Mae'r pleidleisiau wedi eu postio, a'r cyfrwyr wedi didoli...beth yw deg uchaf hoff ffilmiau Caerdydd?
Cliciwch ar "rhagor" i weld...
The Shawshank Redemption Casablanca Star Wars 4 Alien Good Fellas Pulp Fiction ET Moulin Rouge Citizen Kane acThe Englishman Who Went up a Hill and Came Down a Mountain.
Ie, disgwyliadwy iawn oedd canlyniadau'r cyfrif (dim fersiwn Cymraeg eto...) Caerdydd, er does dim cweit cymaint o dross yno ac yr oeddwn i wedi ei ddisgwyl ('eblaw am Shawshank Redemption a Moulin Rouge 'de ;) ). Doeddwn i ddim yn disgwyl Top Ten Sight and Sound chwaith. Doedd "8 1/2" byth am ddod i'r brig rili nagoedd? Ar y cyfan, ffilmiau digon parchus.
Ond howld on! Be di hwnna ar y diwedd? Wyddwn i ddim fod cymaint o Hugh Grant-garwyr yn Nhreganna?! ;-)
Mae nhw am ddangos 5 o'r 10 ffilm yn ystod yr wyl, gobeithio gawn nhw brintiau o Casablanca a Citizen Kane ynde...sa Alien yn neud yn iawn 'fyd. Fethish i'r re-release...cadwch lygad ar y rhaglen am amseroedd.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Medi 19, 2005 11:33 yh