Gwaeddwch o'r toeau!
Ma noson ffilmiau byr Cymraeg "Pictiwrs Yn Y Pyb" wedi cyrraedd.
Mae criw pictiwrs.com wedi bod yn ddiwyd chwilio a thyrchu wedyn ymdrabaeddu mewn ffilmiau byrion i ffeindio perlau bach cryno i'ch dileit ac at eich dant.
Wele boster hyfryd isod (diolch mawr fel cawr i Sara am hyn), a gobeithio y gallwch chi ddod aton ni am beint a sgwrs.
Plis pasiwch hyn ymlaen i bobol fuasai falle efo diddordeb, ac os ydych chi neu unrhyw un da chi'n nabod yn gwneud ffilmiau ac eisiau rhywle i'w dangos yna cysylltwch a ni. Dwi ar nwdls [at] wwfmdpc [dot] com os ydych chi eisiau rhagor o fanylion neu ffoniwch 02920 312986.
Bydd Gary Slaymaker yn dod i gyflwyno'r noson, a byddwn yn dangos 7 ffilm ar offer o'r safon ucha - felly ma pethe'n argoeli'n dda.
Diolch yn fawr hefyd i Keri Collins o Disco Mbobu/POV a Neil Wagstaff o Those People Productions am fod mor hael efo'u amser a'u offer.
Welai chi'n pictiwrs.

Noson wych bois. Diolch i bawb wnaeth drefnu.
Wrth adael, wnes i bron â cherdded i mewn i Dyl Mei, newydd gyrraedd y Brifddinas o'r gogledd pell. Mae hyn llai na 5 munud ar ôl i mi wylio ffilm gyda Aron PLP ynddi. Sdim lot o brifddinasoedd lle mae pethau fel hyn yn digwydd, tybiwn i. Reykjavik, falle.
Postiwyd gan: Nic Dafis, Chwefror 2, 2005 08:50 yh