Yn ol sdori heddiw yn y Guardian, mae corff masnach cynhyrchwyr Prydain, PACT, yn lambastio'r BBC am ei arlwy ffilm dros y nadolig ac wedi galw ar y BBC i ryddhau rhagor o'u arian i'w wario ar gynhyrchiadau Prydeinig. Y broblem ydi fod dim ond tri ffilm a gynhyrchwyd ym Mhrydain yn cael eu dangos rhwng Rhagfyr 18 a 31, gyda'r rhan fwyaf o;r gweddill yn ffilmiau Hollywood. Y broblem ehangach yw taw dim ond £7 miliwn o gyllideb ffilm blynyddol £80 miliwn BBC Films a warir ar ffilmiau Prydeinig, ac yn ehangach i hyn, faint o'r swm yma ddaw i ffilmiau Cymreig. Yn aml iawn, dim yw'r ateb.
Sut all y BBC gyfianwhau galw ei hun yn Ddarlledydd Gwasanaeth Cyhoeddus gyda'r ffasiwn wastraff. Mae 'na gwmniau cynhyrchu gwych yng Nghymru gyda sgriptiau da a brwdfrydedd i gynhyrchu ffilmiau sydd am lwyddo ar lefel rhyngwladol ond gyda cyn lleied o arian ar gael iddynt drwy'r Loteri, neu efallai cyn lleied o arian i bartneru'r arian hynny a gwneud ffilm viable, mae hi'n dod yn fwyfwy amhosib i gael ffilam allan yna.
Petasai'r BBC yn rhyddhau £40 miliwn (gan gymryd yn ganiataol (!) y buasai rhywfaint o hyn yn dod i Gymru) gallai hyn sicrhau o leia dwy neu dair ffilm nodwedd i ddod allan o Gymru yn flynyddol, os nad mwy os gellid cadw cyllidebau o dan £500,000.
Mae o jest yn rhwystredigaeth fawr i mi fod cyn lleied o ffilmiau yn rhoi cynrychiolaeth i Gymru a Chymry ar lwyfan rhyngwladol ac ar ein sgriniau sinema ein hunain. Dwi'm yn son am gael blocbystyr am Owain Glyndwr i gael twristiaid Americanaidd i lifo yma i brofi eu gorffennol pell, ffug, drwy deithiau gwag o amgylch cestyll y Saeson a phlastai ein gormeswyr, ond ffilmiau modern yn dweud straeon difyr (sy'n diddanu nid dipresio), cyfoes, mewn ffordd sy'n driw i esthetig sinema NID teledu na theatr. Mae'n misnomer llwyr fod y rhan fwyaf o sdwff "art-house" yn uchel ael: "art house" i ni ydi ffilm "boblogaidd" mewn gwlad arall, a rhyw ffordd ddiog o farchnata yn unig ydi defnydd y geiriau.
Ella gyda dyfodiad dosbarthiad digidol y gall hyn ddigwydd mewn ffordd haws, ond y tebygolrwydd ydi na fydd y cymunedau fuasai'n manteisio fwya ar y math yma o ddosbarthu yn gallu ei fforddio, ac y byddant yn sownd eto gyda derbyn rybish lowest common denominator Hollywood wrth drio chwarae'n saff a chael y gynulleidfa fwya posib o gymuned fach iawn. Mae'n debygol y bydd Cymru flynydoedd tu ol iddi pan ddaw hi at ddyfodiad taflunwyr digidol.
Reit, rant drosodd. Cytuno? Anghytuno? Be ffwc ti'm baldaruo amdano Rhodri?
Hwyl, R
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Rhagfyr 20, 2004 07:40 yh