Awst 10, 2005

Cystadleuaeth Gŵyl Sgrîn Caerdydd

Eleni mae Gŵyl Sgrîn Caerdydd yn gwahodd trigolion y brif ddinas i gymryd rhan mewn ymgyrch i gael hyd i Ddeg Ffilm Orau Caerdydd. I gael siawns o ennill dau Gerdyn Aur Mynediad-i-bobman, gadewch iddynt wybod eich TRI FFILM ORAU drwy:

- ebostio top10@sgrin.co.uk

- ffonio 02920 333325

- codi flyer o'r UGC neu Chapter

Bydd y gystadleuaeth yn agor ar y 1af o Awst ac yn cau ar y 16eg o Awst a bydd y Deg Orau yn cael eu datgan ar y 16eg o Fedi cyn cael eu dangos yn ystod yr Wyl rhwng y 9fed a'r 19eg o Dachwedd.

www.gwylsgrincaerdydd.co.uk

Postiwyd gan Mair Thomas ar Awst 10, 2005 12:22 yh
Sylwadau

Woah, fel sioc drydan i galon Pictiwrs.com 'ma Mair nol!

Mai wedi mynd yn dawal iawn ma'n do...reit, mwy o adolygs yn fuan, ne fyddai di anghofio be ydi sgwennu...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Awst 10, 2005 08:47 yh

Wel, odd rhaid i rhywun gamu mewn i'r gofod...

Adolygiad o Secretary ar y ffordd gen i 'fyd, unwaith i'r blydi cymdeithasu hafaidd 'ma ddod i ben...!

Postiwyd gan: Mair, Awst 11, 2005 03:07 yh

Bai UGC yw hyn i gyd â'u polisi o ddangos cachu a dim byd arall. Fydda' i'n mynd i weld Carlo a'i Ffatri Fferins ddydd Sul gobeithio.

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Awst 11, 2005 05:04 yh

Bols - fi mo'yn gweld hwnna ond fyddai hanner ffor lawr yr A470 yn dychwelyd o MiriMadog.

Postiwyd gan: Mair, Awst 12, 2005 09:46 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?