Medi 26, 2005

A History of Violence (David Cronenberg, 2005)

(IMDb)

Mae ffilm ddiweddaraf David Cronenberg yn ffilm a fydd yn apelio i lawer mwy o bobl na chryn nifer o’u ffilmiau blaenorol. Mae iddi elfen o fod yn ffilm fwy ‘normal’ na gwaith fel Videodrome, Naked Lunch neu Crash, ond, unwaith eto, llwydda Cronenberg i guddio llawer o’u ffilmiau dan yr arwyneb. Mae A History of Violence yn ffilm gynnil sydd yn dadlennu hanes a natur cymeriad yn raddol ac yn drawiadol.

Mae’r stori yn dechrau gyda gwrthgyferbyniad amlwg. I ddechrau, gwelwn ddau ddihiryn sydd newydd lofruddio tri pherson mewn motel am ychydig o arian. Mae eu difaterwch at ladd y bobl hyn yn frawychus. Ychydig wedi hynny, rydym yn cwrdd â Tom Stall (Viggo Mortensen), gwr sydd, fe ymddengys yn byw’r freuddwyd Americanaidd. Mae’n berchen ar ei gaffi ei hun mewn tref brydferth yng nghefn gwlad, yn briod â dynes brydferth (Maria Bello) ac yn dad i ddau o blant. Mae’r ddau fyd yn gwrthdaro wrth i Tom ladd y ddau ddihiryn pan geisiant ddwyn arian o’u gaffi yn hwyr gyda’r nos.

Yn sydyn, caiff Tom ei bortreadu fel ‘All-American Hero’ yn y cyfryngau, mantell y mae ef yn gyndyn i’w gymryd. Mae ei enwogrwydd yn denu dihirod mwy peryglus: mae gangster o’r enw Carl Fogarty (Ed Harris) yn ymddangos yn y caffi un dydd ac yn mynnu nad Tom yw Tom o gwbl, ond Joey Cusack, gangster arall o Philadelphia a geisiodd ei ladd unwaith â weiren bigog. Mae ganddo’r graith i brofi hynny, ac ymarweddiad oeraidd pwyllog sy’n mynd at wraidd brawychiaeth y gangster. Nid rhywun i fynd i’r afael ag ef ar chwarae bach yw Fogarty; mae ganddo’r agwedd sy’n argyhoeddi dyn y câi ei saethu heb fawr o boendod meddyliol i Fogarty.

Yn raddol, daw trais yn rhan annatod o’u bywyd bob dydd. Wrth i Tom ddechrau pryderu am ei deulu rhag iddynt gael eu niweidio gan y gangsters, mae gwn hela oedd yn cael ei guddio mewn cwpwrdd mewn ystafell wely yn cael ei weld fwyfwy. Mae’r mab, a welwyd i ddechrau yn wynebu bwli yn yr ysgol â’u hiwmor a’i glyfrwch, yn troi at drais fel ateb i’r bwlio sy’n bla ar ei fywyd. Yr hyn a wna Cronenberg, yn amlwg, yw dangos pa mor hawdd y daw trais i’r adwy yn wyneb rhwystredigaeth ac fel modd o gael eich ffordd.

Gwell yw peidio â mynd yn bellach i mewn i’r stori, oherwydd y perygl o’i difetha i unrhyw sydd am fynd i’w gweld. Ond gyda pherfformiadau rhagorol y cast, a chyfarwyddyd medrus Cronenberg, mae’n ffilm sy’n werth ei gwylio. Mae Mortensen a’r cyfarwyddwr yn llwyddo i gadw deuoliaeth y ffilm dan reolaeth, nid rhywbeth hawdd i’w wneud. Daw’r diweddglo yn gynnil, heb ymdrech fawr i gyfaddawdu neu felodrama, ond drwy weithredoedd syml.

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Medi 26, 2005 12:39 yh
Sylwadau

Dwi rioed wedi gwylio ffilm Cronomberg o'r blaen, efallai a'i weld hwn wedi dy adolygiad. Diolch

Postiwyd gan: Rhys, Medi 29, 2005 04:02 yh

Rioed wedi gweld Cronenberg?!!

Mae ffilmiau'r boi yn wych (flawed, fel arfer, ond dal yn wych).

Dwi'n awgrymu: Scanners, Videodrome, eXistenZ (oce dio ddim yn sbesh ond dwi'n hoffi fo...), The Fly (am laff), The Dead Zone.

Mae'r gweddill yn werth eu gweld hefyd am fod Cronenberg bob tro'n mynd tu hwnt i ffiniau genre ac yn codi cwesitynau hynod ddiddorol am ryw, y corff, gwyddoniaeth a natur ddynol.

Edrych ymlaen yn arw i weld hon...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 30, 2005 10:50 yb

Welais i hwn neithiwr. Gwych. Ti'n llygad dy le ei fod yn gynnil. Ma rhywun yn synnu weithiau cyn lleied sydd raid i rai cyfarwyddwyr ei ddweud er mwyn dweud y cyfan. Crony nol ar fform. John Hurt yn class.

Un cwestiwn ddo - be oedd pwynt yr olygfa fach yna gyda Maria Bello'n hollol noeth? Ddim bo fi'n cwyno de - ma hi'n hollol sdyning (nesh i ddisgyn mewn cariad efo hi yn The Cooler ac ma hwn jest yn ychwanegu at hynny) - ond wnaeth o fawr o synnwyr i fi.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Tachwedd 29, 2005 07:41 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?