Medi 06, 2005

Bombón - El Perro (Carlos Sorin, 2004)

IMDb
bonbon.jpg
‘Road movie’ o fath yw hon, wrth i’r arwr Juan ‘Coco’ Villegas yrru nôl a mlaen yn chwilio am waith a cheisio gwerthu ambell ddolen cyllell mae e wedi crefftio yn ei amser sbâr. Mae Coco wedi ei ddiswyddo ers i’r garej lle fu’n gweithio gau. Yn bum-deg-dau oed, does fawr o gyfle iddo yn y cwmni recriwtio lleol. Swnio’n depressing hyd hyn nagyw?! Ond hanes croes i’r disgwyl yw hon. Gydag agwedd pwyllog, optimistig Coco, rhwystrir tristwch sefyllfa dywyll.

Ar daith un dydd, mae Coco’n dod ar draws menyw â’i char wedi torri lawr. Er ei bod hi cryn bellter o’i chartref, mae e’n ei chludo hi a’r car yn ôl yno, cyn trwsio’r cyfan iddi. Yn gyfnewid i’w wasanaeth mae’n cael cynnig ci pedigri Dogo Argentino, o’r enw Bombon, o gennel ‘LeChien’.

Mae lwc Coco yn troi ar unwaith, ac mae’n dechrau cael bob math o gynigion gwaith: yn diogelu ffatri wlân, yn dangos ei gi mewn cystadlaethau ac yn gwerthu hâd y ci am grocbris.

Mae perthynas diddorol yn datblygu rhwng y dyn a’i gi sy’n dod â newid bach i fywyd Coco, ond digon o newid i'w wella, ac i gyflwyno’n arwr i sefyllfaoedd a phobl na fyddai erioed wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Mae’r ffilm wedi ei seilio ym Mhatagonia yn yr Arianin, ac felly o gryn ddiddordeb i nifer o Gymry Cymraeg. Dim syndod fod sinema’r Chapter yn orlawn pan dangoswyd yr hanes anghyffredin nos Sul felly. Mae’n ddarlun cyfrin o’r cychwyn, â bwrdwn gwacter a chwilfa tirlun sychedig y Wladfa yn cael ei fantoli gan rhyfeddod yr olygfa. Yn y pen draw, stori araf, hoffus, hawdd i’w gredu sydd yma – ewch i’w gweld.

Postiwyd gan Mair Thomas ar Medi 6, 2005 03:49 yh
Sylwadau

O'n i'n teimlo'i bod hi'n haeddu mwy na thair seren. O'dd gwen ar 'y ngwyneb i am sbelen ar ol ei gwylio hi. Ffilm i neud i chi deimlo'n dda, ond mewn ffordd gynnil, heb fod yn gawslyd.

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Medi 9, 2005 10:29 yb

Fi'n anodd iawn i'mhlesio - ti'n iawn, falle fod hi'n haeddu un seren fach 'to.

Postiwyd gan: Mair, Medi 9, 2005 01:03 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?