Rhagfyr 17, 2004

Deg uchaf ffilmiau Pictiwrs

Yn dilyn trafodaeth frwd, mae aelodau Pictiwrs wedi methu â phenderfynu ar ddeg uchaf ffilmiau 2004, blwyddyn sydd, ar y cyfan, wedi bod yn un dda yn y byd ffilm, ac felly roedd rhaid cael un ar ddeg uchaf. Felly, os nad ydych chi wedi gweld un o'r ffilmiau canlynol, ewch i'w gweld nhw, da chi!

1. Eternal Sunshine of the Spotless Mind (Michel Gondry)
2. Zatoichi (Takeshi Kitano)
3. The Station Agent (Thomas McCarthy)
4. Shaun of the Dead (Edgar Wright)
5. The Motorcycle Diaries (Walter Salles)
6. The Return (Andrei Zvyagintsev)
7. Dogville (Lars von Trier)
8. American Splendor (Shari Springer Bergman a Robert Pulcini)
9. La Mala Educacion (Pedro Almodóvar)
10. Oldboy (Chan-wook Park)
11. Elephant (Gus van Sant)

Postiwyd gan Geraint Criddle ar Rhagfyr 17, 2004 11:25 yb
Sylwadau

Beth? Cefais i ddim dweud yn hyn! Lle mae Finding Neverland, a ddylsai fod yn rhif 1? A The Incredibles yn rhif 8? Shaun of the Dead yn well na' Dogville? Gwallgofrwydd!

Yn amlwg dylsaf fi fynychu Maes-E yn fwy aml, fel bod dewisiadau pwysig fel hyn ddim yn cael ei gwneud tu ol i'm cefn. Hm, byth yn meddwl fyswn i'n dweud hynna.

Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Rhagfyr 18, 2004 12:07 yb

dim ond 5 ohonyn nhw dwi di weld, a neshi gasau 3 o'r rheini (go iawn) - oes dim modd postio rhestr ddiwygiedig ar ôl i bawb bleidleisio? sdim brys oes e?

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 20, 2004 01:40 yh

dim ond 6 ohonyn nhw dwi di weld, a neshi gasau 3 o'r rheini (go iawn) - oes dim modd postio rhestr ddiwygiedig ar ôl i bawb bleidleisio? sdim brys oes e?

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 20, 2004 01:41 yh

sori. ffaelu neud y maths, na'n capable o adael llai na 3 sylw ar y tro ar unrhyw flog... sori.

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 20, 2004 02:02 yh

Ddim yn mynd i'r sinema hen ddigon nag yn rhentu llawer o fideos. Wedi clywed llawer yn canmol Station Agent. Shaun of the Dead yw'r unig un dwi wedi weld o'r rhestr 10 uchaf a chefais fy siomi braidd, efallai gan ei fod wedi ei heipio cymaint. S'dim modd plesio rhai pobl nag oes :-)

Postiwyd gan: Rhys, Rhagfyr 20, 2004 05:41 yh

Oedd GDG yn gorfod brysio, cyn mynd adra am y dolig - ella gallwn ni gale rhestr ddiwygiedig ar gyfer wythnos gynta Ionawr, gan nad ydi 2004 wedi gorffan eto. Neu allwn ni ddim rili ei alw'n ddeg ucha Pictiwrs allwn ni?

(heh, sori i gael y llwy bren allan Geraint C! ;) )

Ond, at dy bwynt Ifan - oedd Shaun of The Dead yn rocio. Os ma ffilm yn gneud i fi fynd i'w weld ddwywaith, ma na rwbath sbeshal amdano.

Mae fy rhestr wreiddiol draw fan hyn os oes rhywun efo diddordeb.

Dwi yn betrusgar braidd am Dogville rwan ddo...ond allai dddim ei ffitio mewn i'r rhestr er cymaint yr effeithiodd arnai, ag ella mod i'n disgwyl i Von Trier jest neud ffilmiau gwych erbyn hyn...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Rhagfyr 20, 2004 07:53 yh

lol botes maip, mr ap dyfrig! ma von trier yn ddyn ac yn gyfarwyddwr ofnadwy. gawn ni setlo'r peth efo arm-wrestle rywdro.

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 20, 2004 08:53 yh

>>lol botes maip, mr ap dyfrig! ma von trier yn ddyn ac yn gyfarwyddwr ofnadwy. gawn ni setlo'r peth efo arm-wrestle rywdro.

Ha! Fe gawn ornest reslo-braich, ond i wneud pethau'n deg gai ategu ymaflyd cathod: Cadi vs Tysan - y tew vs y blew! Fe gei di wybod taw von trier yw un o arloeswyr sinema ewropeaidd y 90'au ymlaen.

Be di dy ddadl di? Y? Awn ni a hyn tu allan...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Rhagfyr 21, 2004 12:53 yb

ooo, mae hi'n ddadl gymhleth pretentious, sy ddim cweit yn gweithio heb i fi neud lleisiau a gesticulations. y gist ydi, mae o fel alter ego aflan hitchcock. *sigh* ydi, ma hynnan beth gwael.

ps: neith cadi wp-io tysan, canys hi yw'r giant haystacks cathol.

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 21, 2004 10:15 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?