(IMDb)
Anhygoel o ystyried y ffilmiau diweddar fel Black Hawk Down sydd wedi clodfori rôl arfau o amgylch y byd yw bod ffilm fel Lord of War wedi cael ei rhyddhau gyda beirniadaeth mor gignoeth gyda chefnogaeth stiwdios mawr. Mae ffilm Andre Niccol (cyfarwyddwr Gattaca ac awdur The Truman Show) yn adrodd stori Yuri Orlov (Nicolas Cage), masnachwr arfau anghyfreithlon a fudodd o Iwcrain gyda’i deulu sydd, er ei fod yn sylweddoli diben ei fusnes, yn ceisio cyfiawnhau ei hun ym mhob cam o’i weithredoedd anfad. Ar ddechrau’r ffilm, ar ôl iddo weld ymgais at ladd un o benaethiaid maffia Efrog Newydd nepell o’i gartref, mae’n penderfynu dechrau gwerthu arfau, ac, fel Macbeth, mae’n suddo ymhellach ac ymhellach i bwll o waed na all ddianc ohono.
Mewn byd yn llawn rhyfel, llwydda Orlov i godi’n gyflym yn y byd masnachu arfau. Drwy ei gysylltiadau â’r Undeb Sofietaidd, yn fuan mae’n gwerthu arfau i bob rhyfel yn y byd, gan ennill cyfoeth a phriodi’r fenyw y mae wedi bod yn ei hedmygu ers blynyddoedd. Nid yw hi’n holi cwestiynau am ei gyfoeth anhygoel, ac nid yw Orlov yn poeni am ddatgelu hyn iddi.
Yna, daw cyfle mawr Orlov gyda chwymp yr Undeb Sofietaidd yn nechrau’r 90au. Yn sydyn, mae ganddo rwydd hynt i werthu'r stoc arfau mwyaf yn y byd heb boeni am foesau. Ond mae Jack Valentine (Ethan Hawke), y swyddog Interpol cydwybodol, yn dilyn pob cam gan Orlov, ac yn araf bach mae rhwyd yn cau am y masnachwr wrth iddo werthu mwy a mwy o arfau i ‘farchnad lewyrchus’ gorllewin Affrica a’i hunbeniaid gwallgof.
Mae’r cyd-chwarae rhwng y ddau yn y ffilm yn wych, wrth i’r ddau frwydro am y gorau i fod yn drech. Dyna un o uchafbwyntiau’r ffilm; er ein bod yn ymwybodol fod Valentine yn casáu Orlov a bod Orlov yn sylweddoli’r perygl y mae ynddo bob tro y mae’n wynebu Valentine, mae gwên ddireidus bob amser yn chwarae ar eu gwefusau. Gêm ddifrifol yw hon, ond gêm serch hynny. Mae’n bwysig iddynt ddangos pwy sydd orau.
Mae’r diweddglo yn atgoffa rhywun o ‘The Usual Suspects’, gyda Valentine yn gwbwl ddiymadferth wrth i ffigwr tywyll Orlov gael cymorth wrth rymoedd sydd yn uwch na’r ddau ohonyn nhw. Fel y dywed Orlov, mae angen pobl fel fe ar lywodraethau’r gorllewin er mwyn i wneud i’w gweithredoedd nhw ymddangos yn lân. Ond mewn gwirionedd, Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yw terfysgwyr mwyaf y byd. Trueni nad yw’r pwynt hwn yn cael ei amlygu tan ddiwedd y ffilm; nid ydym chwaith yn gweld gwir effaith drylliau Orlov ar ddioddefwyr rhyfel, heblaw am yr olygfa agoriadol ragorol lle rydym yn dilyn un bwled o ffatri i ben plentyn.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Hydref 18, 2005 03:22 yh