Mae’r ffilm hon, diolch byth, yn gweld y cyfarwyddwr Tim Burton yn dychwelyd i’w safonau uchel arferol, yn dilyn y siomedigaeth a ddaeth gyda Planet of the Apes a Big Fish. Nid cyd-ddigwyddiad, wrth gwrs, yw’r ffaith bod Burton unwaith eto’n gweithio gyda Johnny Depp, actor sydd wedi ymddangos yn y rhan fwyaf o lwyddiannau nodedig y cyfarwyddwr. Mae’r ffilm yn ddoniol, yn ddireidus, ond ar yr un pryd yn amwys ei moesoldeb a’i thriniaeth o Willy Wonka, ceidwad y ffatri hudolus.
Yn wir, mae’r ffilm hon yn dra gwahanol i bortread Mel Stuart o’r llyfr, Willy Wonka and the Chocolate Factory. Yn ogystal â’r newid amlwg yn y teitl, mae’r lleoliad hefyd yn un gwahanol iawn. Yn lle delfryd Bafaraidd ffilm 1971, mae Burton wedi trosglwyddo’r ffilm i rywle na fyddai’n edrych allan o le yn Swydd Gaerhirfryn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda strydoedd cul llwyd yn y dref, a’r ffatri ei hun yn edrych fel ‘cast off’ o set Metropolis.
Yng nghanol hyn i gyd, mae Charlie Bucket, sy’n ddeuddeg mlwydd oed, ac yn byw gyda’i rieni a’i ddau dad-cu a’i dwy fam-gu mewn bwthyn bach cam ar ymyl y dref. Wrth gwrs, er gwaethaf y ffaith eu bod yn dlawd tu hwnt, gyda thad Charlie’n colli ei waith yn y ffatri bast dannedd (yn sgil cystadleuaeth Wonka), mae eu bywydau’n cael eu cyfoethogi gan y gariad sy’n eu cynhesu nhw i gyd. Dyma sy’n asgwrn cefn iddyn nhw i gyd, ac i Charlie yn arbennig.
Mae’r stori, wrth gwrs, yn hen gyfarwydd i’r rheiny sy’n caru’r byd ffilm, gyda Charlie, Veruca Salt, Augustus Gloop, Mike Teevee (sy’n llawer mwy annymunol yma nag yn fersiwn 1971) a Violet Beauregarde i gyd yn ennill tocynnau i ymweld â ffatri Willy Wonka am daith na ŵyr neb y rhesymau amdani. Rydym yn cwrdd, yn y pen draw â Wonka ei hun (sef Depp, wrth gwrs), cymeriad sy’n amlwg heb fod allan am amser hir yng nghwmni pobl, sy’n edrych fel Count Dracula gyda llais Michael Jackson.
Mae perfformiad Depp yn gryfder amlwg yn y ffilm. Yn wahanol i Gene Wilder a’i bortread o Wonka fel creadur braidd yn faleisus, yma mae Wonka yn greadur tebyg i blentyn ac yn fregus ei ymarweddiad. Os, fel y mae’r beirniaid yn ei amgyffred, yw Wonka i fod i gynrychioli Satan yn temtio’r plant rhwng da a drwg, mae Depp yn gwneud llawer gwell gwaith yn cuddio hyn nag y gwnaeth Wilder flynyddoedd yn ôl. Cyrraedd ar hap wna Charlie at ei drysor. Yn ddiddorol hefyd, ni welwn drosedd ac adferiad Charlie fel yn y fersiwn gyntaf. Mae’n aros yn gwbl ddiniwed a dilychwin.
Cryfder arall yw’r dyfnder sy’n cael ei ychwanegu at gymeriad Wonka drwy ôl-fflachiadau i’w orffennol. Yn y gorffennol pell, fe rwystrodd Dr Wilbur Wonka, llawfeddyg deintyddol, ei fab rhag bwyta losin ac yna’i daflu ymaith pan fynegodd awydd i fod yn wneuthurwr siocled. Yn y diwedd, ceir cysylltiad cryf rhwng Charlie a Wonka, wrth weld y ddau fel rhai sydd ar eu colled yn y byd. Ond, wrth gwrs, mae eu colledion yn rhai gwahanol, a’u henillion yn bethau y maent llall yn eu chwennych.
Mae’r ffilm felly’n llwyddiant i Burton. Mae wedi llwyddo i adrodd y stori mewn ffordd ysgafn a difyr, ond heb amharu’n ormodol ar y ffilm â chyfeiriadau at bethau cyfoes, a phethau i apelio at oedolion, fel y gwelwn mewn llawer o ffilmiau i blant bellach. Os nad ydych chi erioed wedi gweld 2001, hynny yw.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Awst 16, 2005 02:26 yhOnd rwan, dwi'n dod rownd i ddarllen hwn. Ma wedi hen fynd o Gaerdydd erbyn hyn dydi. Raid i fi aros tan ddiwedd y mis!
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Medi 19, 2005 10:50 yh