Yn ystod croesgad y 12fed ganrif, mae Balian of Ibelin (Orlando Bloom) yn trafeilio i Jeriwsalem, Teyrnas y Nefoedd, i geisio gadw'r heddwch ansicr.
O'r diwedd dyma ffilm o'r genre gyda thipyn o fynd ynddi, gydag amser rhedeg dwy awr a chwarter sy'n hynod fyr am ffilm epig cleddyfau a sandalau. Mae'n bosib dadlau bob gormod yn digwydd yn yr hanner awr gyntaf, ond wedi hynny mae'r ffilm yn setlo mewn i gam cyffyrddus sydd yn osgoi teimlo ar frys nac yn gwneud i'r gwyliwr edrych ar ei oriawr.
Mae Orlando Bloom yn gwneud gwaith gweddol o gario'r ffilm fel Balian o Ibelin. Tydi o'm yn actiwr gwych, ond mae'n cuddio hyn trwy fod yn gymeriad reit anniddorol sy'n glynu wrth yr un athroniaeth drwy gydol y ffilm. Fo yw cyferbyn Colin Farrell yn Alexander mewn ffordd, a oedd yn gymaint o lanast o gymeriad roedd hi'n amhosib dirnad lle oedd o'n sefyll ar unrhyw beth. Mae dyrchafiad cymeriad Bloom o gof gostyngedig i dactegwr milwrol o fri yn bos, gyda dim golygfa, nag hyd yn oed y montage arferol, i bontio'r blwch rhwng y ddau begwn. Ac mae'r awgrymiad mae meddwl gwych y llanc hwn ddyfeisiodd y syniad o dyllu ffynnon ar dir sych y Dwyrain Canol yn chwerthinllyd.
Ond mae'n bosib maddau cymeriad blanc Balian am fod y cast ategol mor dda. Mae bron i bawb yn wych fan hyn, gyda chameo estynedig gan Liam Neeson, sy'n cario'r ffilm cyn i Bloom ddod ar draws hwyneb cysurol Thewlis, Jeremy Irons yn gwneud argraffiad hynod o flaidd dynol, a Edward Norton yn rhagorol fel brenin gwahanglwyfus Jerwsalem. Gwaetha'r modd tydi Marton Csokas ddim yn gwneud cymaint o argraff gyda'i berfformiad o'r anfad, a merchetaidd, Guy de Lusignan.
Fo yw'r unig wir dihyrun y ffilm, am fod y Mwslemiaid wedi' portreadu mewn ffordd deg heb fod yn ffrydiol a ffals. Roedd gen i gryn ddiddordeb mewn gweld sut y byddai'r ffilm yn trafod pwnc mor danllyd â Christnogion a Mwslemiaid yn trywanu'r stwnsh allan o'i gilydd. Cred gall y ffilm yw bod rhaid ar y ddwy ochor, Cristnogion a Mwslemiaid, yn fodlon defnyddio eu crefydd am resymau anghrefyddol dros ben, sy'n hen ddigon teg, ac mae'r themâu yma'n adeiladu i ddiweddglo hynod foddhaol sy'n gorffen popeth heb fod angen hanner awr o bawb yn ffarwelio. Clod i Ghassan Massoud am ei berfformiad gwych fel Saladin.
Un peth arall sy'n newydd i'r genre yw nad oes golygfeydd diflas lle mae'r cymeriadau yn cweryla dros athroniaeth hirwyntog, a boddi'r ffilm mewn lol rhwng y darnau cwffio diddorol. Mae pob trafodaeth yn berthnasol i'r cynllun, ac mae'r berthynas rhwng y Marchog Temlaiddol a'r Croesgadwyr yn un hynod chwilfrydig. Ac mae'r darnau cwffio, pan maen nhw'n cyrraedd, i gyd yn emosiynol foddhaol wrth lenwi'r cwota am drais gwaedlyd, heb ddiflasu'r gwyliwr gyda delweddau cyfrifiadur diangen a gwallgofrwydd aneglur Alexander.
Yr unig gam gwallus yn neges y ffilm yw, i gladdu mewn i sboilwyr am eiliad bach, pan mae chwaer brenin Jerwsalem yn tynnu ymaith masg ei brawd wedi iddo farw. Mae'n mynd yn hollol groes i'w linell olaf, 'cofia fi fel yr oeddwn i'. Mae Edward Norton yn chwarae'r cymeriad gyda chymaint o urddas tawel mae'n teimlo fel pe bai'r gwyliwr yn cymryd mantais o'r brenin gwahanglwyfus bechod wedi ei farwolaeth er mwyn ennyd 'ych-a-fi' amhriodol, sydd ddim yn ychwanegu dim byd at y stori.
Yn olaf, beth yw'r dêl a ffilmiau epig clefydau ag caeau ŷd? Dydw i'm yn cofio ffilm o'r genre hwn am eithaf tipyn heb gau mawr o yd diangen ynddi. Dwi'n cymryd fod gan Ridley Scott hawl i gynnwys llwyth o yd yn ei ffilmiau gan mai fo ddechreuodd y chwiw ryfedd yn Gladiator. Dwi'n hanner disgwyl gweld Russell Crowe yn cerdded drwyddo, yn dal i chwilio a'i wraig a'i blentyn ym mharadwys, neu'n adrodd barddoniaeth ddiflas.
Postiwyd gan Ifan Morgan Jones ar Mai 9, 2005 08:00 yhEdrych ymlaen i'w gweld hi. Dwinna efo diddordeb mawr yn y balans mae Scot wedi ei gymryd. Mae yno erthgyl wych yn Sight and Sound mis yma os alli di gael gafael arni.
A llongyfarchs am roi adolygiad cyntaf Pictiwrs yn 1 oed. Penblwydd hapus i ni, penblwydd hapus i ni, penblwydd hapus i nii-iii, penblwydd hapus i niiiiii!
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mai 10, 2005 12:05 yhWehay! Oes 'na gacen?
Sori am beidio cyfrannu yn fwy aml dros yr flwyddyn dwytha. ;)
Postiwyd gan: Ifan, Mai 10, 2005 10:29 yhDim cacen yn anffodus, mae'r rhith-bopty wedi torri yn ty ni, ond fydd raid cael noson sinema arall cyn hir i groesawu'r cyfrannwyr newydd.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mai 11, 2005 05:02 yh