Rhagfyr 01, 2004

Y Ffilmiau Byddwch Chi'n Gwylio Yn 2005...

Dyma restr y ffilmiau sydd wedi cael eu dewis ar gyfer gwyl ffilmiau "anibynnol" Sundance (20-30 Ionawr, 2005).

Mae'n cynnwys ffilm newydd gan Steve Buscemi - Lonesome Jim - swnio'n dda jest o'r teitl; 3-Iron gan Kim Ki-Duk (Spring, Summer, Autumn...; The Isle); Dear Wendy gan Thomas Vinterberg sydd wedi'i sgwennu gan Lars Von Trier; The Girl From Monday gan Hal Hartley; Mirrormask o'r DG sydd wedi'i sgriptio gan y nofelydd graffig Neil Gaiman. Digon i godi awch ar unrhywun sy'n ffan o indies Americanaidd a ffilmiau anibynnol o weddill y byd.

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Rhagfyr 1, 2004 08:43 yb
Sylwadau

Ffilm Steve Buscemi? Bonza!

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Rhagfyr 6, 2004 10:09 yb

Edrych ymlaen yn arw i weld 'Sideways' - mi sgwennai adolygiad i Pictiwrs os gofynnwch yn neis.

Postiwyd gan: Llewelyn Richards, Rhagfyr 14, 2004 02:24 yh

"3-Iron gan Kim Ki-Duk..."

ffilm ambyti golff ite? *badwm-tish...*

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 20, 2004 01:43 yh

Gawn ni adolygiad Pictiwrs gen ti Mr Richards? Plis plis?

___________________________________________________
Bach o wybodaeth gan ffan mawr o 3-Iron.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Rhagfyr 20, 2004 08:18 yh

fi'n edrych mlaen lot mwy am sideways na dim byd arall - newydd gael f'atgoffa o trees lounge (dim diolch i'r sawl a ddanfonodd mpegi fi o chloe sevigny yn, ym, helpu vincent gallo i ddiffodd y tan yn ei drowsus...): heb weld buscemi ers oesoedd. am 3-iron: weles i spring, summer... leni, a wnes i ddim meddwl lot ohoni: tlws iawn - ond dim digon o ymladd/dim digon o blot i gyfiawnhau'r diffyg ymladd. ond gawn ni weld...

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 20, 2004 09:10 yh

Heb weld Trees Lounge, un o'r ffilmiau na dwi di bwriadu'i wylio ond rioed di dod ar ei draws.

Weles i premiere The Brown Bunny yn Cannes - un o'r profiadau sinema mwyaf anghygoel i mi ei gael erioed - dwi'm wedi gweld cymaint o audience participation ag oedd yn y ffilm yna yn unman - lot o bwio a grunts a groans Ffrengig, pobol yn muttro dan eu gwynt a hanner y bobol yn gadael y sinema. Daeth cheer mawr pan gychwynodd Sevigny sugno ei goc, oherwydd fod pawb mor bord yn ystod 2 awr gynta'r ffilm. Ac roedd hi yn y rhes flaen reit drws nesa i Vincent Gallo! Druan ohoni, oedd hi'n edrych yn reit sheepish wedi i'r ffilm orffan. Diawl o beth. Roedd o wir yn anferth o wael ddo.

Oedd o'n prosthetic ddo? Dyna di'r cwestiwn mawr.

Oedd The Isle rwbath tebyg. lot o luniau neis o;r llyn, ond chwara teg, mi gadwodd fy sylw gan fod y ton jest mor dawel fod ti'n gwbod fod y ddau brif gymeriad drwch adenydd gwybedyn o wallgofrwydd dinistriol llwyr. Ac mae'r ddelwedd ola yn hollol gobsmacking.

Nos da. Sgiws llith, wedi meddwi braidd.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Rhagfyr 21, 2004 01:05 yb

*jeles*. dwi rioed di clywed unrhywun yn honni mai 'dymi' oedd chloe'n sugno (badwm-tish).ma pawb yn gwbod mai dim ond gneud y ffilm er mwyn cal blowjob ganddi naeth gallo. mae'n siwr 'sa fo di gofyn, ar ôl mynd a hi allan am swper a cwpwl o ddrincs, sa hi di gneud eniwe, bydda. sili bili. siwr fod sevigny'n teimlo fel reit meipen rwan, dydi.

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 21, 2004 10:21 yb

Cewch adolygiad o Sideways - da chi di gofyn yn ddigon cwrtais. Ar thema gysylltiedig, mi sgwennai adolygiad o Mondovino os chi moyn e.

Postiwyd gan: Shon, Rhagfyr 21, 2004 11:05 yb

Gwych!

Be am adolygiad ochr-yn-ochr?

Ella fod hi braid yn annodd cymharu doc a ffuglen.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Rhagfyr 21, 2004 11:45 yb

sai'n credu bod clearence lefel 3 (adran plîs a thanciw) i gal gen i, gan mai dim ond un post pitw dwi di sgwennu. ond fydde hynnan'n neis iawn, plis a thanciw...

Postiwyd gan: sara, Rhagfyr 21, 2004 11:46 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?