![]()
(IMDb) (Gwefan Swyddogol)
Y ‘Man on Fire’ dan sylw yn ffilm Tony Scott yw John Creasy (Denzel Washington) – cyn ‘assassin’ i’r CIA sy'n cael cynnig ar fywyd newydd fel gwarchodwr Pita (Dakota Fanning), unig ferch teulu cefnog yn Ninas Mecsico.
Daw’n amlwg fod gan Creasy broblemau personol yn deillio o’i gefndir ond gydag amser mae yn llwyddo i’w goresgyn diolch yn bennaf i’w gyfeillgarwch gyda Pita. Ond pan mae’r herwgipio anochel yn digwydd, mae Creasy yn cychwyn ar daith o drais a dinistr i ddial ar bawb a phopeth.
Un o brif wendidau ‘Man on Fire’ yw’r stori. Am yr awr gyntaf, mae’r naratif yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng Creasy a Pita gan ddefnyddio ras nofio i fapio eu taith o fod yn ‘gysylltiedig oherwydd eu sefyllfa’n unig’ i fod yn ffrindiau pennaf. Yna mae’r ffilm yn newid cywair yn llwyr. Wedi’r herwgipiad, mae Creasy yn cymryd awr a hanner i fynd o ddyn drwg i ddyn drwg fel Lee Marvin yn ‘Point Blank’ - gyda phob achos yn cyflwyno dulliau newydd o arteithio ac o ladd.
Mae ail hanner y ffilm yn teimlo fel casgliad o ‘set-pieces’ ac mae’n ddigon hawdd dyfalu pwy fydd yn ei ‘chael hi’ nesa. Dyw hyd yn oed y tro yng nghynffon y stori ddim yn ddigon i achub y plot – roedd honno hefyd yn un digon hawdd i’w darogan.
Fel pe bai’n ceisio cuddio’r gwendidau yma, mae Tony Scott wedi mynd a’i steil weledol i uchelfannau newydd yn ‘Man on Fire’. O’r dechrau i’r diwedd, mae pob elfen - y ‘crash zooms’, y ‘freeze-frames’, y gerddoriaeth uchel - yn cyfuno i ymosod ar synhwyrau’r gynnulleidfa. Ar brydiau mae hyn yn effeithiol. Mae’r steil anghonfensiynol o ddefnyddio is-deitlau er enghraifft yn drawiadol iawn ac yn llwyddo i ychwanegu at y tensiwn mewn ambell i olygfa. Ond gyda’r triciau’n cynyddu mewn nifer wrth i’r ffilm ddynesu tua’i therfyn, roedd yr arddull yn dueddol o dynnu oddiwrth yr hyn oedd yn digwydd yn y stori. Falla mai dyma oedd y bwriad!
Does dim digon o gig ar gymeriad Creasy i Washington wir arddangos ei ddoniau ond mae’n berfformiad sydd yn achub rhyw fymryn ar y ffilm. Serch hynny, dyw gorchestion yr actor yn unig ddim yn ddigon i sicrhau cydymdeimlad y gynnulleidfa tuag at Creasy. Gyda natur yr hyn sydd yn ei boeni o’i orffennol yn cael ei gadw’n amwys – mae’r ffaith ei fod yn dychwelyd at ei hen ffordd dreisgar o fyw i chwilio am iachawdwriaeth yn codi’r cwestiwn: pam ei fod o mor anhapus gyda’i gefndir yn y lle cyntaf?
Er fod ymdrechion y sgript i roi llinellau cofiadwy iddo yn methu (‘Creasy’s art is death. He’s about to paint his masterpiece.’) – mae Christopher Walken yn gwneud ei orau o rôl reit ymylol fel cyfaill Creasy, ac mae’n siom na chafodd cyfreithiwr Mickey Rourke ei ddefnyddio’n fwy.
Fe gafodd ‘Man on Fire’ ei ddisgrifio fel ‘one of Tony Scott’s best pictures’ gan neb llai na Quentin Tarantino. Yn hytrach, dwi’n awgrymu eich bod yn gwylio ‘True Romance’.
Postiwyd gan Iolo Williams ar Mawrth 13, 2005 01:34 yhCroeso i'r Pictiwrs Iol!
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mawrth 13, 2005 02:30 yhFi wedi adolygu hwn yn barod, Mr. Iolo! Ond croeso be' bynnag; adolygiad neis.
Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Mawrth 13, 2005 11:11 yhMi ddyliwn i di gneud fy ngwaith ymchwil yn well sori!
Postiwyd gan: Iolo Williams, Mawrth 14, 2005 10:08 yb