Clasur o 1960 gyda
Ffilm ar BBC2 tua mis yn ol. Digwydd gwylio teledu a dechreuodd y ffilm yma. Dynnodd y ffilm mi i fewn yn syth. Wedi ei seilio yn UDA yn y tridegau, mae’r llywodreth yn adeialdu argae ar y Tennesse i atal gorlifo lawr yr afon, ac i greu trydan. Mae hyn yn golygu boddi tir, a symud llawer o bobl o’r tir. Mae pawb wedi symud, heblaw am un fferm, lle mae hen fenyw a sawl arall yn byw. Ddechreuir y ffilm gyda swyddog newydd Chuck Glover (Montgomery Clift) yn dod i’r dre gyda’r bwriad o symud nhw off y tir. Mae’r ffilm yn sefydlu’r plot yn gyflym, a da ni’n mynd syth mewn i ddilyn y dyn yma wrth ei waith.
Mae yna ddau berfformaid gwych yn y ffilm yma. Nid oeddwn yn nabod yr actor oedd yn chware Glover ond mi oedd yn amlwg fod y dyn yma yn actor arbennig. Mi oed yn edrych yn drawiadaol, ac yn actio’n naturiol. Mi oedd yna ‘Hollywood’ star quality efo fo. Ar ol mi wylio’r ffilm a gwneud ymchwil, darganfyddais mae actor o’r enw Montgomery Clift ydoedd. Anghyfarwydd i mi, ond mae ei sdori yn trawiadol a thrist. Fe bostiai mwy amdano yn y man.
Yr ail berfformaid gwych yw yr hen fenyw, gan Jo Van Fleet. Beth sydd yn anhygoel yw ei od hi’n action menyw llawer yn hyn na hi, er ni faswch byth wedi meddwl hyn tra’n gwylio. Ydi, mae hi’n hen ddynes blin, ond da chi methu helpu teimlo drosd hi, a dyna be sy’n digwydd i Clift, ac yn gwneud y ddisodliad llawer anoddach.
Ynys yng nghanol ar afon oedd y fferm. Wedi byw yna erioed, wedi claddu ei gwr ar y tir, yn hollol glwm i’r tir. Yma mae hi am aros. Perfformaid gwych yn cyfleu y teimliadau yma i’r swyddog. Mi oedd ganddi sawl pobl croenddu yn gweithio iddi. Mi oedd y ffilm yn delio efo’r thema o hiliaeth, ond nid mewn ffordd amlwg. Mae Clift yn creu stwr yn y gymdeithas trwy cynnig yr un tal iddynt a phobl gwyn. Deith hyn a phobl y dre i fewn i’r plot.
Thema arall yw traddodiad erbyn technoleg. Ffordd hen o fyw erbyn y newydd. Hefyd yr aberth mae rhaid i leiafrif wneud I helpu y mwyafrif. Yr unigolyn erbyn dymunaid y llywodraeth.
Elfen arall yw y stori gariad rhwng Clift a ferch yng nghyfraith (Lee Remick) yr hen fenyw. Mae’r dyn yn penderfynnu edrych ar ol hi a'i ferch, a mae pethau yn symud mlaen yn gyflym, er fod y ferch wedi dyweddio i ddyn arall. Mae yn berthynas realisitig, gyda llawer o anhawsterau rhyngddynt, fel y ffaith eu bont yn gwybod mae ond am amser byr mae o yn y r ardal. Mae hi’n mynd yn emosiynol, mae o’n mynd yn dawel. Dwi’n hoffi gweld y fath deimensiwn mewn perthynas, yn hytrach na peth arwynebol gewch chi yn aml yn ffilm.
Yn weledol, mae y ffilm yn cyfleu haf poeth, hiwmid yn Nhennesse yn y 30au yn berffaith. Ma na liwiau hyfryd yn dod o’r golygfeydd o’r afonydd a'r coed. Y cyfarwyddydd yw Elia Kazan, a wnaeth On The Waterfront. Mae y cyfuniad o hwn, sdori gariad credadwy, ar themau cymdetihasol yn gwneud hwn yn glasur i mi. A mae'r olygfa ola yn drawiadol dros ben.
Clasur sydd ddim wedi cael digon o sylw a chydnabyddiaeth.
Postiwyd gan Geraint Evans ar Hydref 14, 2004 11:28 yhDiddorol fyddai gwybod os oes unrhyw un arall wedi gweld y ffilm yma. Oes na?
Postiwyd gan: Geraint Evans, Hydref 15, 2004 09:56 ybFaswn i'n rili hoffi gweld hwn, yn ogystal a Streetcar Named Desire. Ddim wedi gweld East Of Eden i gyd chwaith ond roedd be welais i'n ffantastig, James Dean ar ei ora.
Croeso i'r pictiwrs Mr Evans! A diolch am yr awgrymiad.
Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 15, 2004 10:20 yb"That's Montgomery Clift, honey!" Gwefan am ei fywyd yn fan hyn: http://www.cmgww.com/stars/clift/mclift.html
Wyt ti'n gwbod i'w fywyd gael ei arbed unwaith gan Liz Taylor yn dilyn damwain car ger ei thy (roedd Clift yn hoff o alcohol a chyffuriau a dan ddylanwad adeg y ddamwain).
Ta beth, swnio'n dda - wedi gweld 'On the Waterfront' a 'Streetcar' (gwerth gwylio, Rhodri), ac mae Kazan yn arloesol yn y ffordd y mae'n portreadu emosiynau dwys a chymhleth - mor wahanol i ffilmiau eraill ei gyfnod!
Postiwyd gan: Geraint C, Hydref 15, 2004 11:54 yb