Mae Napoleon Dynamite, yn ffilm gynnil a chraff, ond yn hyn o beth, dyna'i gwendid hefyd. Er ei bod yn gofyn i ni uniaethu (neu gydymdeimlo o leiaf) â'r prif gymeriad, Napoleon, ni welwn ddigon o emosiwn neu pathos efallai i ni allu gwneud hyn.
Stori graidd y ffilm yw fod Napoleon Dynamite (Jon Heder) yn gorfod dioddef. Mae'n dioddef yn yr ysgol lle mae'n cael ei fwlio a'i wawdio gan amryw bobl, ac mae'n dioddef adref, gyda'i frawd a'i wncwl Rico, sy'n edrych ar eu hôl tra fod eu mamgu yn yr ysbyty (dydyn ni byth yn clywed beth sydd wedi digwydd i'w rhieni), mewn teulu 'dysfunctional'. Ond ymddengys fod Napoleon yn ddigon bodlon heb orfod 'ffitio mewn'. Mae'n bodloni ei hun ar ei ddychymyg, sy'n llawn uncyrn a 'litigers' (cymysgedd o deigr a llew), a'r syniad ohono'i hun fel rhyfelwr ("One of the gangs wanted me to join cos of my skills with the bowstaff").
Daw tro ar fyd wrth i Pedro ymuno â'r ysgol ac iddo gwrdd â Debs, dau sy'n debyg iddo fe, yn misfits llwyr, sydd yn ddigon bodlon yn 'ffitio mewn' gyda'i gilydd. Mae'r tri ohonynt yn uno i ethol Pedro'n llywydd y myfyrwyr, yn erbyn Summer, y ferch boblogaidd, blonde ystrydebol. Yr hyn a gawn hyd y ffilm yw datblygiad graddol Napoleon, o ran ei statws cymdeithasol a'i berthynas gyda Debs, er gwaethaf ymyrraeth ei wncwl Rico. Yn y pen draw, cawn foment ddadlennol, wrth i Napoleon ddangos i'r byd yr hyn y gall ef ei wneud, ac mae'r diweddglo yn un hapus, wrth gwrs (nodyn: MTV sy'n rhannol gyfrifol am i ffilm...)
Prif wendidau'r ffilm yw'r ffaith nad yw Napoleon yn gymeriad arbennig o hoffus, ac nad ydym ni'n gweld digon o'i ochr fregus, emosiynol i ni allu uniaethu ag ef. Ni chawn unrhyw olwg ar ei gymhelliant neu ei deimladau, ac felly'r oll a welwn yw cymeriad lletchwith, di-emosiwn. Heb gyfle i fynd i'r afael â'r emosiynau cyffredin i bawb, mae'r ffilm yn teimlo fel triniaeth oeraidd o fywyd un person - y mae ei weithredoedd a'i fywyd yn ymddangos yn ddinod a dibwys i'r gwyliwr. Trueni yw bod y ffilm wedi'i gwneud ar gyfer y genhedlaeth MTV - ffilm 'just for laughs' yw hi, sy'n colli cyfle da i gyfuno'r jôcs gyda rhywbeth ehangach, oesol. Ffilm dda os ydych chi am ymgolli mewn dinodedd, ond peidiwch â disgwyl tân gwyllt.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Ionawr 4, 2005 10:50 ybBlydi hel Geraint...comedi oedd hi! Be' arall oeddet ti'n disgwyl? Jyst achos ei bod hi'n ffilm Indie Americanaidd efo cyllideb isel dio'm yn golygu bod yn rhaid i bob cymeriad ddiodde' a bod hi ddim yn bosib cael 'diweddglo hapus'.
Oni di siomi ar yr ochr orau gyda'r ffilm. Roedd y cymeriadau yn 'quirky', yn hoffus ac ar y cyfan oni'n meddwl bod y ffilm yn hollol 'charming'. Roedd ganddi hunaniaeth gref, 'pace' oedd yn siwtio lleoliad y ffilm yn berffaith a soundtrack oedd yn helpu rhoi'r lleoliad yna yn ei gyd-destun byd-eang...rhyw 'arse-end of the world' lle oedd amser wedi ei anghofio.
Os wyt ti isho 'just for laughs', cer i weld hon, ond os wyt isho 'no brainer' go iawn, triwch 'Dodgeball' neu 'Anchorman'. Mae 'Napoleon Dynamite' yn hollol wahanol i'r ddwy yma. Mae ganddi galon go iawn. Trueni nest ti golli hwnna Geraint.
Postiwyd gan: Ian Cottrell, Ionawr 14, 2005 11:37 ybOce, falle o'n i braidd yn 'harsh' arni, ond yr hyn o'n i'n teimlo, wrth i'r ffilm fynd yn ei blaen, oedd 'mod i ddim wir yn poeni am y cymeriadau, na chwaith wir yn siwr pwy o'n i fod i wylio/cydymdeimlo â nhw, a bod hynny'n wendid yn y ffordd y cafodd y ffilm ei rhoi at ei gilydd. Nid fi yw'r person gorau i wylio ffilmiau 'ysgafn'.
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Ionawr 14, 2005 11:48 ybDigon teg, ond oni'n ffeindio fy hun yn teimlo dros y misfits i gyd, fel ensemble mwy neu lai. Oni'n gweld hwnna fel cryfder yn hytrach na gwendid.
Postiwyd gan: Ian Cottrell, Ionawr 14, 2005 12:01 yhSut na elli di deimlo dim dros y cymeriadau yma? Erbyn diwedd y ffilm pan mae Napoleon yn mynd ar y llwyfan i ddawnsio allai ddim a peidio teimlo fel rhiant yn hollol embaressed o'm mhlentyn yn mynd i neud ffwl o'i hun, ac yna'n teimlo'r wen mawr 'ma yn codi wrth weld Napoleon yn dod i fyny efo'r routine gwych yma - dwi'n teimlo'n embaressed wedyn am ama ei allu fo.
'triniaeth oeraidd'??? Hwn ydi'r ffilm 'cynnhesa' dwi wedi ei weld ers tro byd. Allai ddim peidio a teimlo rhywbeth tuag at pob un o'r cymeriadau - yn enwedig uncle Rico.
Postiwyd gan: rhys, Mai 9, 2006 04:18 yh