Mawrth 15, 2005

Cwrs Sgriptio: Noson 4

Felly, lwyddes i fynd draw i’r cwrs (er mod i wedi cael cnoc go hegar ar fy mhen dros y penwythnos) ac roedd hi’n werth chweil eto, gyda ymaflyd gyda chydig o sgwennu creadigol eto.

Cychwynnodd y noson gan siarad am ddeialog o safbwynt actorion ac yna mymryn o drafod cyfarwyddo actorion (tip: ceisiwch gyfarwyddo actorion gyda un gair 'gweithredol' wedi'w ddewis yn ofalus, bydd yn llawer mwy effeithiol na cheisio esbonio ac yn rhoi lle iddynt adeiladu o’i gwmpas) – pwynt hyn oedd fod angen weithiau i sgwennwr sgwennu deialog gyda’r actor yn ei feddwl.

Wedi’r chydig o gefndir gofynnwyd i ni sgwennu tamaid o ddeialog ar gyfer sefyllfa yn cynnwys dau berson. Yn yr olygfa rhaid fod yno is-destun sydd ddim yn amlwg yn yr hyn sy’n cael ei ddweud – ond rhaid i’r darllennydd/gynulleidfa fod yn ymwybodol o’r is-destun hyn wrth ddarllen/clywed y ddeialog. Hynny yw – deialog sydd ddim yn expositional.

Felly, o fewn deg munud roedd rhaid sgwennu hyn...doeddwn i ddim yn hollol lwyddiannus ond dyna ni, lle i "drio --> methu --> dysgu" drosodd a throsodd ydi dosbarth ‘de. A roeddwn i’n reit hapus gyda’r deialog os nad efo fy llwyddiant yn cyfleu yr is-destun roeddwn i wedi ei fwriadu. Dwi’n meddwl y daw hyn gyda amser a deud y gwir, ac os galli do sbotio fo wrth ddarllen ddylia ti allu ei sbotio fo wedi i ti ei sgwennu.

Aethon ni wedyn ymlaen i drafod straeon (hynn yw, stori yn yr ystyr ei fod yn perthyn yn unigryw i gymeriad penodol) ymhellach ac ymlaen at themâu ac yn fanylach, dadansoddiad y gwrw sgriptiau, Phil Parker, o’r teipiau gwahanol sydd yn bodoli sydd gan amlaf yn cyfateb i thema eich ffilm.

Yr wyth a restrwyd oedd:

1. Yr angen am gyfiawnder

2. Chwilio am gariad

3. Moesoldeb unigolion (e.e. rhaid i’r cymeriad wneud penderfyniad rhwng da a drwg)

4. Yr angen am drefn

5. Dilyniant pleser (e.e. natur pleser a’i gost i’r unigolyn; canlyniadau obsesiwn â rhywbeth)

6. Ofn marwolaeth

7. Ofn yr anhysbys neu’r annealladwy

8. Yr angen am ddilysiad personol (validation)

Yn amlwg mae’r ffiniau am fod yn niwlog ac yn sicr gall thema ffilm amgyffred sawl un o’r uchod, hyd yn oed gael themau gwahanol i gymeriadau a rhannau gwahanol o’r fffilm. Ond, y nod gyda deall eich thema yw deall craidd eich sgript, crisialu beth mae’r ffilm yn ei ddweud er mwyn sicrhau fod hyn yn treiddio drwy bob agweddd o’r ffilm i greu cyfanrwydd sy’n mynd ymhellach ne dim ond ‘gweithio’.

Mi es mlaen i feddwl ar y ffordd adref am driniaeth dwi wedi sgwennu, ac nad oedd thema o gwbl gen i, neu o leia dim un roeddwn wedi meddwl yn galed amdani, ac fod hyn yn cyfrannu at fy rhwystredigaeth wrth geisio creu diweddglo boddhaol a deialog credadwy. Gobeithio y bydd o gymorth ynte...

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mawrth 15, 2005 12:26 yb
Sylwadau
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?