Dyma’r ‘Brit-Flick’ diweddara sy’n dilyn ryseit llwyddiannau diweddar Working Title Films – ond gyda tenis. Wel ‘oedd rhaid i rhywun fynd i weld e yndoedd!
Nid ‘mod i’n falch i mi wneud. Does gen i ddim problem â ‘bach o atal anghrediniaeth o bryd i’w gilydd, ond buasai’r faich o gredu plot ffantasiol Wimbledon yn trechu’r rhamantydd eithaf.
Peter Colt (Paul Bettany) yw’r champ sydd ar fin ymddeol - wedi colli ei egni, ei hyder, a bron i bob gêm iddo chwarae ers tipyn ond mae’n debyg gall cariad newid hyn oll - a dyna sy’n digwydd pan mae Lizzie Bradbury (Kirsten Dunst) yn cyrraedd y sîn ac yn ail-danio awydd ein arwr. Mewn pythefnos. O flaen cefnlen hynod rhywiol pencampwriaeth Wimbledon. (D.S. Dyw cynnwys cyfeiriadau lu at sêr gwib ddim yn fodd dilys o gyfiawnhau’r fath anhebygolrwydd.)
Oce, ‘nai ymdrech i beidio bod mor sinicaidd am ysbaid. Do, lwyddais i eistedd drwy’r ffilm gyfan, a rwy’n meddwl i mi hyd yn oed wenu unwaith neu ddwywaith; mae’r prif-actorion yn gwneud y job yn iawn a’r golygfeydd o’r gamp wedi eu saethu’n ddawnus ac felly’n gredadwy dros ben. Ond er iddi fagu ‘bach o gyhyrau ers ei ymddangosiad diwetha, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith mai sgript ddi-fflach Notting Hill a gawn yma – a dim llawer mwy mae arnai ofn.
Ewch i weld ffilm arall, da chi!
Postiwyd gan Mair Thomas ar Hydref 14, 2004 11:18 ybTi mor sinicaidd, Mair. Nag wyt ti'n credu mewn cariad? Twt lol, wir!
(Croeso i Pictiwrs!)
Postiwyd gan: Geraint C, Hydref 14, 2004 04:05 yhYdi Dunst yn edrych fel chwaraewr tenis o gwbl yn y ffilm? Mae hi'w gweld braidd yn heglog, esgyrniog ac yn beneliniau i gyd o'r trelar (be di trailer yn Gymraeg? dilynydd? Iasu ma trailer yn air twp).
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 14, 2004 05:24 yh