Mae Amma Asante, cyfarwyddwr "A Way of Life", ffilm newydd sy'n edrych ar densiynau hiliol a phroblemau mam sengl o fewn cymuned yn Ne Cymru, wedi ennill Gwobr Talent y DU yng ngwyl ffilm Llundain. Bydd y ffilm hon yn agor Gwyl Sgrin Caerdydd ac yn dangos eto wedyn y diwrnod canlynol. Edrych mlaen yn fawr i'w gweld hi wedi iddi gael ymateb da yn Toronto hefyd. Mae'n debyg bydd y ffilm hon yn cael cryn sylw rwan iddi ennill y wobr yma, a llwyddo i guro sawl ymgeisydd cryf yn cynnwys Bullet Boy (gyda pherfformiad gwych gan Asher D o So Solid Crew yn ol bob son) a Yasmin, ffilm gan Kenny Glenaan gafodd gryn sylw yng Nghaeredin. Llongyfarchiadau!
Mae The Woodsman, sy'n serennu Kevin Bacwn ac sydd hefyd yn dangos yn yr wyl, hefyd wedi ennill prif wobr gwyl Llundain. Ffilm am bedoffeil sy'n cael ei ryddhau ac yn cesio dod i dermau a'i broblem a byw yn y byd go iawn. Swnio fel sdwff pwerus iawn a fyddai'n sicr o geisio'i ddal o.
Dyma drosolwg Y Guardian/Observer ar ffilmiau a newyddion yr wyl.
Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Tachwedd 5, 2004 10:04 ybDyma gyhoeddiad i'r wasg am y wobr gan y Cyngor Ffilm - dim crybwyll, sylwer, o'r ffaith fod y ffilm wedi ei osod yng Nghymru gyda actorion Cymreig talentog newydd. Damia nhw.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Tachwedd 5, 2004 11:29 ybCyfweliad heddiw ag Amma Asante yn y Grauniad.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Tachwedd 9, 2004 03:27 yh