Y ffilm a fu'n binacl i'r Rhyfel Oer yw'r ffilm ddiweddaraf yng Ngwyl Ffilm Caerdydd, sef Dr Strangelove, ffilm y gellid dadlau hefyd a fu'n binacl i yrfa Peter Sellers. Mae'n glasur o baranoia milwrol, ac yn berthnasol iawn i'r hinsawdd gwleidyddol cyfoes.
Afraid yw dweud gormod am y ffilm, gan ei bod hi bellach yn ddeugain oed ac wedi'i dadansoddi, ei hadolygu a'i dehongli hyd syrffed. Ond profiad arbennig oedd cael bod yn y sinema er mwyn ei gweld ar y sgrin fawr am y tro cyntaf. Roedd perfformiadau ardderchog Sellers fel Capten Mandrake, Arlywydd Muffley a Dr Strangelove, George C. Scott fel Buck Turgidson, a Sterling Hayden fel Jack Ripper yn cael eu hamlygu'n fwy, ac yn dangos yr amseru gwych sy'n perthyn i elfennau comedi y ffilm.
Ond amlygwyd hefyd yr arswyd a'r paranoia a oedd yn perthyn i'r oes honno, wrth i'r ffrwydriadau a'r bomiau gael eu chwyddo, ac y daeth diriaeth y sefyllfa yn hollol blaen o'n blaenau. Mewn oes lle mae trais a marwolaeth yn cael ei bortreadu ar ein sgriniau bob nos ar y newyddion, roedd gweld ffilm lle mae paranoia a syniadau tywyll yn ffordd o fyw yn amheuthun. Nid trais a welwn ond bygythiad ac ofn trais, rhywbeth y mae Kubrick yn chwarae arno'n dda, a rhywbeth sy'n cadw'r cymeriadau a'r gynulleidfa dan barlys braw. Dyma un o glasuron y byd ffilm.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Tachwedd 15, 2004 10:36 ybMae'r ffilm yn anhygoel am ri fod yn ffilm ddychanol, sy'n dal yn taro deg heddiw. Mae'n fy atgoffa i am y sylw apocryphaidd gan un o arweinwyr Rwsia'n egluro pam y cyrhaeddodd yr UDA y lleuad cyn yr Undeb Sofietaidd: "'Roedd gwell Almaenwyr gennyn' nhw nag oedd gennon ni."
Postiwyd gan: Emyr Lewis, Tachwedd 20, 2004 09:59 yhMae'r ffilm yn anhygoel am ei fod yn ffilm ddychanol, sy'n dal yn taro deg heddiw. Mae'n fy atgoffa i am y sylw apocryphaidd gan un o arweinwyr Rwsia'n egluro pam y cyrhaeddodd yr UDA y lleuad cyn yr Undeb Sofietaidd: "'Roedd gwell Almaenwyr gennyn' nhw nag oedd gennon ni."
Postiwyd gan: Emyr Lewis, Tachwedd 20, 2004 09:59 yhFfilm hollol wallgo' ond mor real! Mi fedrai ddychmygu fod ystafell ryfel bresennol yr UDA yn debyg iawn iawn!
Postiwyd gan: Sioned Lewis, Tachwedd 23, 2004 08:53 yh