(IMDb)
Stori yw hon gan Nikolaj Arcel am y digwyddiadau cyffrous ond hynod gyffredin sy’n digwydd yng nghoridorau grym ym mhob cwr o’r byd. Sbardun y digwyddiadau hyn yw damwain car, lle mae arweinydd y blaid y mae disgwyl iddi ennill yr etholiad cyffredinol o fewn ychydig ddyddiau yn cael ei anafu’n ddifrifol. Achos y ddamwain yw’r ffaith fod ei yrrwr yn tynnu’i lygad oddi ar yr hewl am eiliad er mwyn estyn tân ato. Rydym yn cael gwybod ychydig cyn hyn am arwyddocâd y sigarét; roedd yr arweinydd yn honni ei fod wedi rhoi’r gorau i smygu er mwyn gwella’i ddelwedd ymysg y pleidleiswyr a chael cefnogaeth y lobïwyr gwrth-smygu.
Ail stori’r ffilm yw’r newyddiadurwr, Ulrik Torp, sy’n cael ei anfon i’r senedd fel ei gyfle mawr i gael llwyddiant ym myd newyddiaduraeth. Ei dad yw’r cyn-weinidog cyfiawnder, ac felly’n amlwg mae cyhuddiadau’n mynd yn ei erbyn ai dyma’r unig reswm ei fod wedi cael dyrchafiad cynnar. Ond buan y deallwn mai cael ei ddefnyddio y mae Torp fel arf mewn gêm wleidyddol fawr. Gydag arweinydd y ‘Centre party’ â’i ymennydd yn farw yn yr ysbyty, a hyn yn cael ei guddio oddi wrth y byd, mae prif swyddog y wasg yn defnyddio Torp er mwyn hybu gobeithion ymgeisydd asgell dde ar draul menyw sydd â chynlluniau amgylcheddol radicalaidd ond amhoblogaidd.
Mae’r swyddog yn rhoi stori i Torp am lwgrwobrwyo a dwyn gan ŵr y fenyw yng nghyswllt elusen plant yng Nghambodia. Dim ond ar ôl iddo wneud ychydig o ymchwil y mae Torp yn sylweddoli mai celwydd yw hyn i gyd. Ceir gwrthdaro enbyd rhwng ei gydwybod a’i yrfa, a phenderfyna mai ymuno â rhengoedd Moll, y newyddiadurwr sur ond cydwybodol a wnaiff, yn hytrach na dilyn y trywydd o fod yn gi bach i swyddogion y wasg.
Cryfder mawr y ffilm yw’r ffaith fod pob dim sy’n digwydd yn digwydd mor bwyllog o normal. Nid ffilm yn llawn gweiddi a chega yw hi, ond ffilm lle caiff gweithredoedd eu cyflawni drwy sisial yng nghlust rhywun neu drwy neges yn cael ei gadael yn bwrpasol ar beiriant ateb. Erbyn diwedd y ffilm, wrth i’r ddwy ochr frwydro yn erbyn ei gilydd, roeddwn i wedi fy hudo’n llwyr ganddi, ac roedd y paralelau gwleidyddol yn amlwg. Ar y diwedd, pan gyhoeddir fod un o’r rhai oedd yn rhan o’r cynllwyn bellach yn gomisiynydd yn yr UE i Ddenmarc, un enw sy’n dod i’r meddwl. Peter Mandelson, unrhyw un?
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Hydref 11, 2005 02:01 yh