Dyma stori'r 11 Medi yr hoffai America i chi ei anghofio, stori dymchwel llywodraeth Salvador Allende yn anghyfreithlon gan junta milwrol yn Chile, gyda chefnogaeth gref gan y CIA. Mae'n ffilm ddwys, gyda neges wleidyddol gref, ond hefyd yn cofio bod yn ffilm yn hytrach na rhaglen ddogfen yn unig.

Dechreua'r ffilm gyda'r rhai a gofnododd y gwrthryfel cyfreithlon, di-drais yn Chile, yr artistiaid. Yma gwelwn ddechrau'r mudiad poblogaidd a fu'n sail i lwyddiant Allende. Roedd y bobl hyn yn peintio sloganau Allende ar furiau, gan fod y muriau hyn, medden nhw, yn gyfwerth â'r cyfryngau i'r asgell dde. Eu ffordd hwy oedd i ddefnyddio'r muriau, gan mai dyma roedd y bobl dlawd yn ei weld.
Mae'r ffilm yn grefftus yn y ffordd y mae'n adeiladu'n araf o'r pwynt hwn, gan adlewyrchu dechreuad araf Allende'i hun mewn gwleidyddiaeth, yn ymgeisio am arlywyddiaeth ei wlad sawl gwaith cyn llwyddo. Ffilm archif yw rhan fwyaf y ffilm, ac i ddechrau cawn farn y bobl ar y pryd, eu dyheadau am newid, a'r newid gwirioneddol a ddaw yn sgil ymgyrchu diddiwedd Allende ar ran y gweithwyr a'r tlodion. Dim ond ychydig yn ddiweddarach y clywn Allende, yn hytrach na'i weld, techneg ddiddorol gan Guzman, y cyfarwyddwr, ac yn gydnaws efallai â safbwyntiau Allende'i hun mai'r bobl sy'n bwysig, ac nid yr arweinydd o reidrwydd.
Rhywbeth a achosodd gryn syndod i mi oedd pa mor blwmp a phlaen y mae'r cyn-lysgennad yn siarad am y rhan a fu gan UDA yn nghwymp llywodraeth Chile. Dywed yn syml y bu i Richard Nixon fynd ati i geisio atal Allende rhag bod yn arlywydd yn y lle cyntaf, gan lofruddio prif gefnogwr Allende yn y fyddin, a chael y fyddin ar ochr America a'r junta milwrol a fyddai'n dymchwel y llywodraeth mewn ychydig flynyddoedd. Trueni, felly, na chafwyd mwy am ran UDA, ac yn enwedig am ran Henry Kissinger yn yr erchylltra, ac yn lle hynny roedd Guzman bron fel ei fod yn beio pobl Chile am beidio â sefyll ar eu traed ac amddiffyn arweinydd y bobl.
Mae cwrlid du bron yn bodoli dros Salvador Allende y dyddiau hyn yn Chile, yn sgil alltudio a llofruddio miloedd o'i gefnogwyr yn dilyn y coup d'etat gan y junta rheibus. Dim ond ychydig o weithwyr cyfoes a phobl a oedd yn adnabod Allende neu'n wleidyddol weithgar ar y pryd a siaradodd â Guzman ar gyfer y ffilm. Pan â Guzman o amgylch y gymdogaeth lle roedd cartref Allende a gafodd ei fomio a'i ysbeilio, gan ofyn pwy oedd yn cofio hyn yn digwydd, mae'r bobl yn ei anwybyddu. Dengys hyn rym y llywodraeth ormesol a chwalodd y gwaith a wnaeth Allende o ddod â'r bobl at ei gilydd a chreu mudiad ymysg y bobl. Gobeithio mai'r hyn a wna'r ffilm hon fydd codi'r cwrlid, a chodi'r awydd ymysg y bobl i weithredu eto ar ran eu hunain, ac nid ar ran y corfforaethau cyfalafol sy'n britho Chile.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Tachwedd 18, 2004 10:59 yb