Ail-werthusiad yw hwn o'r ffilm ddiweddar gan Charlie Kaufman a Michel Gondry, Eternal Sunshine of the Spotless Mind, ar ôl i mi weld y ffilm eto neithiwr ar DVD (a'i deall ychydig yn well y tro hwn).
Ar ochr sinematig, mae'r ffilm yn glyfar yn y ffordd y mae'n neidio o un man i'r llall, gyda thair lefel 'realiti' yn bodoli - Joel Barish (Carrey) cyn y driniaeth (ei atgofion), yn ystod y driniaeth (yn ei dy), ac ar ôl y driniaeth, lle mae'n cwrdd â Clementine (Winslet) eto. Ond ar adegau, ceir anghysondeb/dryswch, lle nad ydych chi'n siwr ar ba lefel y mae'r ffilm yn rhedeg, ac felly'n difetha ychydig ar eich gallu i feddwl am y syniadau y mae Kaufman yn chwarae â nhw, sef y ffordd y caiff atgofion eu strwythuro yn y cof, a'r ffordd y caiff pethau eu llwytho â'n hatgofion o berson neu beth.
Dyma yw cryfder y ffilm, sef y ffordd y mae'n mynd â ni yn ôl, o dranc perthynas, drwy'r holl atgofion a'r pethau bach sy'n creu cariad, i'r dechrau un, yr atyniad gwreiddiol rhwng dau berson. Gwelwn yr holl bethau drwg a da sydd yn rhan o'n hatgofion, ac yn rhan o'r broses o ddysgu mewn bywyd. Gofynna hyn y cwestiwn - pam fyddai rhywun am ddileu'r atgofion sy'n ein gwneud ni yn NI, sydd yn rhoi hapusrwydd i ni, neu sy'n ein dysgu i beidio â gwneud camgymeriadau yn y dyfodol? Mae delwedd y tŷ yn chwalu tua diwedd y ffilm yn un dda - rhaid i Joel a Clementine aros a cheisio adeiladu eu perthynas, yn lle rhoi'r gorau i bopeth a chwalu pob atgof, boed yn wych neu'n wachul.
Mae 'Eternal Sunshine' yn ffilm sydd wedi gwella ers y tro cyntaf i mi ei gweld, yn bennaf, fel sy'n digwydd gydag unrhyw ffilm, gan ei bod yn bosibl edrych ar wahanol agweddau ar y ffilm yn lle meddwl 'be ffwc?' a dilyn y plot. Ond hefyd, o edrych yn ôl, mae'n ffilm dyner, sy'n cynnig gobaith i 'hopeless romantics' fel fi.
Postiwyd gan Geraint Criddle ar Hydref 21, 2004 11:22 ybNesh i ddisgyn mewn cariad yn llwyr a'r ffilm yma. Mae hi'n uchel ar fy rhestr DVD's drwy'r post. Ysu i'w gweld hi eto. Un o ffilmiau gorau 2004 heb os.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 21, 2004 12:14 yhAye, o'n i 'di anghofio cystal ffilm oedd hi - mae'n edrych yn ffantastig, ac mae'r sgript yn wych (llawer gwell na 'Adapatation')! Gobeithio y bydd 'features' da ar y DVD hefyd - un arall i'w hychwanegu at y rhestr Nadolig...
Gyda llaw, parthed 'Save the Green Planet', dal i aros am gyfraniad IMJ - pob un arall wedi dod i law...
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Hydref 21, 2004 12:38 yhDwyt ti ddim yn aros am fy nghyfraniad mwyach. Sori am eich cadw chi, dw i wedi bod yn brysur iawn.
Dw i heb weld Heulwen Tragwyddol y Meddwl Difrycheulyd. Falle wna i ei dal hi ar DVD.
Postiwyd gan: Ifan Morgan Jones, Hydref 21, 2004 05:54 yhFelly Criddle, da ni gyd yn aros am ti nawr! ;)
Postiwyd gan: Geraint Evans, Hydref 22, 2004 10:12 ybNewydd ei gwylio eto neithiwr gan fod ffrind wedi ei phrynu, a hithau wedi gwirioni'n lan efo hi. Ti'n iawn fod yr ail-wyliad yn bleserus iawn, galli di ymlacio fewn i'r profiad llawer mwy a jest amsugno fo'i gyd mewn. Ma Winslet a Carrey yn disgleirio.
Ella taw'r darn gwannaf ydi'r rhan lle mae'n nhw yn ei stafell ac yn dileu atgofion Joel, mae Elijah Wood yn hynod annoying gyda'i wep llyffantaidd, ac mae oll chydig yn fflat o'i gymharu a darnau perthynas Joel a Clementine sy'n ein swyno gymaint. A fasa Dunst rili yn dileu ei atgofion jest er mwyn cael parhau i weithio yn y swydd?
Ond dwi'n man bigo fan hyn - ffilm hyfryd sy'n gadael gwen enfawr a theimlad braf wedi ei gwylio.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 27, 2004 12:08 yhCytuno y gallen nhw fod wedi gwneud llawer mwy o'r olygfa honno, ac mae Elijah Wood yn hen lipryn bach afiach! Gwylies i hi 'to gyda ffrind oedd heb weld y ffilm, ac roedd e'n gweiddi 'Wancar!' at Wood bob tro oedd e'n ei weld ar y sgrin!
Unrhyw syniad faint mae'r DVD yn ei gostio?
Postiwyd gan: Geraint Criddle, Hydref 27, 2004 12:30 yh