Mae gwefan newydd Gwyl Sgrin Caerdydd 2005 (9-19 Tachwedd) newydd fynd ar lein ddoe.
Ewch draw yno i sortio'ch gwylio ffrantig am yr 10 diwrnod hyn.
Dwi'n bwriadu mynd o'r 9ed i'r 13eg os yn bosib ac mae Y Lleill (ffilm Gymraeg y soniais amdani'n rhaglen Pictiwrs dwetha), Police Beat, Sleeper, The Woman Chaser, Cocles and Mussels, Dumplings, The Rat, Adam's Apples, Caerdydd (er nad ydi wir yn ffilm...), The Proposition, ac The Tulse Luper Suitcases yn apelio ar y olwg gyntaf....wel, os da chi am wneud hi, neud hi go iawn de.
O ia, ac os ydach chi'n mynd i weld Dead Long Enough cadwch lygaid craff am ymddangosiad cameo gan neb llai na moi. Ie, dwi wedi camu mewn i'r golau, mae'r llen yn agor ar yrfa newydd lewyrchus ar y sgrin arian!! Oeddan nhw angen rhywun i fod yn "techie #2" a nath mygins gael ei lusgo mewn i'r siot i dynnu lever à la Fab-FM. I ddyfynnu Blade Runner, "a star that shines half as long, burns twice as bright"...nos da dahlinks.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Hydref 11, 2005 09:52 yhYmmm, beth sydd wedi digwydd i hanner y cofnod? Blincin amateurs... ;-)
Postiwyd gan: Geraint, Hydref 12, 2005 09:15 ybMa nhw'n bwriadu dangos clips o bob ffim fer sy'n ceisio am wobr D. M. Davies yn y fan, felly gwyliwch allan am rheini!
Postiwyd gan: Mair, Hydref 12, 2005 02:38 yh