Ffilm fud du a gwyn yw hon, gyda'r nod o fod mor driw i stori fer wreiddiol HP Lovecraft a bo modd.
Mae’r stori yn adrodd hanes dyn sy’n darganfod gwybodaeth am gwlt rhyfedd yn ffeiliau ei hen ewythr. Wrth iddo ymchwilio’r cwlt mae’n darganfod arswyd tu hwnt i ddychymyg dyn, un sy’n llechu dan y môr a rheoli dynion gyda telepathi. Mae’n hanes diddorol ac arswydys sydd wedi ysbrydoli diwylliant cyfan sy’n ymdroi o amgylch y ‘myth’ Cthulhu. Stori fer oedd hon, a dim ond ryw bedwar deg saith munud o hir yw’r ffilm gyfan. Mae hyn yn ddigon hir i adrodd y chwedl yn ei llawnder, ond eto’n ddigon byr fel bo modd ei gwylio hi nifer o weithiau heb flino arni.
Mae’n ganllaw gwych ar sut i greu ffilm ar y gyllideb leiaf bosib, ond dal i’w gwneud hi’ edrych yn dda. Dim ond pan wyt ti’n gwylio’r rhaglen ddogfen lliw wyt ti’n sylwi fod y moroedd wedi’ gwneud o fagiau bin. Ni fysai nifer o’r setiau yn plesio’r beirniaid ar lwyfan can actol yr Eisteddfod, ond mae popeth yn edrych yn wych mewn du a gwyn. Dylai rhai sy’n anelu at wneud ffilmiau ar gyllideb isel drwy’r Gymraeg wneud nodyn o’u technegau fan hyn. Ond nid ffordd o safio arian yn unig yw’r du a gwyn; mae’r cinematography yn wych drwyddo, gyda chymeriadau sy’n toddi rhwng gwyn y byd hwn ac affwys du Cthulhu wrth i’w pwyll lithro ymaith.
Un o’r atyniadau mawr i ddarllenwyr Pictiwrs yw bod modd ei gwylio hi mewn dau ddeg pedwar iaith - gan gynnwys y Gymraeg. Mae’r holl deitlau a’r siarad yn ymddangos yn yr heniaith, wedi’ gludo dros y Saesneg gwreiddiol gan ddewindabaeth y DVD. Ond eto does dim llawer o deitlau yn y ffilm; gwir athrylith y peth yw eu bod wedi medru troi stori fer gan awdur amleiriog oedd yn hael iawn gyda’i ansoddeiriau mewn i ffilm gydag ychydig iawn yn cael ei ddweud ynddi. Mae ein dealltwriaeth yn dibynnu lot ar yr actorion, sy’n gwneud yn wych i gyfleu cymaint heb unrhyw sŵn o’u genau.
Mae yna ymbell i ddarn gwael i’r ffilm. Y broblem fwyaf yw’r golygfeydd action. Wedi adeiladu awyrgylch a thensiwn gwych yn y ddau brif olygfa fawr, mae’r cyffro sy’n dilyn yn wael iawn ar y cyfan. Mae’r ymladd yn y gors yn ddiawen a diog, ac er bod denig y morwyr rhag R’lyeh yn llawn hwyl (yn enwedig y ‘twll ongl’) mae prif seren y sioe yn edrych yn eithaf gwarthus o sâl. Nid Ray Harryhausen mo hwn; mae’r ‘stop motion’ o safon llawer is nag Jason and the Argonauts. Hefyd, i rai sy’n gobeithio ei wylio drwy’r Gymraeg, mae’n werth nodi ei bod nhw wedi gwneud ambell i gamgymeriad; mae un is-deitl yn ymddangos dwywaith, ac un arall wedi’ dorri’n hanner. Dyna’r peryg pan fod pobl sydd ddim yn deall iaith yn ei drosglwyddo o un cyfrwng i’r llall.
Hyd yn hyn dim ond o wefan y HP Lovecraft Historical Society (HPLHS) mae modd prynu’r ffilm.
Postiwyd gan Ifan Morgan Jones ar Hydref 21, 2005 03:11 yhNewydd ei wylio, a dw i'n cytuno â thi; ffilm wirioneddol o wych ar ei thermau ei hunan, ac un dw i'n edrych ymlaen at ddangos i fy ffrindiau. Da iawn ti am wneud y gwaith cyfieithu - roedd yn ychwanegu at y wefr i gael y stori yn y Gymraeg.
Postiwyd gan: Nic Dafis, Hydref 30, 2005 11:15 ybDiolch. Beth oeddet ti'n meddwl o safon y cyfieithiad (heblaw a y dau wall amlwg oedd bai y ffatri DVDs)? Unrhyw broblemau? Wedi medru bod mwy llafar?
Postiwyd gan: Ifan, Hydref 30, 2005 02:26 yh