Hydref 18, 2005

O Gwmgiedd i Bogota (Ed Thomas, 2004)

Ffilm fer amlieithog (cymysgedd o Gymraeg, Sbaeneg a Saesneg) yw ‘O Gwmgïedd i Bogota’, sy’n olrhain hanes Ed Thomas yn teithio i Bogota, prifddinas Colombia, i weld cynhyrchiad o’i ddrama ‘Gas Station Angel’ yn yr ðyl gelfyddydau fawreddog a gynhelir yno bob blwyddyn. Ond, fel y dywedodd Thomas ei hun yn ystod y sesiwn holi ac ateb ar ôl y dangosiad hwn yn Chapter, fe drodd y ffilm yn llawer mwy na hynny, yn ymdriniaeth o deimladau’r cast a’r awdur o berthyn, ac yn ymdriniaeth o’r lle a elwir yn ‘gartref’.

Ffilm eithaf syml yw hon o ran arddull (ni lwyddwyd i gael yr holl nawdd angenrheidiol) ond mae’r criw wedi gwneud y gorau o’r hyn sydd ganddynt. Mae’r ffilm yn dechrau yng Nghwmgïedd, pentref genedigol Ed Thomas, a gwelwn ei syniad ef o gartref drwy ffilm super-8 newydd. Pwyslais y darnau yw hyn i ddangos y clytwaith o brofiadau sydd wedi cyfrannu ato fel person ac at ei waith.

Cyflymu wna’r ffilm wrth symud ymlaen i Bogota, ac mae’r gwrthgyferbyniad rhwng y ddau le yn amlwg. Ond eto, fel y gwelwn drwy ddrama Thomas, mae’r themâu o’r teimlad o gartref ac o geisio canfod hunaniaeth mewn byd sy’n gwneud i chi redeg i ffwrdd yn fyw hefyd yng Ngholombia. Llwydda Thomas a Dafydd Rhys, y cynhyrchydd, yn gelfydd, i gyfleu undod rhwng y ddau le drwy eiriau’r cyfranwyr yng Nghymru ac yn Ne America.

Ar ddiwedd y ffilm, rydym yn neidio’n ôl i Gwmgïedd. Efallai mai dyma unig wendid y ffilm, sef fod y llinell amser ar chwâl braidd, ond down i ddealltwriaeth fod gartref yn bodoli i bawb, yn rhywle.

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Hydref 18, 2005 12:13 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?