Hydref 26, 2004

Rebecca (Alfred Hitchcock, 1940) / Sunset Blvd (Billy Wilder, 1950)

(IMDb - Rebecca / Sunset Blvd)

rebecca.jpgsunsetblvd.jpg

Penwythnos gwlyb, dim arian, be well na swatio o flaen ambell i glasur Hollywood du a gwyn i basio'r amser. Ro'n i wedi meddwl adolygu jest un o'r rhain ond mae cymaint o elfennau tebyg roedd hi'n annodd peidio gwneud cymhariaeth.

Mae'r ffilm "Rebecca" yn dilyn carwriaeth gorwynt rhwng dynes ddi-enw (ie – drwy’r holl ffilm), cynorthwy-ydd nerfus ond del i ddynes grachaidd ar y Cote D’Azur, a Max de Winter - bonheddwr cyfoethog o Gernyw. Yn dilyn priodas gyflym symudant nol i blasty anferth Manderley yng Nghernyw, ond mae bywyd uchelwraig yn profi'n unig ac annodd iawn iddi gyda ysbryd Rebecca, cyn-wraig lewyrchus de Winter fu foddi mewn damwain hwylio yn y môr ger y tŷ, i'w weld yn hongian drosdi yn orthrymus.

Mae Sunset Boulevard, un o ffilmiau mwyaf nodedig y genre noir, ar y llaw arall hefyd yn delio a pherthynas an-hafal sy'n digwydd ar hap. Mae Joe Gillis yn sgriptiwr ffilm, ac yn stryglo. Wrth ddianc rhag ei gredydwyr mae'n troi mewn i ddreif tŷ crand ar Sunset Boulevard, ac yn cyfarfod a’i femme fatale - Norma Desmond - cyn-seren y sgrîn arian o adeg y ffilmiau mud. Mae hi'n amlwg yn hanner-pan ond mae Desmond yn cael cynnig golygu ei sgript ddi-werth iddi a buan mae'n byw yn ei thŷ oddi ar ei arian, fel gigolo. Mae pethau'n dechrau suro o ddifri wrth i Gillis gesisio cadw gafael ar ei ryddid ei hun ac wrth i Desmond fynd fwyfwy perchnogol ohono tra'n colli gafael ar ei realiti.

Mae'r ddwy ffilm yn cychwyn yn hynod effeithiol, sydd ddim yn anisgwyl gan Hitchcock a Wilder, dau o feistri'r adeg. Yn Rebecca, mae na shot tracio hir yn arwain fyny dreif plasty Manderley, sydd yn hanner adfail, tra mae y prif gymeriad di-enw’n trosleisio yn melancoli am freuddwyd o’i dychweliad yno. Mae hyn yn cychwyn ôl-fflach ar hanes sut y daeth hi i ddod i’r ffasiwn le yn y lle cyntaf. Mae Sunset hefyd yn cychwyn gyda bang gyda saethiad tracio o’r gwter fyny dreif grand at yr heddlu sy'n darganfod corff yn y pwll. Rydym wedyn yn torri at saethiad hynod o oddi tan y corff yn edrych fyny ar yr heddlu'n edrych lawr i'r dŵr. Dyw hi ddim yn hollol amlwg ar hyn o bryd taw corff ein protagonist - ac ein trosleisiwr - ydi o. Troslais o'r bedd gan Gillis yw hon yn hytrach na throslais ôl-edrychaid fel sydd yn Rebecca, ond mae'r ddau dechneg yn gosod y tôn tywyll sydd i ddod.

Mae'r tensiwn sy'n cael ei greu yn y ddwy ffilm yn feistrolgar hefyd gan nad ydi bywyd unrhyw un o'r cymeriadau mewn perygl dybryd (i gychwyn) ond fod y ddau brotagonist yn gwynebu llefydd anghyfarwydd, gyda ochr sinistr iawn yn datblygu yn raddol yn y ddwy. Yn Rebecca mae popeth ym mhlasty Manderley yn ei hatgoffa o'r gyn-feistres Rebecca, ac mae obsesiwn y prif-forwyn ac atgof Rebecca (gydag awgrym cryf o gariad lesbaidd) yn rhoi ochr dywyll iawn i bethau. Yn Sunset, mae Gillis wedi rhoi ei hun yn y sefyllfa hon, gan setlo'n reit braf i'w fywyd cyfforddus, gan feddwl ei fod mewn rheolaeth. Ond cyn iddo allu dianc mae'n sylwi fod pethau wedi mynd yn rhy bell a'i fod yn garcharor i'r ddynes wallgo hon sydd yn fodlon gwneud rhywbeth i ddal mlaen i'w gorffennol.

Mae'r actio yn wych drwyddynt draw, er chydig yn od i ni erbyn hyn yn ei felodrama (mae hyn chydig fwy amlwg yn Rebecca na Sunset a dweud y gwir). Mae Gloria Swanson yn rhoi perfformiad syfrdanol o dros ben llestri, ond coeliadwy, gan ei bod yn portreadu hen seren sydd dal yn actio’i ffordd drwy’i bywyd ("We didn't need dialogue. We had faces. "). Mae’r Mrs De Winter newydd yn brydferth a delicet ond hefyd yn dangos fod yno ddur ynddi rywle gan sefyll dros ei hun fel yr a'r ffilm ymlaen. Mae'r deialog yn gyson wych yn y ddwy ffilm gyda llinellau anfarwol dryddynt draw ("I should be making violent love to you, behind a palm tree" (beffwc?!)). Mae'r gweision hefyd yn dod i amlygrwydd yn ystod y ffilm, ac y ddau yn golygu llawer mwy i'r sdori na beth y tybiwn i ddechrau.

Mae'r setiau yn y ddwy yn anferth a gor-grand ac wrth osod y cymeriadau mewn siotiau lle maen't bella posib o'r camera mae'n creu teimlad cyson o unigrwydd ac ansicrwydd. Dydi'r ddau ddim yn rhy glyfar-clyfar gyda'u themau a thriciau gweledol, sydd ddim yn syrpreis gyda Wilder ond sydd braidd gyda Hitchcock. Mae'n debyg taw'r rheswm dros hyn yw taw Rebecca oedd ei ffilm gyntaf yn America i'r cynhyrchydd David O Selznick, felly gallwn dybio ei fod wedi penderfynnu chwarae'n saff nes gallu cael rheolaeth ei hun dros ei ffilmiau. Serch hyn, mae'r dwr wastad yn agos yn Rebecca, ac mae'r olygfa lle mae’r ail Mrs De Winter yn cyrraedd y plasty gyda chysgod glaw trwm drwy wydr y conservatory dros ei gwyneb fel dagrau'r mor yn gosod y tôn ar gyfer gweddill ei arhosiad yno. All hi fyth fod yn hapus yno. Yn Sunset, mae yno olygfa lle mae'r ddau yn edrych ar ei chyn ffilmiau yn y tŷ ac yna'n sefyll yn ddramatig i olau'r taflunydd wedi'w rhewi am eiliad - fan'no yw'r unig le lle mae hi'n dal yn bodoli fel yr oedd - yn seren. Mae'r ddau dŷ ynghlwm wrth y cymeriadau gyda'r craciau ym mhlastr 10086 Sunset Boulevard yn drychu'r craciau yn y makeup ar wyneb Norma Desmond, a Manderley yn drwch gyda ysbryd Rebecca’n ei gyniwair.

Mae na ddigon o droeon yn ystod y ffilmiau i gadw eich diddordeb ond y pleser sydd i'w gael yw'r pleser o wingo'n eich sedd - mae 'na gymaint o deimlad o ragargeol du yn y tai, y cymeriadau, a'r holl sefyllfa fel y gwyddoch nad oes ond un ffordd allan - drwy drasiedi o ryw fath - ac mae'r ffordd mae'r ddwy ffilm yn adeiladu at hyn yn gelfydd. Mae'r gerddoriaeth yn chwarae rhan fawr yn hynny o beth gyda score wreiddiol wedi'w osod i gyd-fynd a phob torriad a cham troed yn Rebecca a'r thema ail-adroddus yn Sunset yn creu'r awyrgylch o grandrwydd cwympedig llychlyd.

Mae yma ddwy ffilm sy'n canolbwyntio ar themâu obsesiwn (gydag arian, enwogrwydd, y gorffennol), cymryd mantais (ar gyfleoedd ar draul pobol eraill, ar wendidau pobol), colled a gwallgofrwydd (marwolaeth Rebecca, marwolaeth gyrfa Norma Desmond) ac yn plethu’r rhain oll ynghŷd a chymeriadau cryf a deialog o’r safon ucha i greu dwy glasur o ffilm. Mae Sunset wedi llwyddo’n well na Rebecca i sefyll prawf amser ond mae hi ddeng mlynedd yn hŷn wedi;r cyfan ac roedd agweddau cymdeithas (ac yn arbennig menywod) wedi newid cryn dipyn yn yr amser hynny.

Mae'r tôn moesol yn Sunset yn gryf iawn, gyda beiriniadeth lem o Hollywood a'r ffordd y mae yntau fel diwydiant yn cymryd mantais ar bobol gorffwyll ac yn eu ecsploetio'n ddi-drugaredd. Mae Rebecca hefyd yn feirniadol o fywyd uchelwyr Prydain, gan amlygu gwacter eu bywydau i'r gynulleidfa - cânt eu portreadu yn gregyn gweigion, fel eu tai anferth, ac mae dinistr y plasty yn symbylol o’r ymagwedd hyn. Un peth sydd yn wahanol yw'r teimlad ar ddiwedd y ddwy ffilm: yn Sunset mae'n anobeithiol gyda theimlad o biti dros y cymeriadau truenus (ac, drwy estyniad, Hollywood) ond yn Rebecca, mae'n gymharol obeithiol, gyda dinistr y gorffennol daw bore newydd.

Felly, dwy ffilm angenrheidiol, gyda llond trol o hiwmor, drama, dirgelwch, gwefrau a iasau i blesio ar bnawn Sul.

Dolenni:

Dau ddisgrifiad trylwyr tu hwnt o’r ddwy ffilm bron olygfa wrth olygfa, gyda nodiadau perthnasol am hanes y ffilm a’i actorion ar hyd y ffordd:

Filmsite - Sunset Blvd

Filmsite - Rebecca

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Hydref 26, 2004 10:12 yh
Sylwadau

Dwi wrth fy modd gyda Sunset Boulevard, mae'n ddehongliad gwych o ddyfodiad sain i'r diwydiant ffilm, ac mae Singin' in the Rain yn gwneud yr un peth i raddau ondywe? Mae'n anodd dychmygu effaith datblygiad mor fawr heddiw. Y llinell gorau, heb os nag oni bai yw ymateb Norma i'r sylwad "You were big". Mae'n dweud "I am big, its the pictures that got small". Gwych! Real diva ond mae'n trasig ar yr un pryd.

Postiwyd gan: Derec, Hydref 28, 2004 06:32 yh

Fydd y chwyldro digidol yn cael yr un effaith? Gan adael y puryddion seliwloid ar ol a chreu pobol, tebyg i Norma Desmond - sur, chwerw ac yn gaeth i'r gorffennol. Rhaid i bopeth da ddod i ben...er mwyn ail-eni. Dwi'n sicr y bydd pob ffilm, heblaw am ffilmiau celf, yn cael eu cynhyrchu ar fformat digidol cyn bo hir. Does dim pwynt gafael mlaen i seliwloid, mae'r diwedd wedi cychwyn.

Mae cyflymder dosbarthu copiau o ffilmiau dros y we wedi hen basio posiblrywdd gwneud dosbarthiad rhynglwadol dros amser. Rhaid i ffilmiau nawr agor yn uniongyrchol er mwyn atal y lladron rhag cael y blaen arnynt. Sgil-effaith hyn ydi taw'r unig ffordd mlaen o ran dosbarthu yw yn ddigidol a di-brint - rhatach a mwy proffidiol i'r dosbarthyr unwaith fod y sinemau wedi eu confyrtio.

Hei! O'n i'n meddwl taw am Sunset Boulevard oeddan ni'n son! Nol i'r pwnc!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 28, 2004 06:48 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?