Mawrth 10, 2005

Erthgylau Ffilm Cymraeg y BBC

Chwarae teg, mae gwefan ffilm BBC Cymru'r Byd wedi rhoi syrpreis bach braf i fi heddiw drwy roi adolygiad o ddangosiad "Shorts In Colour" a drefnwyd ym mis Chwefror gan y Black Welsh Film Festival.

Mae'n rhoi adolygiad bach cryno o 6 ffilm fer a ddangoswyd yno fel arddnagosiad o waith gan ac amdan leiafrifoedd ethnig yng Nghymru (dangoswyd un ohonynt, Dwr Dwfn, yn noson "Pictiwrs Yn Y Pyb" yn nechrau Chwefror).

Mae yno hefyd erthygl dda iawn gan Caron Wyn Edwards, yn adrodd nol ar Wyl Ffilm Dulyn a gynhaliwyd rhwng yr 11eg a 20fed Chwefror, gyda sylwadau synhwyrol ar ddiwedd yr erthygl yn cymharu'r wyl a beth sy'n digwydd yng Nghaerdydd.

Mi fydd hi'n ddifyr hefyd cymharu a'u adolygiad hwy o'r ffilm anibynnol Gymreig Powerless, sydd yn eistedd ar fy silff yn aros i gael ei gwylio ers wythnosau bellach.

Mae hi'n dda gweld ehangiad o'r fformiwa gynt o adolygu ffilmiau prif ffrwd ar y wefan ac ymestyn at wyliau ffilm, ffilmiau byr a rhagor o ffilmiau Cymreig ond os oes gen i feirniadaeth, gallai fod y darnau ychydig yn fwy dolennog gan eu bod nhw'n cael eu cyhoeddi ar y we- nid job annodd yw chwilio amdanynt a gwneud y profiad o ddarllen ychydig yn fwy pleserus. O ia, jest un peth bach arall, dydyn nhw dal ddim wedi rhoi dolen i pictiwrs.com fel yr addawon nhw. Asgob! ;-)

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Mawrth 10, 2005 05:48 yh
Sylwadau

Mi gollais i Powerless pan daeth i'r Mwldan. Mae'n edrych yn dda, o'r treilar. Edrych ymlaen at weld dy adolygiad, unwaith ti'n llwyddo ei wylio.

Postiwyd gan: Nic Dafis, Mawrth 11, 2005 12:07 yb

Cofiwch os ma unrhyw un isio benthyg copi wedi i fi orffen a fo, dorwch showt.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mawrth 11, 2005 11:42 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?