(IMDb)
Anodd, mae’n siŵr, i unrhyw gyfarwyddwr, yw ymdrin â stori sydd yn dra chyfarwydd i’w gwylwyr. A phan mai ffilm gyntaf cyfarwyddwr ar gyfer y sgrin fawr yw honno, anoddach fyth yw’r dasg. Mae Pride and Prejudice, ffilm gyntaf Joe Wright, yn llwyddo mewn sawl ffordd i gyfleu’r hanes o’r newydd, ond nid yw’n gwneud digon i ddal y dychymyg yn yr un ffordd ag y gwnaeth ymdriniaeth Andrew Davies ar gyfer y BBC yn y nawdegau.
O ganlyniad i natur fer y ffilm o gymharu â’r gyfres chwe rhaglen honno, ni chawn fawr o amser i osod cyd-destun y ffilm. Ceir un olygfa agoriadol (sy’n cael ei hadlewyrchu ar ddiwedd y ffilm), gydag Elizabeth Bennet (Kiera Knightley) yn cerdded ar hyd y ddol yn gynnar yn y bore, heb boeni am wlith y bore yn gwlychu ymylon ei sgert, yn cerdded gan ddarllen fel mewn breuddwyd. Ar amrantiad, mae’r olygfa’n newid; rydym yn clywed am ddyfodiad Mr Bingley a’i chwaer, a Mr Darcy, a’u bwriad i fynd i’r ddawns. Mae eu hymddangosiad yn y ddawns yn destun cryn gynnwrf, wrth i Mrs Bennet geisio cyplu ei merched â’r dynion golygus a chyfoethog.
Mae gwleidyddiaeth y ffilm yn dra amlwg. Nid yw Mr a Mrs Bennet wedi llwyddo i esgor ar fab, ac felly maent yn wynebu cael eu taflu o’u cartref, gan mai ffigwr sych a gwirion Mr Collins fydd yn etifeddu’u cartref. Mae Mrs Bennet yn trio’i gorau i gael gwared ar ei merched er mwyn sicrhau cyfoeth nid yn unig iddyn nhw, ond hefyd i’r teulu. Caiff Elizabeth ei denu at Mr Darcy, nid oherwydd bod ganddi atyniad naturiol ato, ond oherwydd ei natur broclyd, sarcastig, a’r ffaith bod ei falchder yn cael ei gyflyru drwy fod yng nghwmni rhai sydd islaw ei statws.
Mae perfformiadau’r ddau yn rhai cryf, sydd yn cyfleu’r gydberthynas rhyngddynt yn dda. Yn wahanol i’r disgwyl, llwydda Knightley i gyfleu natur benderfynol ond chwareus Elizabeth yn gelfydd, ac mae Matthew Macfadyen yn portreadu’r newid ymddangosol yng nghymeriad Darcy i’r dim. Ond, gwaetha’r modd, nid oes digon yn y ffilm i gynnal diddordeb. Mae gormod yn cael ei golli wrth i ni neidio o un olygfa i’r llall, ac o sefyllfa un ferch i’r llall. Ceir ambell foment dreiddgar, er enghraifft lle mae Charlotte yn amddiffyn ei phenderfyniad i briodi Mr Collins, ond yn rhy aml mae’r cyfarwyddwr yn gorfod gweithio’n galed i greu emosiwn, yn lle gallu gadael i’r digwyddiadau ddatblygu’r emosiwn yn naturiol.
Mae’r diweddglo yn teimlo’i fod yn cyrraedd yn rhy gyflym. Mae Elizabeth yn mynd am dro yn y bore bach, yn methu cysgu ar ôl clywed am y newyddion y bydd ei chwaer Jane yn priodi Mr Bingley. Yn sydyn, drwy gyd-ddigwyddiad mae’n siŵr, mae Darcy yn ymddangos o ddim unman, yn cerdded tuag ati â’r gerddoriaeth yn ffugdeimladol o emosiynol, i gymryd ei llaw unwaith ac am byth. Trueni bod yna adegau fel hyn yn y ffilm, oherwydd roedd un o’r golygfeydd blaenorol, lle mae Elizabeth yn wynebu Lady Catherine De Bourg (Judi Dench), modryb Darcy, yn wirioneddol rymus. Cymysgfa felly yw’r ffilm, un sydd yn peri hyfrydwch a rhwystredigaeth o fewn ychydig funudau i’w gilydd. Gwell gadael y stori’n nofel neu ei phortreadu’n faith.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Medi 26, 2005 02:13 yhO'n i'n disgwyl byddai hwn yn ofnadwy, ond ces i'n siomi ar yr ochr orau. O ystyried gymaint sydd wedi ei dorri, mae'n braf gweld fod y plot yn dal i gynnal ei hun, hyd yn oed os nagyw'n ennyn yr ymateb ddwysach llwyddodd Andrew Davies ei greu. Mae'n ddiddorol sut mae Joe Wright yn ceisio cyfleu rhai o gymhlethdodau'r prif gymeriadau trwy delweddau cryno - fel dangos dwylo Darcy, ond er i mi werthfawrogu'r ymdrech, codi fy nghwrychyn wnaeth y gosodiadau yma!
Postiwyd gan: Mair, Hydref 4, 2005 01:22 yh