Hydref 25, 2005

Enwebiadau D M Davies ar y wê

Gwobr D M Davies yw'r fwyaf yn Ewrop ar gyfer cyfarwyddwr ffilm fer, ac eleni mae Gŵyl Sgrîn Caerdydd wedi derbyn 69 cais ar gyfer y gystadleuaeth. Bydd y ffilmiau yn cael eu dangos mewn 5 pecyn gwahanol, yng Nghanolfan Chapter, cyn datgan y 6 Uchaf ar y 14eg o Dachwedd, ac yna'r enillydd ar y 18fed. Am y tro cyntaf eleni, mae modd gwylio'r ffilmiau ar lein ar wefan Gŵyl Sgrîn Caerdydd.

Mae 'na ambell i ffilm Cymraeg yn cuddio yn y rhestr gan gynnwys Deffro (Gareth Bryn) a Ffrwcsach (Gareth Evans) i enwi dau. Dwy heb gael cyfle i wylio pob ffilm eto, felly byddwch yn siwr o adael nodyn i ddweud sut mae'r gweddill yn cymharu.

Postiwyd gan Mair Thomas ar Hydref 25, 2005 05:43 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?