Wel, mae wedi digwydd, mae nhw wedi llwyddo i drechu'r pathew styfnig, ac wedi cychwyn ar y gwaith ar adeiladu y stiwdios mawr yn Llanilid ger Penybont.
Gobeithio daw hyn a swyddi lu i Dde Cymru a chael yr effaith noc-on mae pawb yn gobeithio amdano drwy'r cwmwl llwyd o sinigrwydd sy'n hedfan dros sgyrsiau pawb am y prosiect. Dwi'n aros i gael fy narbwyllo cofiwch, gan weld na lwyddodd stiwdio debyg yn yr Alban a chaeodd un stiwdio debyg yng Nghernyw, annodd fydd cael y busnes o Lundain, er yr addewid i dorri 20% oddi ar gyllideb gynhyrchu unrhyw ffilm sy'n saethu yno. Yr unig stiwdio sydd wedi llwyddo ydi un Ardmore yn Iwerddon, ac mae hynny yn llwyr ddyledus i gynnigion arian treth hael Section 481 Llywodraeth Iwerddon.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Gorffennaf 20, 2005 08:41 ybSiawns gen i y bydd yna ddigonedd o bobl yn y diwydiant ffilm (neu eisiau bod yn y diwydiant) yn falch o gael manteisio ar bris a safon byw Cymru yn hytrach na Llundain !
Blewyn
Postiwyd gan: blewyn, Gorffennaf 25, 2005 12:44 yhElla wir, ond ma'r math o ffilmia ma'n nhw'n gobeithio eu denu yn rai anferth Americanaidd, ac yn ol be ma bobol wedi deud wrthai (sydd ddim yn gwarantu gwirionedd hyn!)- dydy cynhyrchwyr/cyfarwyddwyr/actorion o 'Merica ddim yn rhy keen ar deithio'n rhy bell o'r maes awyr a fasa hydnoed yr M4 neu dransffyr i faes Caerdydd yn ormod.
Dwn im.
Mae'n wir efo'r Alban a Chernyw eu bod nhw'n bell iawn i ffwrdd o brif feusydd awyr Prydain, ac efallai fod hynny wedi bod yn ffactor fawr yn eu tranc, ond mae'r M4 yn rhoi llygedyn o obaith i Stiwdio'r Ddraig - ma gyd yn dibynnu ar pulling power eu rheolwyr ac os gall Cronfa IP Finance Wales fod yn dipyn o insentif iddyn nhw.
Ond mater Economaidd yn hytrach na diwylliannol ydi'r stiwdio yn y bon. Mater arall yn llwyr ydi os ydi hwn am fod o unrhyw fudd uniongyrchol i wneuthura ffilmiau Cymreig a Chymraeg, heblaw am falla yr un negyddol o godi cost criw llawrydd fel ei fod allan o gyrraedd gwneuthurwyr cyllideb isel hydnoed mwy nac y mae yn bresennol.
Ai system tebyg i be mae'r Relph report yn ei gynnig ydi'r ateb i greu diwydiant sy'n ffynnu yn hytrach na sdicio i'r hen ffyrdd?
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Gorffennaf 25, 2005 04:10 yh