Stori yw Garden State am Andrew Largeman (Zach Braff, JD o'r gyfres deledu Scrubs), actor aflwyddiannus yn Los Angeles, yn dychwelyd adref i'w ardal enedigol yn New Jersey ar gyfer angladd ei fam. Yno, mae'n cwrdd â'i hen ffrindiau ysgol ac, yn bwysicach fyth, Sam (Natalie Portman). Mae hon yn ffilm ddoniol, graff ac emosiynol sy'n olrhain pedwar diwrnod a fydd yn newid trywydd bywyd 'Large' am byth.
Mae bywyd Large yn cael ei ddominyddu gan y gorffennol. Mae'r ffilm yn dechrau gyda galwad ffôn gan ei dad, yn dweud wrtho am farwolaeth ei fam. Yn syth wedi hynny, gwelwn gabinet yn llawn meddyginiaeth gwrth-iselder yn ei gartref perffaith, di-enaid. Beth mae Large yn ceisio'i guddio tybed? Cawn wybod yn syth wrth iddo ddychwelyd adref i wynebu ei orffennol tywyll, yn llawn damweiniau erchyll a syniadau rhyfedd am hapusrwydd. Ond, yn bwysig, mae'n penderfynu wynebu'i orffennol heb gymorth y meddyginiaeth sy'n cadw'i fywyd dan reolaeth.
Fodd bynnag, er gwaethaf y materion trwm sy'n llenwi'r ffilm, llwydda Braff i gadw cydbwysedd da rhwng yr elfennau tywyll a'r elfennau digrif, er enghraifft yn yr olygfa yn y fynwent, lle mae modryb Large yn canu fersiwn erchyll o 'Three Times a Lady' wrth i'w fam gael ei chladdu.
Wedi'r angladd, penderfyna Large aros yn yr ardal am ychydig ddyddiau, ac yn ffodus, mae'n cwrdd â Sam, cymeriad Natalie Portman. Yn wahanol i Large, mae Sam yn gymeriad bywiog, byrlymus sy'n mwynhau bywyd (er fod hyn yn cynnwys llawer o gelwyddau), gwrthwyneb diddanus, dymunol i gymeriad sych, coll Large. Yr hyn a wna Sam yw dysgu Large sut i fyw ei fywyd unwaith eto, nad yw bywyd dan reolaeth ei feddyginiaeth yn fywyd go iawn.
Mae'n anodd diffinio 'Garden State'. Mae'n ffilm sy'n gwneud i rywun deimlo'n dda am fywyd a chariad, ond nid ffilm rhamantaidd, shmaltzy yw hi. Yn yr un modd, mae'r ffilm yn dweud gormod am fywyd a'r natur ddynol i gael ei diffinio'n ffilm gomedi. Unig wendid y ffilm, o bosib, yw'r diweddglo ystrydebol, ond rydych chi'n teimlo mor dda am y ffaith fod Large wedi dod o hyd i'w hunan eto nad yw hynny yn effeithio'n ormodol ar neges ganolog y ffilm, sef fod bywyd yn werth ei fyw heb lapio'ch hun mewn gwlân cotwm. Os ydych chi'n caru bywyd, gwnewch ffafr â'ch hun, ac ewch i wylio'r ffilm hon.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Rhagfyr 17, 2004 12:42 yh