Dw i ddim yn cofio gweld unrhyw datganiad ynglyn â hyn, ond mae S4C wedi rhyddhau ffilm wych Marc Evans ar DVD. Fe brynais i fe i'm cariad i Dolig, ond dim ond noson o'r blaen cawson ni'r amser i'w wylio.
Nid yn unig ydyw'r ffilm mor dda ag o'n i'n cofio o'i weld yn y sinema, ond mae pethau ychwanegol yn cadw'r safonau'n uchel hefyd. Mae disg ychwanegol ar wahan, sy'n cynnwys cyfweliadau â phob un o'r beirdd byw (mae detholiad o'r cyfweliadau yma yn cael eu defnyddio yn y ffilm ei hun, ond mae'n dda gweld y cyfweliadau eu hunain) ac un cyfweliad hir â Marc Evans. Wedyn mae darllediadau gan Tudur Dylan, Mererid Hopwood ac un bardd arall (Rhys Davies?) o lawer o'r cerddi sy yn y ffilm, a llawer mwy eto - er enghraifft, mae Gerallt Lloyd Owen yn sôn am gerdd W.J.Griffith I Dlodion y Byd yn ei gyfweliad, a dyma Tudur Dylan yn ei darllen. Mae'r rhai o'r cerddi 'ma eisioes ar gael yma, os dych chi'n gallu defnyddio Windows Media Player, ych pych.
Da iawn wir. Dw i'n mynd ati ar hyn o bryd i ripo pethau oddi ar y DVD i MP3, a bydda i'n postio pethau ar Pop Peth yn y man, gan ddechrau gyda fersiwn John Cale o Ar Lan y Môr a'r gerdd Dave Datblygu, Pererin Nid Wyf.
Yr unig peth dw i ddim yn ei ddeall am y DVD 'ma yw pam dydy e ddim yn cael ei hyrwyddo yn fwy? Dyw e ddim ar gael ar Amazon, na Gwales am wn i, does dim sôn amdano ar wefan y ffilm, naci ar wefannau (uniaith Saesneg, da iawn bois) Fiction Factory a Tinopolis, y ddau gwmni a oedd yn gyfrifol am y ffilm. Taswn i ddim wedi digwydd ei weld yn siop Awen Teifi jyst cyn y Dolig, fyddwn i ddim yn gwybod ei fod e ar gael, er mod i wedi bod yn aros amdano ers mis Mawrth. Oedd 'na unrhywbeth yn y wasg amdano?
Postiwyd gan Nic Dafis ar Ionawr 5, 2005 04:39 yhO'n i'n meddwl fod y DVD ar gael (am ddim) i ysgolion yn syth o Fiction Factory - efallai fod y rhai sydd dros ben wedi dianc i siop neu ddau.
Postiwyd gan: Dafydd Tomos, Ionawr 5, 2005 08:12 yhDwi'n credu mai Ynyr Williams, cynhyrchydd y ffilm, yw'r trydydd llais ar yr ail ddisg. Digwydd taro ar ei draws yn Siop y Pethe wnes i - weles i ddim cyhoeddusrwydd i'r peth o gwbl (a'i brynu i dad fel presant dolig ond i fi fy hun go iawn).
DVD ardderchog ac un pwysig dwi'n meddwl gan fod y rîliau gwreiddiol wedi eu difrodi yn barod. Rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau y ffilm yn fwy mewn theatr gan mai profiad 'theatrig' yw'r ffilm i mi - rhywbeth torfol. Dwi wedi gweld y ffilm sawl gwaith yn y sinema, a Drwm y Llyfrgell Genedlaethol oedd y sinema orau oherwydd ei faint a'r naws glos sy'n deillio o hynny.
Postiwyd gan: Seiriol Hughes, Ionawr 6, 2005 08:02 yhWelais i fe yn Theatr Mwldan ac oedd y lle bron yn wag, dim ond fi a Phil ac ambell i aelod Clwb Ffans Dic Jones.
Postiwyd gan: Nic Dafis, Ionawr 7, 2005 10:19 ybMa dau gopi gen i, a ma'r ddau'n wahanol, dyw'r DVD ychwanegol yna gyda'r cyfweliade ddim yn un o'r ddau. Gallai'm cwyno, dales i ddim amdanyn nhw. Fe weles i'r ffilm yn wreiddiol yn Theatr Taliesin Abertawe, mi odd y sinema yn wag hyd at 20 munud i fewn i'r ffilm pan wnath tri llond bws o blant ysgol gyrraedd a tharfu ar y ffilm. Yn bersonol mi enjoies i Beautiful Mistake yn fwy na'r ffilm yma (ma'n siwr oherwydd fod yna fwy o John Cale ynddi) ond wedi dweud hynny mi oedd hi'n ffilm dda.
Dwi'n gwbod fod y dvd ar gael am ddim i ysgolion yn ol y son ond do ni'm yn gwbod i bod hi am gael i rhyddhau, ma hi'n biti nag yw hi'n cael i marchnata'n well - dwi'm yn gwbod os y bu'r ffilm i unrhyw wylie ffilm o amgylch y byd. Ma cyn lleied o sinema Gymraeg o safon yn cal i chynhyrchu mi ddylse beth sydd yn cael i wneud gael i ddangos i'r byd, wedi'r cwbwl ma Marc Evans yn enw cyfarwydd bellach fel Cyfarwyddwr.
Postiwyd gan: Illtud Llyr Dunsford, Ionawr 17, 2005 05:21 yhA'r peth gwych arall am y ffilm oedd fod cymaint o gyfarwyddwyr gwahanol yn cael cyfle i fod yn rhan o ffilm nodwedd, a gallu gosod eu stanmp arno.
Dwi'n cytuno y dylai hi gael sylw ehangach, ond mai'n job ddrud anfon ffilmiau i wyliau ffilm (heb son am anfon y cyfarwyddwr...), a heb ddosbarthydd nac asiant gwerthiant mae'n annodd iawn i gynhyrchydd wneud hynny'n eang.
Ar nodyn arall...sa rywun yn nabod rhywun sydd wedi ei gwylio gyda isdeitlau Saesneg. Sut mae'n cyfieithu? Ydi'n dal yn dod drosodd yn dda?
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Ionawr 17, 2005 09:48 yhNewydd sylwi fod S4Ci fod yn Asiant Gwerthiant felly nhw sy'n fod i wthio hi dramor debyg iawn.
O ran gwerthiant DVD's yn y DG, dwn im pwy sy'n gyfrifol am hyrwyddo rheina. S4C eto debyg.
Tua faint fasa hysbys ar S4C, yn Golwg ac yn y Cymro wedi costio dwch?
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Ionawr 17, 2005 09:56 yhDoes dim isdeitlau ar y DVD, yn Saesneg na Chymraeg. Dw i ddim yn cofio a oedd is-deitlau yn y sinema. Sa i'n credu.
Postiwyd gan: Nic Dafis, Ionawr 17, 2005 10:33 yhRoedd na is-deitlau Saesneg yn y ffilm pan welais hi'n y sinema y ddwy waith.
Safon y cyfieithu yn dda iawn ar y cyfan, gyda cyfieithu Talwrn y Beirdd fel Battle of the Bards yn sefyll allan.
Er fod safon y cyfieithu'n uchel, roedd y sgrifen yn amharu ar fy mwynhad i o'r ffilm yn ddifrifol. Gan fod cymaint o'r ffilm yn siotau wedi'u dewis yn ddethol a'n ffotograffaidd iawn, roedd cael sgrifen ar waelod y llun yn edrych yn 'rong' ac yn eitha 'intrusive'. Dwi'n gwybod bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd i beidio darllen y cyfieithiad tra'n gwylio'r ffilm, ac yn gweld y canolbwyntio yma ar rywbeth negyddol hefyd yn amharu ar eu mwynhad o'r ffilm.
Postiwyd gan: Seiriol Hughes, Ionawr 19, 2005 01:33 yh