
Mae Ffresh: Gwyl Delweddau Symudol Myfyrwyr Cymru newydd gyhoeddi eu bod wedi derbyn 241 o geisiadau ar gyfer yr Wyl sydd i'w chynnal yn Aberystwyth ym mis Chwefror.
[Gwyliwch ffilmiau buddugol y llynedd]
Mae hyn yn cymharu'n ffafriol iawn a'r llynedd, ac yn argoeli ar gyfer cystadleuaeth safonol arall i'r Wyl sydd nawr yn ei bedwaredd flwyddyn, ond yr hyn sydd yn fwy cynhyrfus nac arfer ydi fod yno 22 ffilm fer/rhaglen Gymraeg wedi cael eu rhoi gerbron y rheithgor. Ffigwr sydd fyny o dipyn ar y llynedd os dwi'n cofio'n iawn.
Ni ddyfarnwyd gwobr i'r categori hwn y llynedd (er bod derbyniad gwych gan gynulleidfaoedd Pictiwrs wedi dangos gwerth sawl un o'r ffilmiau hyn *ahem*!). Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer bwydo rhagor o dalent mewn i wneuthura ffilmiau yn yr iaith Gymraeg a gobeithio y bydd y rheithgor yn llwyddo i ddewis ffilm buddugol eleni.
Gobeithio hefyd y bydd y ffilmiau'n gallu cystadlu gyda'r 219 ffilm arall sydd yn yr Wyl. Mae hwn yn gyfle i'r Gymraeg gael ei drin heb ffafriaeth na chynulleidfa gaeedig. Realiti sefyllfa'r byd ffilm ydi os ydan ni eisiau pobol i weld ffilmiau Cymraeg a gweld ein straeon ni, fod yn rhaid i ffilmiau Cymraeg eu hiaith fodoli o fewn y gystadleuaeth ryngwladol sydd ohoni, ac nid dim ond o fewn bybl saff cyfryngau Cymru. Pob hwyl iddyn nhw dduda i, a gobeithio y cawn ni drafod llwyddiant y ffilmiau fan hyn fis Chwefror! No pressure 'de! ;-)
Wedi i mi dreulio diwrnod yn yr wyl yn 2003 gallai ddeud fod yr awyrgylch o fewn yr wyl yn wefreiddiol, gyda'r Ganolfan Gelfyddydau dan ei sang gyda myfyrwyr sydd yn dra-awchus am eu llwyddiant cyntaf ac i gael eu gwaith wedi ei dangos a'i drafod gan eu cyfoedion. Mae sesiynau technegol, gyrfaol a chreadigol dros y tridia gan roi cyfle gwerthfawr i fyfyrwyr ddod i gyswllt efo'r pobol fydd yn eu cyflogi/comisiynu nhw flwyddyn neu ddwy lawr y lein.
Gobeithio'n wir na fydd newidiadau sydd dan waith yn y ffordd y bydd ffilmiau Cymru yn cael cefnogaeth ar hyn o bryd yn golygu na fydd yr Wyl hon yn cael ei niweidio. Mae'n lawer rhy dda o beth i adael i hynny ddigwydd.
Mae'r rheithgor eleni yn cynnwys:
Ffuglen - Paul Turner, Cyfarwyddwr (Hedd Wyn)
Animeiddio - Gerald Conn, Animeiddiwr a Rheolwr Cwmni Animeiddio Cinetig
Teledu - Sian Thomas, Pennaeth Cyflwyno ac Amserlennu BBC Cymru
Ffeithiol - Steve Robinson, Cynhyrchydd BBC Cymru (Tribes)
Cerddoriaeth a'r Cyfryngau - Emyr Glyn Williams, Cyfarwyddwr / Rheolwr Ankst Music (sydd wedi cyfarwyddo ffilm nodwedd sydd am gael ei dangos yng Ngwyl Sgrin Caerdydd! Ar y slei bron iawn! Mi fydd gennai ffeithiau calad yn fuan...)
Ffilm Hyrwyddo/Sting - Phil Higginson, BBC Cymru
Ffilmiau Byrion Byr (dan 3 munud) - Fizzy Oppe, Pennaeth Datblygu, Fiction Factory
Gwobr Iaith Gymraeg - Owain Meredith, Sgriptiwr (Diwrnod Hollol Minblowing Heddiw)
Dolenni
Showcase For Welsh Student Filmmakers - News Wales
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Medi 19, 2005 10:39 yh