Mawrth 03, 2005

The Life Aquatic with Steve Zissou (Wes Anderson, 2004)

The Life Aquatic with Steve Zissou yw’r drydedd ffilm sy’n gydweithrediad rhwng doniau actio Bill Murray a doniau cyfarwyddo Wes Anderson, yn dilyn y ffilm gomedi Rushmore a rhan fechan Murray yn The Royal Tenenbaums. Gellir dweud fod Anderson wedi gwneud cryn dipyn i ailddatblygu gyrfa Murray. Mae’r hiwmor yno o hyd yn ei waith, ond mae chwerwder a chynildeb newydd yn perthyn i’w waith, a dyw The Life Aquatic yn ddim gwahanol.

Yn y ffilm, Murray sy’n chwarae rhan Steve Zissou, cymeriad Jacques Cousteauaidd sy’n mynd ar anturiaethau ac yn eu ffilmio. Gwelwn yma yr oes ddiniwed a fu drwy gyfrwng ei ffilmiau llachar a rhyfedd, ac mae Anderson yn gwneud tipyn i amlygu hyn drwy greu creaduriaid anhygoel a lliwgar wedi’u hanimeiddio. Nod newydd Zissou a’i dîm rhyfedd o gydforwyr yw gwneud yn iawn am farwolaeth Esteban, a oedd bron yn frawd i Zissou, a gafodd ei ladd gan siarc jaguar yn ystod yr antur ddiwethaf, a thestun ei ffilm flaenorol. Mae’n achosi sioc yn y byd gwyddonol drwy gyhoeddi mai ei ffordd o ‘wneud yn iawn’ am farwolaeth Esteban fydd drwy ladd y siarc.

Mae’r hen gapten a’i ‘deulu’ (sy’n cynnwys Klaus (Willem Dafoe), ei wraig Eleanor (Anjelica Houston) a’i fab coll Ned (Owen Wilson)) yn byw mewn byd rhyfedd, hen ffasiwn, wedi’u rhewi am byth yn y byd Costeau o’r 1960au. Caiff hyn ei wrthgyferbynnu gan dîm ‘Operation Hennessey’, dan arweiniad gelyn pennaf Zissou, Alistair Hennessey (Jeff Goldblum), sy’n meddu ar y dechnoleg ddiweddaraf ac offer arloesol ar gyfer arsylwi bywyd y môr. Fodd bynnag, mae Zissou yn benderfynol o barhau â’i ymgyrch, ac yn ffodus iddo, mae’r bobl o’i amgylch yn dal i gredu ynddo, gan gynnwys Klaus, Ned a’r newyddiadurwraig Seisnig a fydd yn adrodd stori’r daith ar gyfer cylchgrawn gwyddonol, Jane Winslett-Richardson (Cate Blanchett). Er hynny, daw’n fwyfwy amlwg nad yw Zissou o reidrwydd yn credu ynddo’i hun bellach.

Caiff digwyddiadau rhyfedd y ffilm (Zissou yn dwyn offer Hennessey, morladron yn ceisio cipio’r llong) eu hadlewyrchu yn y ffordd ryfedd y mae’r ffilm yn edrych. Mae’r ffordd y mae pob dim wedi’i ddylunio, o’r ffordd ‘clapboard’ mae’r llong yn ymddangos o’n blaenau wrth i Zissou roi taith i ni o’i hamgylch i’r olygfa lle gwelwn y siarc jaguar o’r diwedd, yn amlygu hynodrwydd ac aruthr y byd hudolus y mae Zissou yn byw ynddo bob dydd. Amlygir hyn hefyd gan gymeriad Ned, lle dysgwn iddo fod yn aelod o glwb Zissou ers iddo fod yn fachgen bach. Mae’r diniweidrwydd hwn a’r awydd i ddarganfod a rhyfeddu at bethau newydd yn treiddio drwy’r ffilm gyfan.

Trueni, felly, nad yw’r ffilm ychydig yn fwy doniol. Mae ffilm Anderson yn dioddef rhyw ychydig drwy’r gwrthrychedd gwyddonol sy’n perthyn i’r ffilm. Drwy gael elfen o wrthrychedd gwyddonol, drwy droi’r ffilm ar adegau yn ffilm ddogfen am greu ffilm ddogfen, rydym yn colli rhywfaint o gynhesrwydd y cymeriadau, ac yn colli cyfle i uniaethu â nhw’n llwyr. Nid yw’r cymeriadau byth wir yn gwireddu eu bywydau eu hunain; yn hytrach, ceir y teimlad yn aml eu bod yn gymeriadau animeiddio, pypedaidd, yn rhy debyg efallai i’r pysgod hynod yn y môr oddi tanynt. Ond mân gwynion yw’r rhain. Mae The Life Aquatic yn gomedi da ynddo’i hun, yn hwylio am byth ym môr hud a lledrith plentyndod a rhyfeddod.

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Mawrth 3, 2005 10:11 yb
Sylwadau

mwynheues i'r dechre'n fawr ond yn anff fe gwmpes i gysgu cyn y diwedd. Serch 'ny - rwy wedi cael gafael ar gopi o'r ost - ac mae'n wych!

Postiwyd gan: gwiwer, Mawrth 13, 2005 08:36 yh

Cytuno fod y soundtrack yn wych: Seu Jorge a "Life On Mars?" a'r thema casio - class.

O ran y ffilm mi ges i drafferth cael mewn iddi hefyd, roedd popeth MOR od fod o chydig bach yn ormod weithia. Ond rhaid cyfaddef erbyn iddyn nhw gael yr ymosodiad mor-ladron o'n i gyda teulu Zissou yr holl ffordd, ac roedd y diweddglo yn wefreiddiol.

**difethwyr**

Yn arbennig darn y ddamwain hofrennydd - roedd hwnna mor syml ond mor effeithiol - pwy fasa'n meddwl fasa jest torri sgrin goch blaen fel'na drwy'r distawrwydd yn gallu cyfleu gymaint.

**/difethwyr**

Ond, mae hi'n amherffaith tydi. Roedd y Royal Tenenbaums yn llawer mwy crwn. Yn ol y son mae ffilm gyntaf Wes, "Bottlerocket", fod yn werth chwilio amdani ar DVD. Symlach o lawer na'r ddwy ffilm uchod ond gyda'r un math o gymeriadau a syniadau rhyfeddol o wreiddiol.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Mawrth 14, 2005 11:32 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?