Mai 24, 2005

Llwyddiant i Gymru yn Cannes!

Mae darlithydd ffilm o Goleg Ffilm Rhynglwadol Casnewydd wedi cael llwyddiant ysgubol gyda ei ffilm ddogfen "Sisters In Law" yn Ngwyl Ffilm Cannes eleni.

Mae'r ffilm yn dilyn hynt erlynwraig a barnwr llys yn nhref Kumba yn Cameroon.


Enillodd y cyfarwyddwr, Florence Ayisi - sy'n enedigol o Cameroon, wobr y Prix Art et Essai a chael Clod Arbennig gan Europa Cinemas. Dwi'n credu taw hwn yw'r tro cyntaf i ffilm gan rywun o Gymru ennill rhywbeth yn Cannes ers amser maith iawn.

Saethwyd y ffilm dros gyfnod o 3 mis ac ariannwyd y ffilm gan Film Four.

Dywedod Ayisi taw "ei amcan oedd i ddangos delweddau gwhanol o Affrica i'r gynulleidfa ehangaf posib ac fod hyn nawr yn dechrau digwydd".

Llongyfarchiadau enfawr i Florence, a dwi'n edrych mlaen yn eiddgar i gael gweld y ffilm.

Manylion "Sisters In Law" ar Britfilms

Erthygl am y ffilm ar One World UK

Rhagor o wybodaeth amdano o'r FT o bobman.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mai 24, 2005 05:42 yh
Sylwadau

YPDET:
Datganiad i'r wasg gan Goleg Ffilm Rhyngwladol Cymru yn cynnwys lluniau o Cannes.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mai 25, 2005 11:03 yb

Erthygl ddoe ar BBC Wales

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mai 25, 2005 01:20 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?