Hydref 04, 2005

Rhaglen Pictiwrs yn y Pyb 3/10/05

th_PictiwrsTerfynol.jpg

Pictiwrs Yn Y Pyb – Hydref 2005...
Nôl yn y ddinas, yn ei gartre clyd...
Swatiwch, slotiwch, gwyliwch...Croeso mawr!

Och! Mae’r haf wedi dod i ben. Dim mwy o beintiau oer wrth i’r haul fachlud ar ddiwedd diwrnod crasboeth. Dim mwy o galifantio hwnt ac yma o ŵyl i ŵyl, yn barhaol babellog ond yn wen o glust i glust yn gwrando ar fandiau gwych. Mae hyd yn oed Mihangel a’i haf bach wedi mynd heibio.

Ond, na phoener, dyw’r hydref ddim mor ddrwg â hynny, mae’n esgus gwych i aros mewn a gwylio rhagor o ffilmiau. Pwy s’isio lliw haul be’ bynnag? Wfft! A dyma’r union eli a thonig sinematig i leddfu'r felan.

Ffilmiau heno...

Moses Pantybrwyn (10' 17")
Ysg: Cwmni Drama Wythnos Nesaf / Cyf: Euros Lyn
Mae Moses yn byw ar ei ffarm yng Nghanolbarth Cymru gyda Mair, ei ferch, sy'n mwynhau helpu ei thad ac Aaron ei fab, sy'n ddiogyn deunaw oed. Torrir ar hapusrwydd Mair pan ddaw Debbi, ei mam sydd wedi gadael yr aelwyd, i hawlio ei hanner hi o'r ffarm.
www.opustf.com

Tir Na Nôg (20’00”)
Ysg/Cyf: Zac Halberd
Mae Sarah wedi colli archwaeth ar fywyd - er ei bod wedi llwyddo yn ei arholiadau, mae ei mam yn parhau i swnian arni a meddwl am ddim arall ond rhagori ar y ddynes drws nesaf. Dianc yw’r unig beth ar ei meddwl, ond wrth i atgofion od o’r gorffennol pell ddod nôl i’w drysu, dyw ei Thir Na Nôg ddim yr union un a ddychmygodd.
www.ethosfilms.net

Toll (10' 10")
Cyf: Sean Vicary / Ysg: Elinor Wyn Reynolds
Mae rhywbeth bygythiol yn taro'i gysgod dros y tirlun gan ddeffro ffigyrau o straeon gwerin Cymreig sy'n ceisio cydweithio i roi pethau nôl yn eu lle.

Calan Gaeaf (9‘ 37”)
Ysg: Rhodri Owen / Cyf: Aled Bartholomew, Alun Gaffey, Sioned Hughes
Ar galan gaeaf, troad blwyddyn newydd y Celtiaid, mae myfyriwr celf yn myfyrio ar ddiflastod ei fywyd anghreadigol.

Y Consuriwr (8’30”)
Cyf: Arwel Gruffydd / Ysg: Rhodri Meilyr
Mae Moses yn gonsuriwr. Dyw e ddim yn gonsuriwr da iawn. Mae'n byw gyda Breian ei dad sydd yn gaeth i gadair olwyn. Mae Breian yn benderfynol bod Moses yn mynd i ddioddef hyd at syrffed ond penderfyna Moses roi tro ar un tric hud olaf.

Yn Cynrychioli (9’ 00")
Cyf: Sion Mali
Ffilm ddogfen ar daith criw hip hop Sleifar a'i deulu o rapwyr anystywallt lawr i recordio sesiwn yn stiwdios byd-enwog Maida Vale ar gyfer rhaglen Rob Da Bank fu’n cyflwyno rhaglen John Peel wedi iddo farw y llynedd.

Newyddion FFILM

Gwyl Sgrîn Caerdydd (9-19 Tachwedd 2005)
Mae prif wyl ffilm Cymru’n dychwelyd ddechrau fis nesaf gyda gloddest o ffilmiau newydd o bob cwr o’r byd. Yr uchafbwynt eto fydd Gwobr DM Davies, ac eleni mae 69 o ffilmiau yn cystadlu am yr arian a’r pecyn cymorth gwerth £20,000 i gynhyrchu eu ffilm fer nesaf. Eleni, am y tro cyntaf, bydd pob un ffilm sy’n cystadlu ar gael i’w gwylio ar wefan yr wyl, gan gynnwys sawl ffilm Gymraeg. Edrych ymlaen yn barod. Wrth gwrs bydd adolygiadau llawn a sdraeon ar Pictiwrs.com drwy gydol yr Wyl.
Cyhoeddir y rhaglen ar www.gwylsgrincaerdydd.co.uk ar y 10fed o Hydref.

Ffilmiau Byr Cymraeg Newydd
Bydd tair ffilm Gymraeg newydd yn cael eu cynhyrchu drwy gynlluniau Screen Gems a Digital Visions Sgrin eleni. Y gyntaf fydd ffilm 10 munud o’r enw “Elen”, a sgwennwyd gan Caryl Lewis ac a gaiff ei chyfarwyddo gan Elen Bowman. Bydd Jason King hefyd yn cyfarwyddo ffilm o’r enw “The Life and Life of Horace” gan Hywel George (cyfieithiad Cymraeg gan Aneirun Karadog). A’r drydedd fydd “Iawn Del”, gan Bethan Marlow o Gaernarfon. Llongyfarchiadau iddyn nhw gyd a braf yw gweld fod ffilmiau Cymraeg yn cael eu hariannu.

Yn ogystal mae Gwyl Ffilmiau Myfyrwyr Ffresh (www.ffresh.co.uk) newydd gyhoeddi fod 22 o ffilmiau yn cystadlu am y wobr am ffilm Gymraeg orau. Gobeithio y cawn ni gyfle i ddangos llawer ohonyn nhw mewn nosweithiau Pictiwrs yn y dyfodol.

Y Lleill
Mae ffilm hyd llawn Cymraeg hefyd wedi cael ei gynhyrchu yn ystod yr haf, bydd “Y Lleill” a gyfarwyddwyd gan Emyr Glyn Williams o label cerddoriaeth Ankst yn dangos am y tro cyntaf yng Ngwyl Sgrin Caerdydd. Mae manylion yn brin ar y foment ond edrychwn ymlaen i’w gweld hi yn ystod yr Wyl.

Digwyddiadau Eraill
Sdwff sy’n mynd mlaen yn eich ardal y dylech gadw llygad barcud amdanynt...

Filmshed Showcase – Dempsey’s Caerdydd, misol
Ydyn, mae criw fforwm ffilm Cymru, www.filmshed.com wedi cymeryd awennau noson POV gynt ac yn parhau’r gwaith o ddangos ffilmiau byr yn fisol yn y ddinas. Ond o hyn ymlaen bydd gwr neu wraig wadd yn dod i siarad ym mhob noswaith.

Sialens FilmWales 2005
Mae ganddoch chi 28 diwrnod i sgwennu, saethu a golygu ffilm fer o hyd at 5 munud o hyd, gan ddefnyddio cneuen goco fel prop, y llinell “Mae’n nhw’n dweud fod mellt byth yn taro ddwywaith” (wel, dwi wedi cyfieithu hwn o’r Saesneg, ond dwi’n siwr fasa raid iddyn nhw’n fodlon derbyn ffilm yn Gymraeg os taw all Wales ydi o...) a rhaid iddo fod yn gomedi... credu gallwch chi ei gyflawni? Rhagor o fanylion ar www.filmwales.net

Pictiwrs.com
Os ydych chi eisiau cyfrannu at wefan www.pictiwrs.com yna cysylltwch â ni ac wrth gwrs, rydyn ni hefyd yn parhau i geisio ffeindio unrhyw ffilmiau byr Cymraeg eraill i ddangos ar y noson felly os ydych chi wedi creu eich ffilm eich hunain, pediwch oedi, anfonwch hi lawr! Gallwch gysylltu â ni un ai drwy delepathi, Alpen horn neu roi gwaedd i ni ar geraint@pictiwrs.com neu rhodri@pictiwrs.com

Bydd y “Pictiwrs Yn Y Pyb” nesaf yn Aberystwyth ym mis Tachwedd. Manylion i ddod ar y wefan cyn hir...

Diolch hiwj i: Mair, Ifan R, Dylan, Jon a gweddill bois Filmshed, Eryl, Eleri yn S4C, Nic, Keri a Rich Disco Mbobu, Neil yn Those People, Rhian, a phawb sydd wedi ein cefnogi drwy anfon eu ffilmiau atom neu ddod i’w gwylio. Jiawch ‘chi’n bobol glên!

Postiwyd gan Mair Thomas ar Hydref 4, 2005 12:49 yh
Sylwadau

Di'n bosib rhoi'r gweddill fyny hefyd?

Mae na ddarnau newyddion fuasai ella o ddiddordeb i bobol yna.

Nais won chief.

Hwyl

Jackie "Gwd" 'Chan

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 4, 2005 11:35 yh

Wedi gwneud syr.

Postiwyd gan: Mair, Hydref 5, 2005 02:10 yh

Mae fflyn da fi, dw i ddim yn gwybod...
Dw i'n eisiau taw fy ffilm fy, Wise Yogurt Directories, na "Pictwrs" nesaf. At Pwy siaradwn i?

Postiwyd gan: Vasco de Sousa, Tachwedd 7, 2005 03:23 yh

Howdi!

Cysyllta trwy yrru e-bost i Rhodri AT pictiwrs DOT com neu Geraint AT pictiwrs DOT com - Fyddan nhw'n siwr o helpu :)

Postiwyd gan: Mair, Tachwedd 8, 2005 10:25 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?