Y ffilm ddiweddaraf gan Pixar, am deulu o dra-arwyr sydd ddim yn cael defnyddio eu pwerau hynod rhag ofn iddynt gael ei cymryd i'r llys a'i siwio.
Mae Pixar wedi gwneud cymaint o ffilmiau gwych erbyn mae’n anochel y bydd y swigen yn popian ar ryw bwynt. Ond nid The Incredibles yw’r ffilm sydd am achosi hynny. Mae yna gymaint o bethau’n dda am y ffilm yma mae rhaid pigo dan y gwinedd i ddarganfod y baw.
I ddechrau, mae’r cysyniad yn wych. Drwy roi ein tra-arwyr mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw’n medru defnyddio eu pwerau, rydym ni’n dod i’w nabod nhw’n lot gwell na fasen ni petai nhw’n ateb bob cwestiwn drwy daflu car neu saethu gwifren o'u llygaid. Er bod y cymeriadau, a’u pwerau, yn ffitio mewn i ystrydebau arferol y teulu Americanaidd (tad cryf, mam hyblyg, merch swil, ac yn y blaen), maen nhw’n hoffus ymhob ffordd ac mae haen o ddynoliaeth real tu ol i'w hwynebau cartwnaidd. Er bod y cymeriadau yn eilradd i’r ffrwydradau yn ail hanner y ffilm, mae yna aeddfedrwydd i'w sefyllfa sy’n chwarae i gynulleidfa lot hynach na chynnyrch arferol Pixar.
Mae cerddoriaeth y ffilm a’i olwg yn fwy tebyg i James Bond nag yr oedd James Bond erioed.. Mae’r bensaernïaeth yn galw nôl i’r 60au, a’r gerddorfa gyda’r math o adran pres sy’n gweddu i atmosffer y ffilm i’r dim. Os na fysai hynny yn ddigon cŵl, mae Samuel L. Jackson yn y ffilm. Does dim llawer o bwrpas siarad am pa mor realistig mae'r darluniau cyfrifiadur yn edrych, am ei bod yn gweddu'n berffaith a byd y tra-arwr.
Mae neges Nietzsche y ffilm yn aflonyddu ychydig bach, gyda’r gelyn yn cael ei gosbi am geisio bod yn arwr heb iddo gael ei eni gyda’r sgiliau i fod yn un (dwi'n siwr y bysai Prince Charles yn hapus gyda hynny). Ond mae cwyno o’r fath yn darllen gormod i mewn i ffilm sydd gyda'r nod syml iawn o geisio difyrru'r gynulleidfa cyn gymaint a phosib, a dim arall. Dyma'r drydedd ffilm orau i mi ei gweld flwyddyn yma, tu ôl i Finding Neverland a'r fersiwn hir o Return of the King. Mae’n disgyn tu ôl i’r ffilmiau hynny am ei fod yn fwy syml, gyda dim o’r themâu dwfn ac emosiynnau cryf. Ond mae’n llwyth o hwyl, ac onid hynny yw pwrpas mynd i’r sinema?
Postiwyd gan Ifan Morgan Jones ar Rhagfyr 13, 2004 07:31 yh