Hydref 19, 2004

Noson Ffilmiau Byr POV - Hydref

Fe fum yn gwylio ffilmiau byrion yn Dempseys fyglyd felyn-frown a dyma grynhoad be weles i (a gweld ambell i aelod Pictiwrs yno am y tro cynta - hwre!).

Lewis Mottram – Stone Blind
Sdwff arbrofol ar gamera MiniDV. Rhy hir, barddoniaeth sal, cerddoriaeth gwael yn jarrio a’r lluniau, golygu erratic a saethiadau di-ofal. Diflas iawn.

Donna Mabey – Letter 3 of The Tulse Luper Suitcases
Y? Rhaid deud fod y ddelwedd led-swreal o hogan yn llarpio pot o fwstard Dijon yn reit ddoniol – ond be uffar ma’n fod i symbylu?

Steve Pierce – The Wallet
Digon difyr chwarae teg, gyda gwaith camera cinetig iawn yn cadw diddordeb gweledol, actio da gan compere POV, a sdori fach gryno.

Widelode Productions – Loguey
Animeiddio collage-aidd, gyda themau gwrth-ryfel, gwrth-gyflafan a soundtrack trip hop...*dylyfu gen* - faint o’r rhain dwi di gweld rwan. Dwi’n gwbod fod lot o bobl angen mynegi eu hunain ond plis newidiwch y diwn fymryn.

Magnificent Pictures – The Haircutters Cut
Ffilm ddogfen spoof gafodd sawl chwerthiniad. Da chwara teg, er fod y trac sain hollol allan o synch i’r llunia. Diweddglo taclus, a esiampl dda o beth gallwch chi neud efo syniad da a kit syml.

Neil Kerslake – Mad World
Dwi ‘di clywed y gan yma ormod yn ddiweddar ond roedd yr intro yma i ffilm ddogfen mae o’n gweithio arno yn cynnwys delweddau mor erchyll wedi’w golygu mor gelfydd o’n i’n methu helpu a’i hoffi.

Matt Freeth – Artificial Intuition
Ffilm 60 eiliad, dechrau’n dda gyda defnydd da o effeithiau camera arbennig, ond roedd y robot yn edrych yn rhy debyg i “Monkey Drummer” Chris Cunningham. Bach gormod o copycat ond digon o steil serch hynny.

Matt Freeth – 4ft Fingers “Forty Years Of Misery”

Fideo gerddoriaeth medrus iawn gyda pholish go dda arni. Oedd y band yn nu-metal shite, ond roedd y fideo’n ffantastic – tasa gen i fand faswn i isio fo neud y fid i fi.

Tom Hope Parry – The Not So Grim

Wedi gweld hon o’r blaen. Animeiddio CGI sy’n edrych yn hynod hen ffasiwn, ond mae’r sgript a’r lleisio yn dda ac yn ei achub rhag bod yn llai na mediocre. Hon gafodd fwya o chwerthiniad ‘fyd rywsut – dwi jest ddim yn gwerthfawrogi slapstick mae’n amlwg...

Postiwyd gan Rhodri ap Dyfrig ar Hydref 19, 2004 11:36 yb
Sylwadau

Sai'n siwr beth oedd y ferch yn byta'r dijon i fod i'w olygu yn union, ond roedd y delweddu o'r ferch yn hoff o'r dijon a'r ferch ddim yn hoff o'r dijon yn cyd-fynd â'r syniad cyffredinol o hanes gwahanol yn digwydd yn yr un lle ar yr un pryd, ar wahanol haenau (syniad a drafodir yn 'Wythnos yng Nghymru Fydd' gan Islwyn Ffowc Elis). Dyna'r rheswm y tu ol i'r synau brwydro, gan mai yng Nghaerllion y'i ffilmiwyd, a'r brwydrau a fyddai wedi digwydd yno oherwydd y Rhufeiniaid.

Gwerth mynd yn sicr; diolch am yr awgrym (anuniongyrchol). Bydda' i bendant yn mynd 'to.

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Hydref 20, 2004 11:36 yh

Falch bo ti 'di joio. Diolch i ti am y dadansoddiad! Faswn i fyth wedi meddwl am hynna...hogyn shimpil wyf!

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 21, 2004 12:12 yb

Do wir. Ers faint mae'r peth 'di bod yn rhedeg? Ac a ydyn nhw'n cael rhyw fath o nawdd gan y Cyngor Celfyddydau (KKK), neu ai nhw sy'n gwneud y peth ar eu liwt eu hunain?

Hmmm, awydd neud ffilm fechan o bosib nawr... Oes hawl neud un yn Gymraeg?

(sori am yr holl gwestiynau) ;-)

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Hydref 21, 2004 09:47 yb

Mae wedi bod yn mynd ers tua 2001/2002, ac mae'n nhw'n cael nawdd gan Sgrin Cymru. Faswn i'n meddwl na fasa unrhywbeth yn dy stopio rhag cynnig ffilm Gymraeg iddyn nhw - neu fel arall fasa angen sgwrs fach efo nhw a deud y lleia!

Nai helpu ti neud ffilm os tisio...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 21, 2004 09:55 yb

Mae'n sicr yn rhywbeth i'w ystyried, os gallwn ni'i gwneud yn rhad ac yn rhwydd. Cael syniad yw'r broblem fawr...

Postiwyd gan: Geraint Criddle, Hydref 21, 2004 12:40 yh

Dyma ambell syniad ar beth yw ffilm fer i gychwyn cogs y meddwl i droi...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 21, 2004 02:17 yh

Ryff geid i sgwennu ffilmiau byrion...fel ti'n deud, jest angen egin syniad.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 21, 2004 02:24 yh

Os oes isie criw ychwanegol arno chi anfonwch neges. Yn eitha parod i helpu, a dwi'n itha da da camera 'fyd.

Postiwyd gan: Fatbob, Hydref 27, 2004 01:25 yh

Hei go dda Fatbob, fasa hyn yn gallu bod yn dipyn o hwyl. Dwi'n nabod boi fasa'n gallu neud sain, sawl actor, a dwi'n siwr fasa'n ddim problem cael camera. Nai anfon neges...

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 27, 2004 02:31 yh
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?