Rear Window yw un o ffilmiau mawr y sgrin fawr, ac yn un o glasuron mewn gyrfa llawn clasuron gan Alfred Hitchcock. Ei chanolbwynt yw obsesiwn cynyddol L.B. Jefferies (James Stewart), sy'n gaeth i gadair olwyn wedi iddo dorri ei goes, â bywydau'r bobl y gall eu gweld o'i ffenest gefn, ac yn benodol, un cartref sy'n dwyn ei sylw'n fwy na'r lleill.
Wrth gwrs, fel sy'n nodweddiadol yn ffilmiau Hitchcock, mae llawer mwy yn perthyn i'r ffilm na'r hyn a welwn ar yr arwyneb. I ddechrau, mae Jefferies yn ymddiddori ym mywydau ei gymdogion er mwyn osgoi ei berthynas gyda'r hyfryd Lisa Carol Fremont (Grace Kelly) a'i bryderon na fydd y berthynas yn gweithio oherwydd nad oes ganddi hi, yn ei dyb ef, ddigon o fywyd ynddi. Wedi'r cwbl, mae'r ddau ohonynt yn dra gwahanol - hithau'n 'socialite' sy'n mwynhau'r bywyd moethus ac yntau'n berson mwy ymarferol, sydd eisiau profi bywyd ar lefel fwy real.
Wrth iddo syllu allan drwy'r ffenest, daw llawer o fywydau i'r amlwg. Mae Lars Thorwald (Raymond Burr, neu Perry Mason i chi o bosib) a'i wallt llwyd a'i sbectol yn gwneud pethau amheus gyda chyllyll a llifiau ac yn mynd a dod yng nghanol nos. Mae Miss Lonelyhearts, a'i bywyd unig, pathetig, y pâr priod newydd, y cyfansoddwr â'i bryderon am ei greadigrwydd, y fenyw yn dawnsio sy'n mwynhau cael ei gwylio. Ond Thorwald sy'n mynd â bryd Jefferies, wrth iddo sylwi ar ei wraig yn mynd ar goll yn sydyn.
Mae'r ffilm yn ddychan ysgafn ar yr America perffaith. Er gwaethaf yr holl weithgarwch sy'n digwydd yn y gymdogaeth fach y tu allan i ffenest Jefferies, does neb yn ymdrin â'i gilydd. Mae pob un yn byw eu bywydau preifat, heb sylwi ar ddim heblaw'r hyn sydd rhwng cyfyng furiau. Caiff hyn ei chwalu pan mae ci y bobl gyferbyn â Jefferies yn cael ei ladd. Fel y dywed y fenyw, doess neb yn poeni a fydd neb, gan gynnwys Jefferies, sy'n eistedd yno'n syllu heb adnabod neb, yn ceisio dirnad gweithredoedd un dyn.
Yn y diwedd, nid y cwestiwn os llofruddiodd Thorwald ei wraig sy'n bwysig, ond yn hytrach yr hyn sy'n digwydd mewn bywyd arferol. Mae Miss Lonelyhearts yn dod o hyd i ddyn. Mae'r cyfansoddwr yn dod o hyd i rywun i werthfawrogi ei waith. Mae cariad y ddawnswraig yn dychwelyd o'r fyddin. Mae'r bobl gyferbyn yn cael ci newydd. A gwelwn fod Stewart a Kelly, drwy gydweithio i sbio ar Thorwald, wedi dod i adnabod ei gilydd, tra'n cadw at y gwahaniaethau bach sydd rhyngddynt. Wrth i Stewart gysgu, mae Kelly'n rhoi'r llyfr antur, dymuniadau Stewart, i un ochr, ac yn edrych yn ei chylchgrawn ffasiwn. Delwedd o'r bywyd sydd i ddod.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Mai 20, 2005 01:59 yh