Hydref 13, 2004

Man on Fire (Tony Scott, 2004)

Ffilm yn seiliedig ar lyfr gan A. J. Quinell (sydd wedi dwyn ei ffugenw gan Derek Quinell, mwyar syndod) gyda Denzel Washinton yn chwarae rôl y dyn ar dan sy’n mynd ar derfysg rhuol o ddialedd pam mae’r ferch mae o i fod yn edrych ar ei hol hi’n cael ei dwyn.

Hyd yn oed am ffilm wedi ei gyfarwyddo gan Tony Scott, brawd gorfywiog Ridley Scott, mae lot gormod o effeithiau ffansi yn y golygu i wrthdynnu o lif y ffilm hwn. Nid yw’r camera yn medru aros yn llonydd am fwy nag hanner eiliad, a gyda chymaint o symud yn ail ran y ffilm mae’n hawdd colli gafael ar beth sy’n mynd ymlaen. Mae hyd yn oed yr isdeitlau yn mynd dros ben llestri, gan ymosod ar y gwyliwr o bob cornel o’r sgrin. Erbyn y diwedd mae’r ffilm yn aneglur yn y meddwl, am fod gymaint o doriadau naid ynddo nid yw’n bosib cofio un saethiad yn glir. Does gan y Gymraeg ddim geirfa digon mawr pam mae’n dod i ffilmiau i fedru disgrifio bob techneg maen nhw’n ei defnyddio fan hyn, ond y canlyniad ydi bod y ffilm yn edrych yn bert ond dyw’r gwyliwr ddim callach beth sy'n mynd ymlaen.

Mae'r stori bron yn teimlo fel dwy ffilm, y cyntaf yn adeiladu perthynas emosiynol rhwng Creasy (Denzel Washington) a'r ferch mae o yn cael ei dalu i edrych ar ei hol hi, Pita (Dakota Fanning). Mae ffilm fel hyn fel arfer ddim ond mor dda â’r cysylltiad rhwng y cymeriadau mae’n meithrin yn yr hanner cyntaf (gweler Aliens am esiampl dda o hyn), ac mae rhaid dweud bod y ffilm hon yn llwyddo i wneud i’r gynulleidfa boeni am dranc Pita a Creasy. Ond mae’n bwysig hefyd bod y holl feithrin emosiynau a storiâu yn talu ffwrdd yn yr ail ran, a dyna le mae’r ffilm yn methu. Wedi I’r anochel ddigwydd, mae Creasey yn gollwng y gwersi moesol ddysgodd o gan Pita bach ac yn mynd ati i saethu ei ffordd drwy strydoedd Dinas Mecsico fel pe bae’n hela Sarah Connor. Ond mae’r artaith a’r gwaed yn hwyl i’w wylio, gyda Creasey yn cymryd pleser mawr mewn lladd y bobl drwg yn y ffyrdd mwyaf creadigol a phoenus bosib. Mae twist bach yng nghynffon y stori hefyd, ond un sy’n hollol amlwg yr holl ffordd drwy’r ffilm.

Beth sy’n safio’r ffilm yw’r perfformiadau a’r gosodiad. Mae Washinton yn wych unwaith eto fan hyn, yn dod a chydymdeimlad i ddyn sydd ddim llawer mwy nag ystrydeb ar ddwy goes. Mae Dakota Fanning fel Pita yn llwyddo hefyd, drwy beidio cythruddo’r gynulleidfa fel bron bob plentyn bach arall ar y sgrin heddiw. Maen nhw’n angor i ffilm sydd ddim yn medru aros yn llonydd. Roedd y nofel wreiddiol wedi ei lleoli yn yr Eidal, ond mi wnaeth y sgriptwyr y dewis iawn yn symud yr hwyl i Fecsico. Mae’n gefndir gwych i’r ffilm, ac wedi cymaint o ffilmiau safon uchel wedi ei lleoli yn De America mae’n syndod nad yw pob cyfarwyddwr yn codi ei gamera ac yn rhedeg draw yno a’i wynt yn ei ddwrn. Diolch i’r ddau ffactor yna mae nifer o wendidau’r ffilm yn cael ei anghofio. Y perfformiadau, y lleoliad a’r trais dros ben llestri fydd yn glynu yn y cof wedi i chi adael y sinema.

Postiwyd gan Ifan Morgan Jones ar Hydref 13, 2004 11:08 yh
Sylwadau

Ti'n iawn am y diffyg geirfa, ond mae'n ddifyr trio cyfieithu, a drwy wefannau fel hyn mae'r Gymraeg yn gallu ehangu ei geirfa mewn pynciau mwy arbennigol.

Mae gen i eirfa ffilm a theledu da ni'n ei ddefnyddio yn gwaith os ma rywun isio copi.

Postiwyd gan: Rhodri ap Dyfrig, Hydref 14, 2004 09:18 yb
Beth wyt ti'n ei feddwl?









Cofio'r manylion hyn?