Ionawr 17, 2005

Team America: World Police (Trey Parker, 2004)

Dyma ffilm ddiweddaraf Trey Parker a Matt Stone, Team America: World Police, y ddau a oedd yn gyfrifol am 'South Park', a ffilm South Park a ddaeth wedi hynny, ac mae'n amlwg o hyn nad yw eu sgiliau dychanu na'u sgiliau comedi wedi gwanhau o gwbl. Os nad ydych chi'n ymwybodol o'i bodolaeth eisoes, mae'r ffilm yn ddychan ar bawb a phopeth yn y 'War on Terror' newydd, a does neb yn osgoi hiwmor treiddgar Parker a Stone.

Dechreua'r ffilm ym Mharis (sydd, yn ôl yr isdeitl, dros 3000 o filltiroedd i'r dwyrain o America), lle mae terfysgwyr wrthi'n taro bargen i brynu arfau dinistriol. Ond yn sydyn POW! dyma Team America yn cyrraedd i atal y terfysgwyr, ac mae brwydr yn dechrau rhyngddynt a'r terfysgwyr. Yng nghanol hyn i gyd, llwydda'r tîm i ddinistrio Tðr Eiffel, yr Arc de Triomphe a'r Louvre. Wrth gwrs, wedi iddynt drechu'r terfysgwyr, mae Team America yn annerch y dorf anniddig, gan dderbyn eu diolchiadau. Yn yr un modd, maent yn llwyddo i ddinistrio'r pyramidiau a'r Sffincs, gan dderbyn eu 'diolchiadau', heb sylweddoli eu dinistr.

Ond, er bod Parker a Stone yn dychanu agwedd gung-ho America yn rhagorol (yn enwedig drwy brif gân y ffilm - "America! Fuck yeah!"), maent yn cadw dogn go helaeth o'u dychanu i Hollywood a'r protestwyr gwrthryfel amlwg, Tim Robbins, Susan Sarandon a'r criw. Yn y ffilm, cânt eu portreadu fel pypedau (ie, rwy'n sylweddoli'r eironi) i gynllwyn dieflig Kim Jong-Il, arweinydd Gogledd Corea, cynllwyn i ddinistrio gwareiddiad, i ddychwelyd pawb i'r un lefel er mwyn dechrau o'r dechrau, rhyw syniad gwyrdroëdig ar gyfer tegwch a chydraddoldeb. Drwy eu mudiad, y Film Actors' Guild (FAG, un o jôcs gwaethaf y ffilm yn fy marn i), maent yn darbwyllo'r byd i ymuno â 'Chynhadledd Heddwch' Kim Jong-Il, cynllwyn i gael holl arweinwyr y byd mewn un lle, ac yna dinistrio eu gwledydd, fel na allant ymateb yn filwrol ar unwaith. Ond, wrth gwrs, yng ngwir draddodiad Jerry Bruckheimer, mae'r bobl dda yn achub y dydd yn y diwedd, gydag araith 'piss-your-pants' o ddoniol gan Gary Johnston, yr actor a ddewiswyd gan Team America i'w helpu, yn darbwyllo'r gynulleidfa i droi'n erbyn Kim Jong-Il.

Mae rhai momentau anhygoel o ddoniol yn perthyn i'r ffilm hon, er enghraifft yr olygfa garu rhwng Gary a Lisa, 'contract ymddiriedaeth' Spottswoode a Johnston, a'r 'teclyn hunanladdiad' mae Spottswoode yn ei roi i Johnston petai'n cael ei ddal gan y terfysgwyr. Fodd bynnag, ar adegau, roedd hiwmor y ffilm yn dibynnu'n ormodol ar y ffaith mai pypedau oedd yn actio yn hytrach na phobl iawn. Roedd gweld y cymeriadau'n cerdded yn eu ffordd 'hyblyg' a gwirion yn ddoniol am yr hanner awr gyntaf, ond roedd disgwyl i'r gynulleidfa fod yn chwerthin ar yr un jôc awr a hanner i mewn i'r ffilm yn gofyn gormod. Weithiau, roedd hi'n teimlo mai ffilm Jerry Bruckheimer oedd hon, yn hytrach na dychan ar ei ffilmiau.

Disgrifiad y Guardian o'r ffilm oedd 'a right-wing Spitting Image', ac mae'n bosibl fod hynny'n agos ati. Er gwaethaf y ffaith i gymeriadau 'yr ochr draw' gael eu dangos, ble oedd pypedau George W. Bush, Donald Rumsfeld a Colin Powell? Er gwaethaf pob dychan, yr ochr gung ho sy'n ennill y dydd ac yn cael ei phortreadu fel yr ochr effeithiol, o gymharu ag agwedd bathetig Matt Damon a Susan Sarandon. Ond nid ffilm sydd yn cymryd ochr wleidyddol ar yr arwyneb yw hon, felly mae digon o hiwmor i'w gael y tu hwnt i hynny. Ac o leiaf ei bod hi'n well na 'Pearl Harbour'.

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ionawr 17, 2005 10:56 yb
Sylwadau

Mynd i'w gweld hi heno, edrych 'mlaen er mod i wedi clywed pethau cymysg.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Ionawr 17, 2005 03:17 yh

Fe wnes i ei mwynhau hi, ond roedd fy nisgwyliadau i'n rhy uchel ar gyfer y ffilm. Fe gei di lawer o laffs, ond mae rhai o'r jocs bach yn blentynaidd hefyd, sydd ddim at fy nant *chwaethus* i. ;-)

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Ionawr 17, 2005 03:51 yh

Dwi'n credu dyma nhw'n cadw ffwrdd o bortreadu Bush, Powell & Co. oherwydd nad oedden nhw'n gwybod pwy oedd am enill yr etholiad.

Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Ionawr 17, 2005 06:12 yh

O'n i'n siomedig. O'n i'n disgwyl rhywbeth chydig mwy incisive a deud y gwir. Dwi'n meddwl ei bod yn anheg ei chymharu a Spitting Image achos dydi'r jocs ddim yn llifo'n ddigon cyflym, ddim yn ddigon clyfar ac mae lot gormod o ailadrodd. Ag oes, mae llawer i joc ddiog, yn arbennig yr un F.A.G. ac anallu Jong-Il i ddweud 'l'.

Dwi'n meddwl fwynheies i'r sets, y cathod a'r darnau gross-out yn fwy na'r ffilm ei hun.

Wedi dweud hynny, roedd y darnau yn yr Aifft a Pharis yn wych a Matt Damon yn dwyn y sioe!

*difethwyr*

Ond yr olygfa ddoniola i fi oedd yr un lle mae Jong-Il yn troi mewn i goc-rochan a dianc mewn llong ofod, darn bach gwych o swrealaeth oedd yn gneud i fi feddwl pam nad oedd na fwy o sdwff fel'na ynddo fo ella. Nathon nhw ddim rili gwthio'r ffiniau naddo?

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Ionawr 17, 2005 09:32 yh

Wedi mwynhau'r ffilm er mod i'n cytuno fod yr hiwmor yn ddiog a phlentynnaidd ar adegau. Un peth gwych am y ffilm hon ydy'r trac sain. Caneuon doniol iawn oedd yn ychwanegu cymaint at yr hiwmor.

Ro'n i'n teimlo nad oedd y feirniadaeth o bolisiau Amercia yn mynd yn ddigon bell ar adegau. Falle eu bod yn ofn i'r ffilm gael ei sensro.

Er hynny, dyma ffordd dda i dreulio noson yn chwerthin nes bod eich bola'n brifo!

Postiwyd gan: David Luckwell, Mawrth 6, 2005 05:33 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?