi eu dadansoddiad o broject eangfrydig Peter Greenaway - Tulse Luper Suitcases. Felly, cafwyd dynes yn hyrddio anibendod ar hyd y lle a mewn i siwtces, ac wedyn ceisio hyrddio ei hun mewn i'r ces! Tres bizarre!
Doedd dim ser mawr yno i mi eu gweld ond mi wnes i gwrdd boi sydd yn spinoff American Pie newydd (Band Camp ydi ei enw aparyntli!), oedd yn ddigon clen a boi sy'n trefnu Gwyl Ffilmiau Nantucket yn America oedd yn foi digon difyr hefyd. Roedd un boi ifanc yno'n frwd i gyd yn ceisio fflogio ei sgript, road movie adeg 9/11, ond nid Cannes mo Caerdydd o ran ffeindio arian drwy wneud "elevator-pitch", ond pob lwc iddo - ella ffeindith o rywun.
Felly, edrych mlaen i weld be ddaw dros y dyddiau nesaf a gobeithio gallwn ni gadw chi yp tw det gyda unrhyw bethau diddorol down ar eu traws.
Ewch draw i'r wefan i weld beth fydd yn dangos...
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Tachwedd 10, 2005 12:45 yh