Mai 16, 2005

Pictiwrs yn y Steddfod

logopictiwrs1.jpg
Mae Pictiwrs.com yn falch o gyhoeddi eu bod wedi taro ar gytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg i drefnu dwy noson o ffilmiau byr yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri eleni. Rydyn ni eisoes wedi trefnu dwy noson lwyddiannus yng Nghaerdydd, sy’n dwyn yr enw ‘Pictiwrs yn y Pyb’.

Y bwriad yw i’r nosweithiau gael eu cynnal ym Mar Jocks yn Undeb Myfyrwyr Bangor ar ddydd Mercher a dydd Gwener yr Eisteddfod. £2 yn unig fydd cost mynediad ar gyfer y digwyddiadau a bydd amrywiaeth o ffilmiau Cymraeg eu hiaith yn cael eu dangos yn y ddau ddigwyddiad.

Meddai Rhodri ap Dyfrig, cyd-drefnydd Pictiwrs Yn Y Pyb, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at y nosweithiau hyn yn yr Eisteddfod, ac yn falch iawn o allu cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith. Rydym ni gyd yn gefnogol iawn o’r mudiad, ac mae gennym ni a’r Gymdeithas nodau cytûn o ran rhoi statws i’r Gymraeg yn ein cymdeithas. Bydd hwn yn gyfle i bobl o bob cwr o Gymru gael gweld deunydd, a gobeithio y bydd yn ysgogiad i wneuthurwyr ffilm Cymraeg presennol a gwneuthurwyr y dyfodol i greu rhagor o ffilmiau ac i ehangu’r ystod o waith sydd yn bodoli yn bresennol.”

Mynegodd Owain Schiavone, swyddog adloniant y Gymdeithas ei falchder fod y cyd-weithrediad gyda Pictiwrs.com yn golygu y bydd mwy o amrywiaeth nag erioed o adloniant a diwylliant Cymraeg wedi eu dargedu at bobl ifanc ar gael yn yr Eisteddfod genedlaethol eleni. Meddai ‘Rydan ni fel Cymdeithas yn ol ein harfer yn trefnu gigiau gyda’r hwyr yn ystod wythnos yr Eisteddfod: ym mar Amser yn Bangor ac yng Nghofi Roc, Caernarfon eleni. Yr hyn mae’r cyd-weithredu gyda Pictiwrs yn ei olygu ydi y bydd cyfle i bobl ifanc ar ddau brynhawn yn ystod yr wythnos weld ffilmiau Cymraeg yn ogystal a chlywed cerddoriaeth Gymraeg. Tydi ffilmiau Cymraeg ddim yn cael hanner digon o sylw yn fy marn i, a mae hwn yn gyfle gwych i ddod a’r cyfrwng hwn i gynulleidfa ehangach.’

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Pictiwrs.com

Geraint Criddle: e-bost geraint [at] pictiwrs [dot] com, ffôn 07967753851
Rhodri ap Dyfrig: e-bost rhodri [at] pictiwrs [dot] com, ffôn 07855362206

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Owain Schiavone: e-bost owain [at] cymdeithas [dot] com, ffôn 07813050145

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Mai 16, 2005 02:02 yh
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?