Ffilm gomedi am bopeth, a dim byd, sy地 trafod bod yn ymhongar mewn ffordd hollol ddiymhongar.
Mae地 debyg eich bod chi地 gwybod yn barod os wnewch chi hoffi池 ffilm yma ai peidio. Mae hi地 ffilm liwgar, swrrealaidd sy地 gloddesta yn ei bis穩wydd a段 gyflymdra araf. Mae地 buddio lot o段 gast o gymeriadau hoffus, gan gynnwys Dustin Hoffman, Mark Whalberg a Jude Law. Mae hefyd yn siriol iawn ar adegau, mewn ffordd afresymol a fydd yn cadw gwen ar eich wyneb drwyddi draw. Mae段 ddiffygion yn cynnwys ambell i ddarlun gros sy地 cyfosod yn hollol a gweddill y ffilm, a chynllwyn syml i池 plot sy地 delio gydag un grŵp o gymeriadau ac yna un arall yn lle cydblethu stori穹池 ddau. Yn sicr mae'n ddigon i wahanu cynilleidfa; roedd dau o fy ffrindiau wrth ei bodd a dau arall yn meddwl mai hwn oedd y ffilm waethaf iddyn nhw'i gweld erioed. Bydd rhaid i chi ei risgio hi felly.
Postiwyd gan Ifan Morgan Jones ar Rhagfyr 13, 2004 06:28 yhWedi methu hon yn llwyr. Damia. Raid gwitsiad am y DVD.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Rhagfyr 20, 2004 07:55 yh